Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

goeden

goeden

Ganddo ef nid coeden gyraints duon fyddai'r goeden ond coeden dyfu perlau, a masnachwyr perlau Llundain wedi gwisgo colyn llidiard yr ardd i lawr i ddim, gan amled eu mynd a dod i gyrchu'r perlau dihysbydd hyn.

Neidiodd o'i groen bron pan ehedodd aderyn yn swnllyd o'r goeden wrth y wal a chwarddodd yn uchel wrth ei weld ei hunan yn gymaint o fabi.

"Mae yna farciau ar ddwy goeden hefyd," meddai.

Y mae'r ddau, dyn a llysieuyn, yn angori wrth rywbeth diogelach nag ef ei hun fel iorwg wrth goeden, mwswgl wrth garreg neu blentyn wrth ei fam.

Pan es i lawr yr ardd ddoe mi welais fod pethau'n dechrau rhyw ymsymud o'u trwmgwsg fel y goeden Forsythia a oedd yn gawod o flodau melyn a'r rheini yn disgleirio yn haul oer y prynhawn.

Mae'n anodd credu bod y dderwen yn ffurfio'r holl fes bob blwyddyn, a hynny dim ond i sicrhau eginiad a dat- blygiad un goeden i gymryd lle yr hen goeden wedi iddi oroesi cyfnod ei chryfder.

Y gath yn gwrthod dod i lawr o ben y goeden o flaen y tŷ, galw ar y frigâd dân a'r rheini efo ystolion mawr yn dringo i'w nôl hi.

"Rhywun wedi clymu wifren gref ar draws y ffordd o un goeden i'r llall!

Roedd y ddraenen yn goeden sanctaidd i'r pagan a'r Cristion.

Tyf llawer ohonynt ar goed yn y trofannau, nid yn isel ar y goeden mewn tywyllwch llaith fel y dychmygwn, ond yn agos i'r brig mewn goleuni da ag awyr iach.

O'i brigau uchaf i lawr i ben draw'r gwreiddiau mae'r goeden yn gartref i rai cannoedd o greaduriaid.

Petai'r goeden gyraints duon honno gan yr estate agent , ac yntau eisiau ei gwerthu, ni fuasai'n chwarae o gwmpas gyda rhyw lol am haul a lleuad.

'Mae 'na sach wen wedi'i chuddio yng ngwreiddiau'r goeden,' oedd yr ateb.

Ymysg y coedydd cochion a melyn yma, ar ymylon y goedwig ac yng nghysgod y coed mae yna ddwy goeden fach, na feiddiwch eu cyffwrdd.

Cysylltwyd y dderwen ag enw'r dewin Myrddin ac yn ôl un o'i broffwydoliaethau byddai'r dref yn cael e dinistrio pe syrthiai'r goeden.

Gallai pobl ifanc fynd at y goeden a sibrwd enw'r un roeddynt yn ei garu, ac yna byddai'r goeden yn lledaenu'r neges i'r pedwar gwynt.

Tra byddai'r hoelen yn y goeden ni fyddai'r ddannodd yn dychwelyd gan fod y boen wedi ei drosglwyddo i'r pren.

Ilicin yw'r gwenwyn sydd yn amddiffyn hâd y goeden gelyn, cemegyn sydd yn gallu achosi llesgedd, cyfog a dolur rhydd yn y sawl sy'n mentro ei fwyta.

Ac mi gawsom ni hyd i'r gath wedi'i chrogi ar gangen y goeden afalau yn yr ardd.

Mae pawb dipyn bach yn dwp ar ôl clywed y stori%au ysbryd yma." Dringodd y pump i fyny'r ysgol raff i'r ffau yn y dderwen a bodlonodd Smwt i eistedd yn gwarchod wrth fôn y goeden.

Dewch draw i weld." Roedd cylch o risgl wedi ei wasgu a'i dorri rhyw fetr uwchlaw'r ddaear ar foncyffion y ddwy goeden.

Yn ôl yr hen Asteciaid; duw'r aer, Quetzalcoatl - leciwn i ddim bod yn fam iddo fo yn gweiddi arno fo o ben drws cefn tþ am i swpar - ddaeth â hadau'r goeden Cacao o Baradwys i'r ddaear.

Yn y gwanwyn mae'r blagur yn chwyddo ac yn agor i orchuddio'r goeden a chanopi o ddail.

dylai hynny fod yn ddigon i beri i unrhyw lygoden feddwl ddwywaith cyn ymosod ar hâd y goeden Ilex.

Roedd yr onnen hefyd yn goeden sanctaidd, yn garedig wrth bobl, yn eu gwella a'u gwarchod rhag rhaib gwrachod, os cedwid peth o'r pren a'r dail yn y tŷ.

