Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

goleg

goleg

Er enghraifft, yn y de a'r gorllewin, penododd Lingen dri is-ddirprwywr, William Morris, cyn-ysgolfeistr, a David Lewis, a David Williams, aelodau o Goleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan.

(Yn debyg i'r ffordd y darfu ei frawd yn y Ffydd o Goleg Bala-Bangor ....

Bydd Sian Howys yn cyflwyno cynnig brys ar y mater hwn i Gyfarfod Cyffredinol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg sydd i'w gynnal yn yr Hen Goleg Aberystwyth, Dydd Sadwrn.

Un o Bort Talbot oedd ef ac ar ol gweithio yn y diwydiant dur aeth i Goleg Harlech ac yna i Goleg y Brifysgol, Bangor, lle graddiodd gydag anrhydedd yn y dosbarth cyntaf mewn Almaeneg a chael gradd ychwanegol ag anrhydedd uchel mewn athroniaeth.

Mi wnawn ni drefniadau i gadw hwsmonaeth ar y fferm hyd fis Gorffennaf; erbyn hynny mi fyddi di wedi cael cyfle i feddwl ac mi fyddi wedi cael gorffen yn yr ysgol, ac os byddi di am newid dy feddwl mi fedri fynd i goleg." Gwyddai Alun oddi wrth yr olwg styfnig yn ei hwyneb nad oedd wiw iddo ddadlau â hi, roedd hi wedi penderfynu.

Camp raenus oedd ei gwrs addysg trwodd a thro, a chyrraedd ei uchafbwynt trwy gipio'r prif wobrwyon yn Rhydychen a'i ethol yn Gymrawd o Goleg Lincoln, a dyfod yn un o ddarlithwyr mwyaf dylanwadol y Brifysgol.

Lleufer Thomas yn credu mai David Morgan Jones o Goleg Worcester oedd y prif symbylydd.

Mae Rhidian newydd raddio â gradd uchel o Goleg y Brifysgol Abertawe ar ôl astudio Cyfrifiaduraeth.

Efallai bod hyn yn esbonio paham yr oedd cynifer o weinidogion yr achosion ymneilltuol yn nyffryn Aman a'r cylch yn ystod y cyfnod cyn-ddiwydiannol yn wŷr di-goleg.

Ymgyfarfu y gymdeithas newyddanedig hon nos Wener diweddaf yn ystafell Mr D. M. Jones o Goleg Worcester.

Yn wir, nid oedd pob amheuaeth wedi'i chwalu ar ôl iddynt sefydlu dau goleg.

Y Clwb yn Goleg

Llewelyn Williams o Goleg y Trwyn Pres ar y Ficer Prichard), a chymaint o wir hanes yr amser fu sydd i'w gael mewn cymdeithas fel hon wrth wrandaw ffrwyth ymchwiliadau rhai eraill; a phan feddylier fod tro pawb ohonom i chwilio drosto'i hun, ni raid petruso dywedyd fod dibenion gorau'r gymdeithas yn cael eu hateb yn llwyr".

Mewn gwirionedd yr oedd yn flwyddyn dda i Goleg Bangor oherwydd dau arall a raddiodd yn y dosbarth cyntaf oedd Gwilym Bowyer a Hywel D.Lewis, ond mai Athroniaeth oedd eu pwnc hwy.

Yn hon, ceir darluniau o Aberystwyth, yr Hen Goleg, y prom, glan y môr ac ati.

Mynnodd Dr Tom imi werthu'r llyfr hwnnw i goleg Bangor.

Ond yr oedd yna eleni yn yr Hen Goleg, Aberystwyth, ymdeimlad cryf o bwrpas a chryn dipyn o dân yr 'Oes Aur' futholegol honno y bydd newyddiadurwyr a chenedlaetholwyr sydd wedi hen chwythu eu plwc yn hoffi malu awyr amdani.

Kate a finnau yn gollwng ein bagiau i gyd un wrth un o'r trên a disgwyl ar y platfform am rywun o Goleg Athrawon Yiyang i'n tywys yno.

Nos Wener Mawrth 12fed am 7.30pm Cyfarfod Cyhoeddus yn yr Hen Neuadd yr Hen Goleg i drafod yr angen am Ddeddf Iaith Newydd.

Yr oedd dau goleg y Bedyddwyr (yn Hwlffordd ac ym Mhont-y-pŵl) hefyd wedi rhoi lle rhyngddynt i dri estron ond nid yw hynny'n gymaint o ryfeddod, efallai, ag yn hanes y Methodistiaid oherwydd yr hen gysylltiadau niferus rhwng Bedyddwyr Cymru a Lloegr.

Mae Bardi McLennan yn cydnabod mai Walter Glyn oedd cymwynaswr pennaf y Daeargi Cymreig, fel hanesydd o Goleg y Drindod Caergrawnt, Rhydychen, beirniad, awdur erthyglau a llysgennad mwyaf y brîd.

