Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gogwyddo

gogwyddo

Un o nodweddion barddoniaeth Gymraeg erioed oedd 'dilyn ffasiwn farw', a gogwyddo at adwaith.

Gellir dweud mai da yw gweithgareddau sy'n gogwyddo at greu cymundod, ac yn cyfoethogi bywyd cymdeithas, ac yn meithrin cymdogaeth dda; ac mai drwg yw gweithgareddau sy'n malurio cymdogaeth a chymdeithas.

Fel disgyrchiant anochel y byddai'i deimladau wrth eu boddau'n gogwyddo tuag at y gwaelod rywfodd.

Yn hynny o beth, meddir, mae rhamantiaeth yn fwy rhesymegol na chlasuraeth y Dadeni.' Mae'r pwyslais yma yn gogwyddo fwy i gyfeiriad rhamantiaeth nag a wnâi'r gyfrol ar Bantycelyn, ac yn wir fe dderbynnir fod egwyddor sylfaenol rhamantiaeth yn iawn, er bod angen symud ymlaen at ryw synthesis amgenach.

Ystyr hyn i gyd oedd ei fod yn brotestant pur radical ac yn gogwyddo, y mae'n amlwg, at farn diwygwyr y Swistir, Zwingli a Chalfin, mewn materion ynglyn â gwisgoedd eglwysig a defodau.

Nid yw'r ffaith fod awdur modern yn digwydd gwneud cyfeiriad troed-y- ddalen at un o areithiau'r Pab Ieuan Pawl II yn profi ei fod yn gogwyddo at Babyddiaeth.

Ceir cadarnhad pellach o'r patrwm yma wrth ddadansoddi canrannau darllenwyr Cristion fesul grwpiau oedran unigol: Sylwer yma fod proffil darllenwyr Dan Haul yn gogwyddo tuag at oed iau.