Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

golchi

golchi

A hithau wedi cyrraedd ei deg-ar-hugain erbyn diwedd y chwedegau, roedd hi'n dechrau ymddangos fel petai Glenda Jackson yn mynd i orfod bodloni efo'r golchi llestri.

Bydd yr hen dwb golchi sy'n nghefn y ty yn cael ei sbyddu am bryfaid genwair bach rhai rwyf wedi eu casglu'n ofalus drwy'r haf - a dyna fi'n barod am ymweliad â'r Ddyfrdwy i drotio am lasgangen yn ystod y tri mis hwn!

Gallai unrhyw ddigwyddiad neu achlysur roi cychwyn iddo - gweld ci defaid yn gweithio neu fustych yn pori, ac yn enwedig sôn am beiriant golchi.

Cyrhaeddodd ugeiniau o'r llestri hyn heno, a chafodd rhai ohonynt eu dewis (?) i'w golchi a'u sychu erbyn y bore.

Mae'n rhyfedd, beth all digwydd tra bod chi'n golchi'r llestri.

Teimlodd pawb oedd ar y bwrdd sigl y tonnau ar unwaith, a'u sŵn yn golchi ei hochrau gyda'r ewyn gwyllt.

Onid gwyrth fyddai'r hwfar a'r peiriant golchi llestri i neiniau'r gorffennol?

Dychwelodd i Florida lle bu'n golchi llestri, gwerthu llaeth a gwerthu esgidiau cyn dod yn wr busnes llwyddiannus.

Dileodd y rhain lawer iawn o ddiflastod beunyddiol y gorchwylion cyffredin - golchi, glanhau, gwresogi, smwddio, coginio, cadw bwyd, ac i mi eillio, oedd yn gas beth gen i a fy nhad, gyda'r asarn hen ffasiwn.

Cymaint haws oedd ganddi weini trugaredd a thosturi efo dwylo a chusan; gwisgo a dadwisgo, golchi a bwydo, trwsio a smwddio, anwylo a chribo, cysuro teuluoedd 'euog' a dwrdio ambell un esgeulus.

O holl amrywiaeth taclau'r gwareiddiad newydd, o raselydd i beiriannau golchi, mae'n debyg mai'r teledu ddaeth a'r chwyldro i'w anterth wrthi ganolbwynt yr aelwyd symud o'r lle tan, gyda'r gadair freichiau a'r setl a'r soffa yn gylch o'i gwmpas a phawb yn ei wynebu, i'r bocs yn y gornel, a phawb yn eistedd yn rhes a'u hochrau at y tan a'u hwynebau at y sgrin.

Gwnaed lliaws o awgrymiadau, o ddodi llonaid llwy de o soda golchi yn ei chwpanaid boreol, i ollwng blychaid o lygod bach yn rhydd yn ei hystafell wely'r nos; eithr nid oeddynt yn ymarferol.

Felly mi ddyliwn fod yn dathlu gyda'r newydd fod golchi llestri yn gallu peryglu eich iechyd.

Y tu allan i'r corlannau, mae rhai mamau'n ceisio golchi'r staen oddi ar ddwylo eu plant - er mwyn mynd yn ôl am docyn bwyd arall.

I'w wneud rhaid oedd cymryd sglodion ffres o'r dderwen a'u golchi â dŵr rhedegog nes bod y rhinwedd wedi ei olchi allan ohonynt.

O hyn allan, felly, gan ddechrau gyda'r rhifyn cyntaf hwn o'r bumed gyfrol, fe geisir bob chwarter fwrw golwg ar faterion y dydd; ac os a'r simdde ar dan, na chwyned neb ei fod yn ddiwrnod golchi arno.

Mewn coleg yn Havana, gwelais fyfyrwyr yn glanhau'r adeilad ac yn golchi llestri.

Er mwyn gallu codi'r holl arian yma, rydym wedi bod yn golchi ceir staff yr ysgol, a trigolion y pentref, cynnal boreuon coffi, ac ar fore yr eisteddfod ysgol eleni, fyddwn ni yn cychwyn ras balwns, a fydd yn cael ei ffilmio gan HTV.

Beth am frecwast yn y gwely, egwyl rhag golchi'r llestri, smwddio, garddio neu beth bynnag y byddwch yn gael yn waith anodd.

yn well na pheriant golchi llestri!"' Clywais bob gair o'r ateb a sgrech Mam yn diasbedain drwy'r tŷ.

Erbyn hyn fe drefnwyd dosbarthiadau mewn llawer mwy o brofion megis Cneifio, Godro, Mower, Maentumio Tractor, Defaid, Gosod Clwyd, Clawdd Sych a Chodi Gwrych i'r bechgyn, ac yna, Trin Cyw, Addurno Teisen, Crasu, Golchi a Smwddio, Picls a Saws i'r Merched, ac fe ddaeth ffrydlif o fathodynnau aur ac arian i aelodau'r Sir.

