Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

goleuo

goleuo

Ond roedd y fyndedfa'n dechrau goleuo.

Fyddwn i ddim am i hynny ddigwydd gyda'r Geiriadur Idiomau gan y bydd yn gaffaeliad arbennig i ddysgwyr a fydd yn ei ddefnyddio yn llusern i'w goleuo am ddywediadau dieithr.

Ni welwyd erioed amgueddfa mor lliwgar, y waliau yn ddu a llif-oleuadau bach yn goleuo'r cesys, rhai yn ymwneud â blynyddoedd y rhyfel fesul blwyddyn ac eraill yn trafod hysbyseb unigol, OXO, Ovaltine, Rinso ac yn y blaen.

A hithau mor dywyll a chanhwyllau'n goleuo, edrychent yn eu lifrai gwynion fel y côr o angylion gynt.

Williams oedd y diwethaf i ddirmygu'r athrawiaethau ond Crist yn y galon sy'n goleuo'r deall ac yn trawsnewid bywyd dyn a'i wneud yn etifedd iachawdwriaeth.

Nid amgueddfa o hynafiaethau sych a geir yma, ond ymgais i geisio goleuo'r cyhoedd ac ennyn eu diddordeb yn niwylliant yr ynys, ddoe a heddiw.

Pan fo'r lleuad yn llawn, mae ei golau yn goleuo'r awyr.

Mae ongl yr eglwys ychydig yn wahanol yn yr un ffordd - cornel dywyll y tu ôl i'r eglwysi yn goleuo at yr ochor arall a gwyrdd llachar y gwellt o flaen y ddwy.

Am bump o'r gloch fe gynheuwyd y lampau er mwyn goleuo cyfraniad byw gan y gohebydd i brif raglen newyddion yr Almaen.

Mae gwres a goleuni o'r haul yn goleuo and yn twymo eangderau mawr o dir a mor bob dydd, gan roi hanfodion bywyd iddynt.

Cofiaf noson o aeaf yn y gegin fawr, a'r llu wynebau chwilfrydig, wedi eu goleuo gan fflamau'r tân, yn gwrando ar lais cras Owen Owens.

Byddai ambell un yn goleuo'r tywyllwch yn nhrymder gaeaf.

Wedi i'r fflach o olau gilio, gwelodd gyda syndod ei fod yn sefyll yno gan ddal clamp o gleddyf addurniedig, a gemau lliwgar ar ei charn, a'i llafn mor ddisglair nes ei bod yn goleuo'r gell gyfan.

Trodd ar ei gefn i wylio'r haul yn goleuo'r awyr uwchben y Cefnfor Tawel.

Ef a'i gyd-weinidogion oedd 'cyfarwyddwyr y bobl, chwedl yntau, a'u dyletswydd, fel cynrychiolwyr y grefydd honno a oedd, yn eu golwg hwy, wedi achub y Cymry rhag tywyllwch yr oes o'r blaen, oedd goleuo'u cydwladwyr.

Ond er iddi fynd ati i geisio'n goleuo; wedi llwyddo y mae hi i sgrifennu llyfr sydd cyn anodded i'w ddeall - os nad yn anos i'w ddeall - na'r gweithiau gwreiddiol mae'n ceisio eu hegluro.

Nid oes i'r ddrama raniadau yn ôl Act a Golygfa ond defnyddir cyfnewidiadau goleuo i alluogi i'r ddau grŵp o gymeriadau newid lle ar y llwyfan.

Roeddem mewn ogof wedi'i goleuo gan danau brwyn ar y wal,'roedd fel pafiliwn ac yn ddistaw fel y bedd.

Bun synod i lawer ohonom na chymerodd hyfforddwr o allu Graham Henry y maswr bach hwn dan ei adain o'r cychwyn cyntaf ai feithrin yn y fath fodd y byddai nid yn unig yn ennill gemau i Gymru ond yn goleuo gemau a'i fflachiadau o athrylith naturiol.

Ond pan fydd llygedyn o haul isel Ionawr yn ceisio euro llwydni'r tir, ac yn goleuo paent coch y fflôt fach wrth iddi drotio i lawr ar sbîd y cerrynt...

Cyn y gellid cael y goleuo ...

Gwyrddlesni'r dail yn troi yn felyn ac yn frown, a'r coed a'r rhedyn yn harddu a goleuo'r llethrau.

Ymwelai a ffermydd gwahanol, a lladd un ddafad ar y tro, dim ond un, yna ei goleuo hi.

Yr oeddent yn aml iawn yn cyd-weu i'w gilydd gyda'r naill ddarlun yn goleuo'r llall a'r cwbl yn awgrymu natur y waredigaeth ddwyfol.

Ni chawsant amser i sylwi ar ychwaneg oherwydd roedd y dyn, yn amlwg yn teimlo ei hun yn berffaith ddiogel yn y fan honno, wedi goleuo ei dorts.

Doedd hi ddim wedi goleuo yn iawn, ond fe ddigwyddodd weld y llanc yn gorwedd ar ei hyd ar ymyl y ffordd wedi llewygu.

JE Caerwyn Williams, yn ei ddull manwl arferol, a sicrhaodd gywirdeb y testun, ac achubodd hefyd ar y cyfle i ychwanegu, o'i wybodaeth hynod eang am lenyddiaeth Cymru ac Ewrop yn y cyfnod canol, doreth o nodiadau tra defnyddiol ar fanylion iaith a chynnwys a fydd yn goleuo'r testun mewn modd amheuthun i bawb a fydd yn ei ddefnyddio.

Os alla i ddal fy ngafael yn honno, fe fydd rhywun yn sicr o'm tynnu'n ôl i mewn ar ddec y British Monarch." Wrth lwc, a chyda chymorth y lamp fawr oedd yn goleuo starn y llong fasnach, fe ddaeth o hyd i'r wifren.

'Gwyliodd y tri y llewyrch yn goleuo'r awyr.

Mae o'n dal gyda ni, er breued ei gynulleidfa bellach, yn difyrru a goleuo cymdeithas yn hollol anfwriadol ac yn ddifalais.

Ei dymuniad hi oedd cael defnyddio'r hen stôfs paraffin a goleuo'r adeilad gyda chanhwyllau i greu naws yr hen Ddiolchgarwch.

Ymysg y siaradwyr mae Richard Wyn Jones o Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru Prifysgol Cymru Aberystwyth, a fydd yn ein goleuo ar strwythur y Cynulliad a sut y bydd yn gweithio.

yw, y dichon y Ddei~l Haul arwyddoccâu calon y gwir Gristion o weithrediad DUW yng Nghrist lesu, a'u goleuo trwy dywyniad Haul Cyfiawnder.

Er gwaethaf stormydd, ar daith bywyd fe ddaw pelydrau o heulwen a chariad o hyd i'n goleuo a'n cysuro.

Roedd angen goleuo ar y di-Saesneg o hyd.

Eisteddant yn y galeri yn gweu a smocio a sglaffio creision a cheir un o olygfeydd doniolaf y ffilm pan yw'r dair ohonynt yn joio mas draw wrth i'r grŵp chwarae'n egniol i gyfeiliant goleuo dychmygus Tref a'r ffilm gefndir o griw o ddawnswyr ifainc.

"Mae'n haws siarad Cymraeg!" Roedd ei mam (a fu'n eisteddfodreg fawr yn ei dydd) dan yr argraff eu bod yn treulio'u Sadyrnau yn cerdded o un steddfod i'r llall, ac ni chymerodd arni ei goleuo.

Gwylient y llafn o olau yn goleuo'r twll, yna'r dyn yn camu'n ofalus i mewn iddo.