Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gofid

gofid

Wel, pa les mynd o flaen gofid?

Yr un modd roedd ffydd rhai o bobl Rwsia y deuai iachawdwriaeth i'w rhan o gyfeiriad gwledydd rhydd, ffyniannus y gorllewin yn peri gofid i ddyn yn aml.

Y tro hwn, gwraidd y cyffro a'r gofid oedd dwy ferch sy'n chwyrli%o drwy fywyd fel corwyntoedd.

Mae'n peri gofid i mi'n aml i weld cyn lleied o'n llywodraethwyr sydd ag unrhyw gefndir o'r fath.

Addas yw gofid Enid fel y buasai i ferch am ei chariad mewn twrnameint uchelwrol.

Brathodd ei gwefus a chrychodd ei thalcen mewn gofid ac nid oedd atgoffa'i hun bod ei mam wedi aros yn y Ty Mawr am fwy na thair wythnos cyn hyn, yn fawr o gysur.

Er gwaethaf y gofid ynghylch colli 73 o swyddi'r wythnos yn y byd amaethyddol a'r colledion pellach ym myd cynhyrchu, cafwyd arwyddion cadarnhaol.

(b) Defnyddio ynni yn ychwanegol i'r 'gwasanaethau hanfodol', ond heb gynnwys ymarfer corff e.e., oherwydd pryder/gofid.

'A dyna'r gofid,' meddai ei brawd, Tom, '- blaenau'r cymoedd, lle'r oedd y Gymraeg ar ei chryfa', gafodd eu heffeithio gan y meddiannu..

Dyna pam roedd Sydna, y forwyn fawr, yr eiliad honno, ar riniog y drws ffrynt yn ceisio boddi y gofid â'i chroeso a'r hwsmon, Obadeia Gruffudd, ar ei liniau ar lawr cegin y gweision yn chwilio am feddyginiaeth wahanol.

Gan sefyll o hirbell gan ofn ei gofid hi, a dywedyd, `Gwae, gwae, y ddinas fawr honno, Caethwasiaeth, y ddinas gadarn, oblegid mewn un awr y daeth dy farn di.' [ac ymlaen, ac ymlaen, ac ymlaen]

Gan hynoted oedd ei oslef a chan mor arbennig oedd ei arddull, ac, ar un adeg, gan mor unffurf oedd ei wisg - crys coch a siwmper goch (ni hoffai siwt) - a chan ei fod mor gaeth i'w bibell a'i sbectol, yr oedd yn wrthrych parod i'r parodi%wr, er gofid mawr i'w fam, ac, weithiau, iddo ef ei hun.

GWAELEDD: Gofid ychwanegol oedd deall fod y Ficer hefyd wedi cael ei gymryd yn ddiweddarach i Ysbyty Gwynedd, ond yn ffortunus byr fu ei arhosiad yno ac y mae yn awr adref unwaith eto.

Gofid y Llys oedd gallu'r gweithwyr ym Mhwllheli i gadw'u pennau.

Clywed sgwrs Pwal y porthmon a'i thad-cu Thomas Pritchard, oedd wedi achosi ei gofid.

Yr hyn a barodd y gofid mwyaf i Elisabeth ai thad-cu oedd bod byddin y Senedd yn cyrchi i Frycheiniog am fod Brenhinwyr Dyffryn Wysg yn bygwth codi a chipio Aberrhonddu.

Er gofid, cytunwyd nad oedd modd yn y byd i'r Cynulliad rwystro'r gyflafan a gafwyd yn nhermau swyddi.

Gofid y sylwebyddion hyn, mae'n amlwg, yw nad oedd bywyd y Cymry na'u llenyddiaeth na'u chwaeth ddarllen mor bur ag y dymunent iddynt fod.

Ond gwrthodiad pendant a gafodd a pharhaodd Bowser i dramwy heibio'r fferm yn ffroenuchel gan anwybyddu'r boen a'r gofid a fodolai yno.

Roedd yn rhaid iddi beidio a dangos ei gofid i'w theulu ac roedd yn ddigon tebyg ei bod yn gofidio heb achos.

Bu'n rhaid mynd at yr Heddlu yn y Drenewydd i adrodd am y lladrad, ac wrth gwrs yn eu hofn a'u pryder dyma'r holl stori yn dod allan a'r manylion i gyd, oherwydd, erbyn hyn, eu gofid mwyaf oedd am gorff y famgu.

Ac os gorthryma gofid arnat, managa ar dy gydymdeithon'.

Un o themau cyson y dyneiddwyr yw eu gofid dros dynged y Gymraeg.

Pwy ond Jacob a allai droi sefyllfa o'r fath yn gyfrwng gwên a gofid, gan gloi ei ddameg gyda her o gwestiwn: 'Pwy dynn ei gôt?' Aeth blwyddyn gron heibio cyn i neb weld Yr Ymofynnydd yn ymddangos drachefn â chlawr melyn braf amdano, gyda'r golygydd yn cyfaddef i'r cywilydd a donnodd drosto oherwydd iddo 'orfod tynnu côt oddi ar gefn yr hen ŵr' a'i anfon allan 'fel sgerbwd noethlym, gwyn'.

Fodd bynnag, o wneud hyn, yr hyn fydd yn digwydd fydd ychwanegu gofid ar ben gofid.

Gofid Enid yw ei hofn mai hi sydd ar fai fod Geraint wedi colli blas ar ymladd a thwrnameint, yn ôl pob golwg.

Meddai ar bob dawn sy'n angenrheidiol i'r grefft, ac nid oes amheuaeth na fwynhaodd y gwaith drwy gydol ei fywyd, er cymaint y cyfrifoldeb a'r gofid.

A'r adroddiad ymlaen i fynegi gofid bod y rhaglen a gynigir yn nes ymlaen yn yr ysgolion cynradd "yn fwy ffurfiol ac yn fwy caeth i lyfrau ac ni chynhelir, bob tro, y cynnydd cynnar mewn datblygiad llafar".

Ond anghofia i fyth y gofid ro'n i'n ei deimlo wrth ei gwylio yn gadael y ty bob bore yr wythnosau cyntaf hynny.

Mae chwerthin i ddangos hapusrwyd y beth digon derbyniol; pam nad crio i ddangos gofid?

Fel mae'n digwydd yr wyf yn cytuno â hwy yn eu gofid am 'safon' iaith, ond ofnaf fy mod yn gweld eu dehongliad o'r hyn sy'n digwydd yn annigonol.

Yno roedden nhw ar hyn o bryd, a gofid am ei mam oedd wedi peri iddi aros mor hir ar y copa.

Gofid calon i mi oedd ei gwrthod fel hyn ac er bod Eleri yn deall y rhewsm yn well na fi, rywsut yr oedd o anghenraid yn gorfod gofyn.