Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

goedwig

goedwig

Ar garreg arall, mewn llythrennau cyhyrog, sgwâr, roedd brawddeg syml wedi'i cherfio uwch bedd y bardd Kazys Boruta: `Ewyllys yr awel rydd a chwyrli%o'r goedwig las.' Ymlaen heibio tro yn y llwybr ac roedd cerflun o angel fel petai ar fin codi oddi ar ymyl dibyn.

Mae'r chwibanu'n peidio ar unwaith ac mae'r goedwig yn hollol dawel.

Ymysg y coedydd cochion a melyn yma, ar ymylon y goedwig ac yng nghysgod y coed mae yna ddwy goeden fach, na feiddiwch eu cyffwrdd.

Mae nifer o'r adar sy'n ymweld â'r llecyn cadwraeth yn adar y goedwig ac maen nhw'n tueddu i barhau i fwydo ar yr un lefelau ag y bydden nhw'n ei wneud yn y goedwig.

Mewn anialwch yn Arizona UDA mae Parc Cenedlaethol enwog o'r enw y Goedwig Garreg.

O'r rhain y daeth hadau'r blodau gwylltion y mac'r goedwig erbyn hyn yn enwog amdanynt.

Oedd dad yn "chap" ar gefn ei geffyl ac felly yr ai i'n goedwig ar y mynydd i edrych hynt yr anifeiliaid.

Dywedodd wrthyf un tro, fod ei fywyd bore oes i'w gael yn Y Pentre Gwyn - cyfnod y chwaraeon, y potsio, yr hel priciau yn y goedwig, y cyrchu dwfr o Ffynnon Dolafon, ac mai darlun ohono ef sydd yn 'John Ty Pell', ac yn Y Golud Gwell fel 'Arthur Puw,' sef y bachgen y byddai pobl yn gofyn i Betsi Puw - 'Ai eich bachgen chwi ydyw,' pryd yr atebai yn swta - 'Y fi sy'n ei fagu o'.

Rwyt yn dy longyfarch dy hun am fod mor hirben â'i gael i'th arwain; fe fyddi allan o'r goedwig ofnadwy yma ymhen dim amser.

Gofynni iddo dy arwain ar unwaith i'r fan lle y gwelodd hwynt, ond fe awgryma ef y byddai'n well i ti dreulio'r noson yn y caban ac iddo fynd â thi i ben draw'r goedwig fore trannoeth gan fod y marchogion yn dilyn prif lwybr y goedwig, ond fe ŵyr Morgan am lwybr tarw a fydd yn dy arwain drwy'r goedwig yn gynt.

Am ddau ddiwrnod cyfan bu Idris yn crwydro drwy'r goedwig, ond y trydydd dydd, yn y bore bach, cyrhaeddodd wlad brydferth yn llawn mân fryniau a dolydd, afonydd yn llifo drwy'r cymoedd, pentrefi bach yn britho'r wlad a chestyll urddasol yma a thraw ar y bryniau.

Yn sydyn, daethom allan i ddarn clir o'r goedwig lle roedd pistyll mawr yn dymchwel dŵr gwyn i'r cerrig glas.

Y mae wedi dy arwain i ganol y goedwig ac rwyt ar goll yn llwyr.

Mae'r rhan hon o'r goedwig yn ddieithr i ti gan mai coedwigwr arall, ac nid dy ewythr, oedd yn gyfrifol am gadw'r llwybrau hyn ar agor.

Nid y fo fuodd wrthi neithiwr yn rheibio'r goedwig ac yn dwyn y dail.

Syllodd Ibn i'r goedwig ar y naill du a thybiodd iddo weld rhywun yn llechu yno ond ni allai fod yn hollol siwr.

Y peth mwya tebygol ydi bod un o'r gweision wedi gadael drws y celloedd heb eu cloi, a'u bod nhw wedi llithro allan a chael hyd i guddfan mewn rhyw fwthyn dinod yng nghanol y goedwig.

Mae Eiryl yn edrych o gwmpas i wneud yn siŵr ei fod yn gwybod ble'r ydych, yna mae'n dweud "Rydym yn sefyll ar ochr dde-orllewinol y goedwig sy'n amgylchynu Godre.

Oedd ganddo ych anferthol wedi ei ddofi a'i ddysgu fel pan oeddent yn llwyddo i ddal anifail gwyllt yn y goedwig, 'roeddent yn ei rwymo wrth gyrn yr hen "Dic" ac yntau yn eu harwain i lawr at y tŷ.

Rwyt yn rhedeg nerth dy draed drwy'r goedwig â changhennau'r coed yn chwipio ac yn crafu dy wyneb.

Petai'r Tomosiaid wedi holi eu mam beth oedd draw yn y fan honno, fe ddywedasai hi wrthynt fod ffermdy yno erstalwm - cyn i'r goedwig gael ei phlannu.

Tra'n paratoi bwyd fe ddywed Morgan iddo weld dau farchog yn y goedwig y diwrnod hwnnw.

Aeth â ni am ychydig o filltiroedd trwy goedwig dew nes inni ddod at wastadedd eang ynghanol y jyngl; yno safai Anghor Wat yn ei holl ogoniant wedi'i amgylchynu â llyn; yn y dþr gwelem ychen gwyllt yn nofio'n urddasol fel y gwelem ychen lawer gwaith o'r blaen yng ngwledydd De Ddwyrain Asia yn nofio yn unrhyw ddwr y caent afael arno.

Y tebyg yw, fodd bynnag, fod y goel yn llawer hyn na hynny - atgof o gred ein hynafiaid yn nuw'r goedwig.

O'n cwmpas, cannoedd o lyffantod mawr yn crochlefain ac wrth ein pen yn y goedwig, yr adar lliwgar yn gwatwar fel tonic solffa.

Y cyfnewidiad amlwg yw lliwiau'r hydref yn y goedwig.

Wedi mynd trwy'r glyn cul, yr oeddwn yn cerdded trwy goedwig am y tro cyntaf, ond y mae muriau Val Susauna bedair mil o droedfeddi uwch eich pen erbyn ichwi gyrraedd Alp Pignaint, a chreigiau gwylltach eto yn gwarchod mwynder y porfeydd.

Ni allai holl bersawrau'r Dwyrain a holl gyffuriau a balmau melys y goedwig ladd yr aroglau a ddringai o bryd i'w gilydd dros ei min pan gusanent.

Ailblannu tri chwarter y goedwig.

Yn sicr, fe ymddengys fod y bwci'n gwybod ei ffordd gan ei fod yn torri drwy'r goedwig yn hyderus iawn gan droi o'r naill lwybr i'r llall heb oedi eiliad i ystyried a yw e'n dilyn yr un cywir.

Ac yr oedd y rheini yn Hafod y Coed, yr hen ffermdy diarffordd yng nghanol y goedwig.

Bydd y wiwer a sgrech y coed yn eu claddu gryn bellter oddi wrth y goedwig, a dyma un o'r ffyrdd y cafodd y deri eu gwasgaru ar hyd a lled y wlad.