Brodor o Glyncorrwg oedd Mr Mitchell ac ar ôl gwasanaethu yn y lluoedd arfog yn ystod y rhyfel aeth i goleg hyfforddi athrawon.

Aeth Reg i Goleg Ruskin, Rhydychen i astudio am gyfnod ac ar ôl dod yn ôl i Gwmderi mae wedi cael bywyd llawn a phrysur.

"Waeth imi heb a gofyn i chi geisio'i argyhoeddi o." "'I argyhoeddi o i beth?" "Y dylai Aled fynd i Goleg Arlunio.

Oakley, Cymrawd o Goleg Balliol, a Rheithor Eglwys Margaret Street yn Llundain, y gyntaf o eglwysi'r brifddinas i roi lle amlwg i'r ddysgeidiaeth Dractaraidd.

Bu'n fyfyriwr disglair yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ac oddi yno aeth i Goleg y Bala i baratoi ar gyfer y Weinidogaeth.

Faber, Cymrawd o Goleg y Brifysgol, a ddaeth yn enwog fel bardd ac emynydd; a F.

Dau gymrawd o Goleg Balliol oedd arweinyddion y garfan hon, Frederick Oakley a William George Ward.

Roedd Sant Mihangel yn goleg rhagorol o dda ac rydw i wedi bod yn meddwl sawl tro pam y gadawyd ysbrydegaeth allan o'i gwricwlwm.

Ceisiodd yr Athro Steve Jones, genetegydd o Goleg Prifysgol Llundain, ddatrys dirgelion yr hyn a olygir wrth Gymreictod a chenedligrwydd, ynghyd â dadansoddi o ble, yn hanesyddol felly, y daeth cenedl y Cymry.

Oddi yno aeth i Goleg Eglwys Crist, Rhydychen.

Yn wythnos olaf Medi yr un flwyddyn yr oeddwn ym Mangor drachefn yn sefyll arholiad arall - yr un i gael mynediad i Goleg Bala-Bangor.

Yno y bu+m innau lawer tro yn cael blas ar sgwrs gyda'r gof a'r saer athronydd hwn, un a allai fod wedi esgyn i gadair athroniaeth mewn rhyw goleg neu gilydd pe bai amgylchiadau wedi caniata/ u hynny pan oedd yn ifanc.

Coleg Dewi Sant, Llanbed, yn dod yn seithfed aelod o Goleg Prifysgol Cymru.

Cefais fy arbed rhag cael ysgariad gorysgytwal oddi wrth fy nghefndir gan mai i Goleg Prifysgol Cymru ym Mangor yr euthum i ddilyn cwrs gwyddonol am y flwyddyn gyntaf.

Fe'i prentisiwyd yn grydd, ond yn hytrach na dilyn y grefft honno aeth yn fyfyriwr i Goleg Dewi Sant Llanbed ac oddi yno i Goleg Rhydychen, yna tua diwedd y ddeunawfed ganrif daeth yn Archesgob yr Eglwys Sefydledig yng Nghanada.

Mwy syfrdanol na dim, cawn ddau heb goleg o gwbl.

Yn enwedig y rhieni hynny y maen costio mor ddrud iddyn nhw roi eu plant drwy goleg er mwyn i'w plant gael gradd mewn rhywbeth gwerth chweil fel David Beckham.

Fe ddarganfu ymhen blwyddyn mai mwy buddiol fyddai iddo symud i Goleg arall lle roedd eglwysi Annibynnol i'w cael yn amlach ac y byddai mwy o alw am ei wasanaeth, a dewisodd fynd i Goleg y Brifysgol Abertawe.

Yr oedd Shankland newydd anfon telegram o Fangor i ddweud ei fod ef yn prynu'r casgliad yn ei grynswth i Goleg y Gogledd.

Yr oedd dylanwad y Bwrdd Presbyteraidd yn Llundain yn o drwm ar Goleg Presbyteraidd Caerfyrddin, a phenodwyd saith o estroniaid yno o bryd i'w gilydd.

Deheuwr bywiog, o athrylith wasgarog, Eglwyswr, ac aelod o Goleg Worcester oedd DM Jones; Gogleddwr araf, diwreichion, Ymneilltuwr, ac aelod o Goleg Balliol oeddwn innau.

Pan oeddwn i'n ddeunaw oed, a chyn i'r rhyfel dorri, fe es i Goleg Dewis Sant, Llanbedr Pont Sterffan ac ar ôl graddio, mynd ymlaen wedyn i ddarllen diwinyddiaeth a dysgu'r grefft o fod yn berson plwy yng Ngholeg San Mihangel, Caerdydd.

Byddant yn cyfarch y cyfarfod am 7.30 Nos Wener yn yr Hen Neuadd yr Hen Goleg.

