Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gofleidio

gofleidio

Nid rhyfedd felly fy mod i'n amheus i'r eithaf heddiw o'r criw diwinyddol yma sydd mor uchel eu cloch ar i ni gofleidio'r myth a'i chusanu, ac ymbriodi â hi, a chodi teulu gyda hi.

Cadernid ei gorff; breichia yn gneud imi deimlo'n ddiogel; 'i farf undydd yn crafu 'ngwynab i a'n 'sgwydda, a'r gwefusa 'na'n gwefreiddio 'nghlustia i a'n llygaid wrth i'w law gofleidio 'mhen-ôl i!

Ni fydd yr un oedolyn sy'n gweithredu mewn sefyllfa fel hyn yn disgwyl i blentyn gofleidio pob elfen yn yr adborth ar unwaith.

Gallwn, gallwn fod wedi mynd ato a'i gofleidio, doeddwn i ddim wedi bwriadu peidio.

"Mi fedri ddibynnu arna i, Henri," meddai'n ddistaw a daeth y llall ato a'i gofleidio.

Er mwyn ennyn bendith y duw hwn roedd hi'n arfer gynt i 'gyffwrdd â phren' - i gusanu neu gofleidio'r goeden.

Felly, rhaid annog a chynorthwyo rhieni - yn enwedig rhieni newydd a rhieni di-Gymraeg - i gofleidio'r Gymraeg trwy gynnig cyfleoedd atyniadol iddynt ddysgu'r iaith.

Pam na ddylwn i ei gofleidio wedi'r cwbwl?

Trodd i weld Glenys yn estyn ei breichiau i'w gofleidio.