Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

godre

godre

Camodd Carol oddi wrth y ffôn, ond daliodd i syllu arno an anwybyddu cwestiynau parhaus Owain a'r ffordd yr oedd Guto'n tynnu godre ei sgert.

Dringasom i fyny o'r heol sy'n arwain i Landysul yn ymyl pont y rheilffordd sy'n ei rhychwantu, gan daro'n lwcus ar un o gyn-weithwyr y rheilffordd, yn pladuro godre'r embancment.

Dyrnaid o gerrig man, yn ol y rheolau, i guddio unrhyw annibendod yn y godre.

Mae'n drist meddwl na chaiff merched godre Ceredigion arlwyo gwledd ar gyfer y tywysog mwyn byth mwy ar ben yr odyn yng Nghwmtydu.

Wedi i ddwy fuwch a dynewad a llo fod yn y beudy trwy oerni'r hirlwm, erbyn dechrau Ebrill, mi fyddai'r tamaid awyr fyddai i'w weld trwy'r drws o'r beudy dros ben y domen yn mynd yn llai ac yn llai a'r llwybr i basio rhwng y drws a'i godre yn mynd yn gulach ac yn gulach.

Rhwng godre'r graig a'r ffordd mae llecyn brwynog lle gynt y bu ffynnon a elwid yn Ffynnon y Brodyr - mwy am honno yn y man.

Fe awgrymodd un o ddatgeiniaid eiddgar Godre'r Aran fy mod i yn ei galw, ac nad amheuai na chawsid cefnogaeth iddi.

Gweinidogaethai Phylip Griffiths yntau yng Nghwm Nedd yn ogystal ag yn yr Allt-wen a Godre'r Rhos.

Mae hefyd yn rhestru cerddoriaeth a chanu ymhlith ei weithgareddau hamdden gan ei fod yn gyn-gadeirydd côocirc;r cymysg Godre'r Garth ac yn aelod o Barti'r Efail, parti cerdd dant sy'n cyfarfod yn Efail Isaf.

Mae Eiryl yn edrych o gwmpas i wneud yn siŵr ei fod yn gwybod ble'r ydych, yna mae'n dweud "Rydym yn sefyll ar ochr dde-orllewinol y goedwig sy'n amgylchynu Godre.

Dangosa'r fodrwy hon iddo, ac fe fydd yn siŵr o'th gynorthwyo." Mae'n estyn modrwy aur i ti, yna gan estyn ei law i ffarwelio, mae'n dweud, "Gwell i mi ddychwelyd i Godre nawr i roi help llaw i Cedig ddod o hyd i Cadlais.

A robin yn camu fel esgob gan stwytho a lledu godre'i blu.