Roedd y goeden wedi tyfu o ffynhonnell popeth a'i changhennau uchaf yn ffurfio'r ffurfafen.

Y goeden fytholwyrdd a welir mewn mynwentydd gan amlaf yw'r ywen.

Ac mi fyddaf yn rhyfeddu at y goeden hon bob blwyddyn gan na wn am unrhyw goeden arall sydd yn blodeuo cyn deilio þ sef mynd yn hen cyn bod yn blentyn!Y Ferch Dawel - Manon Eames (tud.

Gellir cysgodi o dan ddraenen mewn storm a bod yn hollol ddiogel gan ei bod yn goeden amddiffynnol.

Mae'n symbol o fywyd tragwyddol am ei bod yn goeden sy'n byw am ganrifoedd gan gysylltu'r gorffennol, y presennol a'r dyfodol.

Os ydych yn dioddef o salwch gall y goeden eich helpu i wella.

Gwledda yw bwriad yr aderyn, ond gwasgaru hadau yn y modd rhataf posibl yw amcan y goeden.

Torrid llinyn ei fogail allan a'i hoelio i dderwen, yna fe i gorfodid i gerdded o gwmpas y goeden nifer o weithiau nes bod ei berfedd wedi ei dynnu allan a'i ddirwyn o gwmpas y pren - bywyd am fywyd.

Yng ngwlad Pwyl gellid claddu pechodau o dan yr ysgawen gan y byddai'r goeden yn eu derbyn.

Roedd trimins yn cael eu cnoi yn ddim a bu bron i'r Santa bach fethu a chyrraedd pen y goeden mewn un darn.

Er mwyn ennyn bendith y duw hwn roedd hi'n arfer gynt i 'gyffwrdd â phren' - i gusanu neu gofleidio'r goeden.

Roedd hi'n goeden fawr, yn goeden gref, a'i changhennau praff yn gynnig cysgod llydan rhag gwres yr haul neu gawod o law.

Byddai'r goeden yn cynhyrchu deunydd ar gyfer amrywiol feddyginiaethau oedd yn ymwneud â gwendid ar y sustem nerfol, mêr yr asgwrn cefn a'r ymennydd.

Eisteddodd Buddha o dan goeden peepal - coeden gwybodaeth.

Pan wêl y bleiddiaid eraill eu harweinydd yn farw fe giliant allan o'th golwg ond gwyddost eu bod yn dal yno yn disgwyl i ti ddisgyn o'r goeden.

Fel y gwelwch yn y llun mae'r goeden yn ymddangos yn farw gan ei bod wedi ei dinoethi o ddail - mae'n enghraifft o goeden goll ddail.

Hon yw'r goeden a gysylltir yn draddodiadol gyda gwrachod.

Mae'r goeden yn symbol o'r Atgyfodiad ac fe i defnyddir i addurno eglwysi adeg y Pasg.

Beth bynnag, wn i ddim yn union ar ba gangen o'r goeden achau dwi'n sefyll ar hyn o bryd, os newch chi faddau i mi am gymysgu delweddau am eiliad; wn i ddim os ydw i yng nghorlan y defaid gwynion neu'r defaid duon ('da chi'n gweld, roedd hi'n anodd gosod dafad ar goeden, neu frigyn, neu mewn nyth, yn doedd?).

goeden Acer saccharum yw'r bwysicaf o'r coed masarn, y hi piau'r ddeilen ar faner Canada.

Ambell flwyddyn yr ydym wedi bod yn ddigon ffodus i gael stoncar o goeden syn edrych fel pe byddai wedi gallu byw tan yr haf! Y llynedd, wedyn, yr oedd hi'n geoden drychinebus gyda nodwyddi yn cwympo ym mhob man.

Ar ôl aros am ychydig i wneud yn siŵr eu bod wedi mynd rwyt yn disgyn o'r goeden.

Yna clymid dau hanner y goeden yn ôl yn dynn ac fel y tyfai'r goeden yn un unwaith eto byddai'r plentyn yn gwella.

Daw rhai anifeiliaid at y goeden i chwilio am fwyd, e.e.

Mae'r cynnwrf yn cychwyn hyd at ddwyawr cyn y gystadleuaeth ei hun a'r teirw yn cyrraedd fesul un a dau - rhai ar gefn pick-ups bach, eraill yn cael eu cerdded ond pob un yn cael ei dywys i'w le bach ei hun lle mae'n cael ei glymu rhwng dwy goeden.

'Mae'r bachyn wedi mynd i wreiddyn y goeden acw sydd wedi syrthio ar draws yr afon.'