Mae Gwobr Beacon wedi cael ei gwobrwyo i Goleg Menai am ddefnyddio rhaglenni radio Addysg BBC Cymru i gyflwyno dysgu o bell i fyfyrwyr.

Erbyn bod Penri'n gorffen ei goleg, yr oedd y to cyntaf o esgobion a benododd Elisabeth yn prysur gilio i'r cysgodion.

Ar fy ffordd adref euthum yn unswydd heibio i goleg Bangor er mwyn eu dangos, gydag ôl glud y labelau arnynt, i Dr Tom ac Emyr Gwynne Jones.

"Tydi bocsio a rygbi a myn di drwbwl o hyd ddim yn mynd i dy helpu i fynd i'r coleg." Gan mai peilot oedd Douglas eisiau bod, yr oedd yn rhaid iddo astudio yn galed er mwyn cael mynd i goleg Cranwell.

Daeth un o'r pedwar, Tait, Cymrawd o Goleg Balliol, ymhen amser yn Archesgob Caergaint.

Wrth feddwl am drobwyntiau bywyd Daniel Owen, anodd credu fod yr un trobwynt wedi bod yn bwysicach na'i brentisio'n deiliwr gydag Angel Jones, blaenor gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, oblegid fel y cyfeddyf ef ei hun, gwnaeth hynny'r byd o wahaniaeth iddo yn foesol ac yn ddeallusol - yn foesol, oherwydd golygodd fod rhaid iddo fynd i'r capel dair gwaith ar y Sul ac i bob moddion yn yr wythnos yn y cyfnod pan oedd yn dechrau ymryddhau o lyffethair awdurdod ei fam, a phan oedd ei frawd Dafydd efallai'n dechrau mynd ar gyfeiliorn, - yn ddeallusol am yr un rheswm ac am fod gyda'r hen Angel 'hanner dwsin o ddynion call, sobr, a darllengar, a bu (bod gyda hwy) yn fath o goleg i mi'.

Mae enw da y coleg am gynhyrchu sêr chwaraeon yn un y byddai unrhyw goleg ym Mhrydain ymfalchio ynddo.

Fe ddeuair arolygwyr heibio yn flynyddol i fygwth caur lle, meddai Syd Aaron, prif-ddarlithydd addysg gorfforol yr hen goleg hyfforddi pan oeddwn i yno, ddiwedd y pum-degau a dechraur chwe-degau.

Ar diweddar Dewi Bebb yn dod o Goleg y Drindod i wneud diploma trydedd flwyddyn mewn addysg gorfforol.

Roedd Mrs Davies yn un o ddisgyblion cyntaf Ysgol Uwchradd Maesteg ac oddi yno aeth i Goleg Goldsmith's yn Llundain a chyfnod o ddysgu yn ardal Aldershot cyn dychwelyd yn athrawes i Ysgol y Merched, Blaencaerau lle bu ei dylanwad a'i hymroddiad yn fawr iawn.

Dyna lle bu system Freud yn gymaint o bandy ac o sgwrfa didrugaredd i'm delfrydau brau Pa ryfedd nad oedd dim o'm carpiau ar ôl wedyn ond ambell gydyn o ridens cyfroda na fyddai fyth mwy yn dda i ddim?) Roedd blwyddyn goleg newydd yn dechrau ym mhen ychydig iawn o wythnosau ar ôl y Cyfarfod Misol hwnnw A'r peth cyntaf bron a wnes wedi cyrraedd Aberystwyth oedd mynd â'm "hymddiswyddiad" (maddeuer y gair ymddiswyddiad!) i Brifathro Coleg Diwinyddol y Methodistiaid Calfinaidd.

Cawsom gymorth yr unawdwyr canlynol o Goleg Cerdd a Drama Caerdydd: Justine Platts, Kate Walker, Wendy Crossland a Richard Evans.

'Rwyn edrych ymlaen yn fawr iawn i'r gêm,' meddai asgellwr Cymru, Rhodri Gomer Davies o Goleg Llanymddyfri ar y Post Cyntaf y bore yma.

Am bedwar o'r gloch 'roedd cyfarfod gyda phenaethiaid y coleg gyda baner goch ar y wal i groesawu'r ddwy ohonom i Goleg Athrawon Yiyang, a phrif olygydd papur newydd y coleg yno i dynnu lluniau ohonom.

Drwy hyn, a'r trip i Goleg y Bala, cawsom ein harwain yn raddol at ddeall pam ein bod yma heddiw.

Yna fe ddychwelodd i Goleg Caerfyrddin i wneud ei radd BD Oddi yno enillodd ysgoloriaeth i Goleg Mansfield, Rhydychen.

Enwau Derfel ar y Dirprwywyr Lingen, Johnson a Symons oedd Haman o Goleg Belial (Meistr yr Holl Asynnod) - yr oedd Lingen yn gymrawd o Goleg Balliol - Judas Iscariot a Simon y Swynwr.