Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

goesau

goesau

'Rydan ni'n gwmni sy'n gwneud elw.' 'Ydach chi?' Daeth i sefyll yn syth o'i blaen, ei ddwylo yn ei bocedi, ei goesau'n dalsyth.

Roedd ganddi goesau mor fain a phengliniau mor esgyrniog.

A'r peth nesaf y gwyddai Meic, roedd yn gwibio'n nes at yr anghenfil disglair gan ergydio at ei goesau gyda'r fwyell.

Byseddodd defnydd cras ei drowsus a cheisiodd ddychmygu mai jîns oedd ganddo am ei goesau.

a) Cadwch holl goesau/ olwynion eich cadair ar y llawr.

Roedd ar Bleddyn eisiau troi a rhedeg i ffwrdd ond ni wnƒi ei goesau symud.

"Wel," medd y milwr gan dynnu ei gleddyf o'r wain, "efallai ei fod yn farw, ond gwell i mi wneud yn siŵr," Mae'n codi'r cleddyf uwch ei ben ac ar fin dy drywanu pan wyt yn troi'n sydyn, yn codi dy goesau ac yn ei gicio yn ei stumog.

Jaco, dywed wrtho fo be ydi'r dasg gynta.' Cododd Jaco'n swrth o'i sedd ar y fainc yn y gornel, cerddodd yn ddioglyd at Dei a sefyll o'i flaen a'i goesau ar led.

Cawsant drafferth fawr i'w gael allan o'r awyren gan fod ei goesau'n sownd.

Deud wrthi mai trwsgwl oeddan ni tro dwytha, trwsgwl a blêr, glaw ifanc oeddwn i, yn goesau i gyd fel ebol newydd, doeddwn i heb arfer wrth bwrdd - cofia ddeud wrthi bod yn ddrwg gen i am y llestri - a beth bynnag, chdi oedd y drwg yn y caws go iawn, chdi ddaru droi'r byrddau a chwalu'r lluniau a chwythu'r tân i fyny'r simdde.

Yr oedd ar fin galw Rageur a Royal pan deimlodd ei goesau'n crynu.

Dywedwch wrth y ci fod mwy o gig ar goesau'r estate agent, yr hyn sy'n debyg o fod yn llythrennol wir, am amryfal resymau.

Dyna paham mai creadigaeth pechod a man geni heresi ydi pob tre.' Ni allai Ieuan Ddu lai na dyfalu be oedd gan hwn i'w wneud â llosgi eglwys Dolbenmaen, ond roedd ei lygaid yn goch gan flinder a'i goesau'n gwanio oddi tano.

Unwaith neu ddwy meddyliodd am gymryd y goes oddi yno ond wedi syllu ar goesau hirion Mwsi gwyddai nad oedd obaith iddo fedru dianc.

Dyn heb goesau'n cael medal am fynydda!

Meddiannodd ei swyddfa unwaith (er ei fod yn sefyll yn y drws) drwy ymwthio rhwng ei goesau.

Symudodd un o'r llenni trymion rhyw fodfedd o'r neilltu er mwyn cael gweld yr ymwelydd yn cerdded oddi yno a'i gynffon rhwng ei goesau.

Fe gawson ni ein bygwth tra'n ceisio ffilmio gŵr oedd wrthi'n torri camel yn ddarnau, yr anifail wedi'i rannu'n goesau, pen, gwddf a thafelli o gig coch ac ar fin cael eu hongian ar un o stondinau prysur y farchnad.

Doedd ei goesau ddim yn dda iawn bellach.

Ymsythodd yn araf a thynnodd ei goesau oddi ar y bwrdd.

camodd i 'r dŵr ^ r ac am eiliad fferrodd ei goesau gan yr oerni sydyn.

Ar yr un pryd, mae ysbytai ar hyd a lled Cymru'n gwario degau o filoedd o bunnoedd ar drefniadau diogelwch, o dagiau i'w clymu am goesau'r babanod i gamerâu a drysau diogelwch.

`Wel mae criw o fynyddwyr holliach wedi gofyn imi eu harwain nhw ar daith i'r mynyddoedd mwyaf ohonyn nhw i gyd.' `Yr ...?' `Ie, yr Himalayas.' Roedd y dringwr heb goesau eisoes yn wynebu ei her nesaf.

"Ac yn waeth fyth, maen nhw'n disgwyl i ddyn heb goesau ein harwain ni!" meddai un yn drist.

Cymerwch ofal." Clymodd Douglas y rhaff o ddillad yn sownd wrth un o goesau ei wely pan oedd pob man yn dawel y noson honno.

Roedd catharsis y noson flaenorol wedi gadael ei ôl, fodd bynnag; cleisiau glasddu a chlwyfau dwfn ar ei ddyrnau a'i goesau, ond eisoes roedd ei system fetabolig gyflym yn gweithio'n ddiwyd i ddileu'r rhain.

Cariai'r tad fwndel o ddillad carpiog, a phâr o goesau tenau a wellingtons yn ymwthio allan ohono.

Pe bae yna rhyw ddiffyg gweledol gan y person hwnnw, fel trwyn hir, neu goesau ceimion, yna byddai'r ffolant salw yn crybwyll hynny.

Dechreuodd ymarfer cyn gynted ag y cafodd ei goesau artiffisial.

Ac er bod dyn ifanc di-goesau yn begera wrth borth y capel yn Laitumkhrah, roedd y llyfr emynau o roddwyd imi ar ddechrau'r gwasanaeth yn llwythog gan enwau cynefin: Treforus, Cwm Rhondda, Rhosymedre, Abertawe, Capel y Ddôl, Blaenwern...

Roedd Douglas Bader wedi dechrau blino, a thop ei goesau yn brifo yn ddychrynllyd.