Cytunodd pawb y dylai'r llofrudd gael ei glymu wrth goeden a'i saethu.

Eleni, mae clamp o goeden yn sefyll yn browd yn ein lolfa da Santa yn ei choroni yn hytrach na'r angel arferol.

Gan fod Cardi wedi lladd bron i bob planhigyn yn y ty - gan arbenigo mewn planhigion Yukka - maen amlwg nad oes caniatad iddo ef fynd i'r lolfa o gwbl pan fyddwn ni allan neu byddai'r goeden yn ufflon.

Roedd yr onnen yn goeden oedd yn ffefryn gan gariadon.

I gael clywed y rhestr i gyd cofiwch am Y Goeden Roc nos Lun am 18.12 ac wedyn b'nawn Sadwrn am 12:30.

Bydd y goeden afal yn dwyn ffrwyth cynyddol bob blwyddyn dros y 5 mlynedd nesaf yn union fel y bydd Cymdeithas yr Iaith yn disgwyl i'r C.C.T.A. fabwysiadu cynllun 5 mlynedd i greu Coleg Cymraeg i Sir Gaerfyrddin.

Yn ei ardd, bydd yn gweld y goeden yn ei chyfanrwydd.

Fe alla i ddringo ar hyd y goeden a'i gael yn rhydd.

Mi fydd yr hen gathod acw yn mynd i ben y goeden sy'n talcen tŷ 'cw hefyd.

Anweledig fydd prif ganolbwynt y rhaglen olaf yn y gyfres Y Goeden Roc efo Owain Gwilym yn ei chyflwyno.

Yn yr achos yma mae Gwyn yn gweiddi enw'r goeden bob hyn a hyn yn ddigon doniol.

Yr eiliad honno sylwodd fod sach blastig wen wedi ei gwthio i'r dorlan, rhwng gwreiddiau'r goeden a'r llwybr uwchben.

Y mae'r darlun o Ardd Eden yn ddarlun parhaol o dwf gwybodaeth; y mae'r dehongliadau amrywiol o Hamlet yn dangos tueddiadau cynhyrchwyr o gyfnod arbennig; y mae llun Beckett o Estragon a Vladimir yn aros tan y goeden yn ddarlun o gyflwr o golli ffydd y Pumdegau, ond mae o hefyd yn ddarlun o gyflwr o ddiffyg nod sy'n barhaol ddiddorol.

Mae'r sudd yn tywallt allan o'r goeden wrth i'r nodd godi i'r dail yn y gwanwyn.

A hithau'n goeden fythwyrdd, mae batri hon yn rhedeg gydol y gaeaf.

Rhaid i'r goeden daro yn ôl yn erbyn y llygod a'u castiau drwg.

"Ymladdodd y goeden yn erbyn y gwynt er bod hwnnw yn llawer rhy gryf iddi.

Torrid y goeden i lawr ei chanol a gwneud i'r plentyn gerdded rhwng y ddau hanner o leiaf dair law ei dad i ddwylo dyn arall.

Yr oedden nhw'n cynaeafu cnau y goeden Cacao filoedd lawer o flynyddoedd cyn i Mr Cadbury drio'n gwneud ni i gyd yn Ffrþt an Nyt Cesus a chodi ei deml yn Bournville.

Dyna pam fod rhai pobl yn credu ei bod yn ddiogel i gysgodi o dan dderwen yn ystod storm, am na fydd y mellt yn taro'r goeden.

Ond, hitia di befo, deuai'r dillad allan yn glaer wyn!' Stori arall fyddai hanes cael y gath o ben y goeden a oedd wrth ochr y tŷ.

Credid mai ar y goeden hon y crogodd Jiwdas Iscariot ei hun ac fe'i hystyrid yn goeden anlwcus iawn.

Daw eraill at y goeden i gysgodi rhag y tywydd neu i guddio rhag y creaduriaid ysglyfaethus e.e.

Astudiaeth o goeden arbennig sydd yma, ond cyfleir rhywbeth o dynfa'r tirlun cyfan.

am goeden cenedl.

Ac addurniadau, a chracyrs, a phethau i'w rhoi ar y goeden, a fferins i'r plant...

Ac mae'r tirwedd hefyd yn rhan o achos y cynefindra - y dyffrynnoedd gwyrdd rhwng y bryniau yn y glaw llwyd, y meini a'r cromlechi yn fud dan orchudd y niwl, y goeden unig yn y gwynt.

Y goeden sy'n llenwi'r rhan fwyaf o ddigon o'r gofod ac eto mae'r awyr y mae'n ei chuddio hefyd yn llawn nerth deinamig.