Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gofnodi

gofnodi

'Roedd trefniadau gweinyddol aneffeithiol neu ddryslyd er ymdrin â cheisiadau cynllunio neu gofnodi ac ystyried gwrthwynebiadau yn broblem mewn rhai o'r achosion yr ymchwiliwyd iddynt.

Fel y dywed Islwyn Lake, Cadeirydd Cymdeithas y Cymod yng Nghymru, yn ei Ragair i'r gyfrol hon, gwnaeth Dr Gwynfor Evans gymwynas â ni wrth gofnodi "stori'r dystiolaeth heddwch" mewn dull mor hwyliog a hwylus.

Ond a oedd angen gohebydd Cymraeg ei iaith yno i gofnodi'r digwyddiad?

Unwaith eto, croesawn well dull o gofnodi digwyddiadau, ond teimlwn bod pobl yn mynd ati o'r cyfeiriad anghywir.

Digon hawdd credu bod rhywbeth cyntefig yn perthyn iddo hefyd wrth weld ambell enw tîm pêl-droed wedi'i sbre%o'n goch ar wal - Hwn-a-hwn "rules OK!" Gall gofnodi ymgyrch herfeiddiol hefyd - cofiaf weld "English visited Panti% gyda'r dyddiad oddi tano yn Neuadd Breswyl Gymraeg Pantycelyn yn Aberystwyth.

Doedd dim gwerth i'w gofnodi yn yr ail hanner, onibai am gôl Nicky Palmer, naw munud o'r diwedd.

Ond wrth fynd ati i gofnodi'r atgofion hyn ceisiais fod mor ddiduedd ac onest ag sy'n bosibl.

vii) sicrhau bod pob aelod o staff yn gwybod beth i'w wneud os bydd tân, yn gwybod ble mae cyfarpar diffodd tân wedi'i leoli a sut i'w ddefnyddio os bydd angen; cymryd cyngor yr Awdurdod Tân o bryd i'w gilydd; profi'r trefniadau Dril Tân yn achlysurol trwy gynnal ymarferion (i'w trefnu gan y Cyd-Gysylltydd Iechyd a Diogelwch), a phob ymarfer i'w gofnodi mewn Atodiad i'r Polisi Diogelwch hwn;

Dylai arolygwyr gofnodi'r gymhariaeth gyda'r cyfartaledd cenedlaethol ond dylent hefyd ganolbwyntio'n arbennig ar asesu cyrhaeddiad y disgyblion ag AAA mewn perthynas â'u galluoedd.

'Roedd yn barod i gofnodi digwyddiadau hanesyddol yr ugeinfed ganrif.

Yr unig beth da am y ffens oedd nad oedd tad Steve Millace yno i gofnodi fy nghodwm.

Onid y troseddwr y dylid ei gofnodi ar gofrestr yr heddlu, nid yr un a ddiddefodd?

Trueni na fydde'r camerâu teledu yma i gofnodi'r foment.

Erbyn 1914 'roedd technoleg y ffilm wedi datblygu, ac 'roedd yn barod i gofnodi rhith a realaeth, ffantasi a ffaith.

Yr ydych erbyn hyn, gobeithio, wedi dod yn gyfarwydd â'r ffordd y mae'r darnau'n symud, ac â'r ffordd o gofnodi ar bapur yr holl symudiadau mewn gêm.

Yn ystod y pum niwrnod cyn hedfan i Nairobi, ro'n i wedi cnoi cil dros y berthynas rhwng y personol a'r gwrthrychol, dros yr angen, ar un llaw, i gofnodi ffeithiau am newyn a oedd yn bygwth dileu cenhedlaeth gyfan o blant Somalia ac, ar y llall, i gofnodi barn.

Kirkley?' 'Ie, syr?' 'Wnewch chi gofnodi hyn rhag ofn?

Ac mae trydydd achos wedi'i gofnodi yn ardal Awdurdod Iechyd Bro Taf.

Er Côf Blin gennym gofnodi marwolaeth aelodau y bu eu cysylltiad â'r Tabernacl yn agos ac yn hir.

Mae camerâu fideo yn defnyddio'r un dyfeisiau electronig i gofnodi'r goleuni, ac yn fuan bydd camerâu arferol yn rhoi'r gorau i ddefnyddio ffilm ac yn dechrau defnyddio'r rhain hefyd.

Yn ogystal, cyflogodd William Jones, Talybont i wneud cynllun manwl o'r Plas a'i erddi, i gofnodi enw pob fferm a oedd yn perthyn i'r Stad ac ysgrifennu yn y gyfrol enwau pob cae a berthynai i'r ffermydd hynny.

Roeddwn i yno hefyd i gofnodi f'ymateb personol fel gohebydd.