Maen wastad yn golchi eu dwylo ar ol arbrofi.

Yn Diwrnod Golchi mae'r Dewin Dwl yn gwisgo ewyn y sebon golchi ar ei wyneb fel barf.

Yna, byddai'n lluchio cynfasau a dillad isa' a phethau felly i'r llyn a rhoi powdwr golchi yn y dŵr, fel bydd y merched 'ma 'te, a gweiddi ar Eliasar y ci o'r tŷ.' 'Rwan 'roedd eisiau profi callineb Eliasar trwy ddweud bod y buchod ymhell i ffwrdd.

Mi wellodd ei thymer ddim ar ôl glanio pan fu raid mynd am fwyd i dŷ bach cyntefig ac amheus ei lanweithdra a bodloni ar datws drwy'u crwyn a oedd, yn ôl Dilys, heb eu golchi'n iawn cyn eu coginio.

Yn y tŷ rhaid oedd pobi bara, gwneud caws a menyn, coginio'r prydau bwyd, nyddu a gwau, golchi a thrwsio dillad yn ogystal â gofalu am y plant.

'Roedd llifogydd wedi golchi'r hen ffordd yn rhigolau dyfnion, anwastad gan amharu ar geir y bechgyn ar eu taith i'w swyddi bob dydd.

Os byddwch byw ar eich pen eich hun, traed pwy y gallwch eu golchi?

Fuo'n rhaid i mi'i helpu hi hefo'r golchi, ac efo'r manglo wedyn.

Wedi i bethau dawelu rhywfaint rhyngddynt, cytunodd y ddau fod popeth drosodd yn eu priodas ac aeth ef i olchi dillad y plant tra bu hi'n golchi'r gwaed o'i cheg a'i gwefusau.

Mae mam Aled wedi cadw tŷ ichi am ddeng mlynedd yn ddi-dal - wedi cwcio, golchi, glanhau..." "Mae hi'n gripl." "Hi sydd wedi gneud holl waith y tŷ er 'i bod hi'n gripl.

'Weithia, bydd eraill yn golchi 'nillad i, a mi fydda i yn smwddio iddyn nhw, ac yn y blaen.

Fflat cyffyrddus, pedair ystafell, teledu, vcd, peiriant golchi yr un, cyfrifiadur a chegin i'w rhannu.

Gwaethygodd y storm, ysgubodd moryn mawr drosti a golchi'r ddau gwch achub i'r môr a malu'r olwyn llywio.

Hwyrach mai fi y'n methu, ond ni chofiaf glywed dim yn cael ei ddweud mai hen gân werin ydoedd yn mynd nôl i'r cyfnod pan fyddai menywod yn golchi dillad yn yr afon, ac mai pwrpas y gân oedd cael hwyl.

Bob bore roedden nhw i gyd yn brysur yn y tŷ, yn glanhau ac yn coginio, yn golchi ac yn smwddio.

Y cynllun oedd rhwymo'r ddau gwch wrth ei gilydd ond yn ystod y nos gwaeddodd y mêt fod y môr yn golchi dros y cwch a'i fod am droi i wynebu'r tywydd.

Ar gyrion y trefi mae'r halting sites, rhes o garafannau a chartrefi ar olwynion yn bentref unnos, a phethau fel dwr, tai bach a man golchi wrth law.

Mae'n nhw'n ymylol ac eto maen nhw yng nghanol ein bywydau, labeli tuniau bwyd, sigarennau a thybaco, poteli gwin a diod, pacedi powdwr golchi, tocynnau bws, trên ac awyren, arian papur, bondiau.

Llanwyd ei ffroenau ag oglau gwlydd a phridd, a gwenodd wrth feddwl iddi ennill y frwydr i beidio â'u golchi.

Mae moroedd o wahaniaeth rhwng De Excidio Britanniae a Hunllef Arthur, ond yr un halen sy'n golchi'u glannau.

Yr oedd y Clybiau Ffermwyr Ifanc yn dysgu'r aelodau bod angen golchi pyrsau'r gwartheg cyn dechrau godro, ac nad oedd wiw poeri ar gledr y llaw i wlychu teth y fuwch i'w stwytho.

Pryd ddiwethaf (os erioed) y gwelsoch chi'ch mamau yn pobi bara (erbyn hyn daeth pobi gartref yn orchwyl ymwybodol, nid yn anghenraid) ac yn treulio rhan dda o'r dydd yn glanhau'r tŷ gan flacledio'r lle tân a golchi'r aelwyd?

Ar brynhawn braf, hydref diwethaf, tra mod i'n golchi'r llestri yn y gegin, cerddodd yr heddlu i mewn gyda gwarant i chwilio'r tŷ. Yn anffodus, roedd fy nghynhaeaf cannabis yn sychu yn fy stafell wely.