Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gollyngodd

gollyngodd

Ydi Cen ddim wedi deud wrthych chi?' Gollyngodd Bilo ei afael a throdd Dei ei ben i edrych am gadarnhad gan Cen.

O'r diwedd gollyngodd y llysywen hyll a wasgai am ei wddw ei gafael.

'Rŵan,' gollyngodd y cawr ei afael ynddo, 'cymer di'r rhaw fach yna a gad i mi dy weld yn turio am y trysor.

Wedi llwyddo i gyrraedd man dewisol rhoddodd un morgrugyn bigiad da i ddathlu ei fuddugoliaeth a dyna'r eiliad y gollyngodd Odo lond dwrn o dai yn strim-stram-strellach ar hyd y rhos.

Gollyngodd ochenaid o ryddhad wedi iddo gael ei hun drwy ddrws cul ym mhen draw'r ystafell.

Gollyngodd Andrews y ffôn yn sydyn a thaflu'r car o amgylch cornel sydyn.

Gan glymu un pen i'r rhaff o gwmpas boncyff coeden gollyngodd ei hun i mewn i'r twll du, drewllyd.

Gollyngodd y gyrrwr lw arall, un cryfach y tro hwn, ac edrychodd o'i gwmpas i weld a ddeuai gwaredigaeth o rywle.

Gollyngodd ei dannedd gosod i jwg chwart o ddwr a halen, penliniodd i ddweud ei phader ac yna dringodd i'r gwely dwbl i gysgu noson arall yng nghwmni llun Cynddylan Jones a siampler ac arni'r adnod - 'Na thrysorwch i chi drysorau ar y ddaear', mewn ffrâm fahogani.

heb betruso dim dringodd yn eon i ganol canghennau agosaf yr helygen, ac oddi yno fe 'i gollyngodd ei hun i lawr nes cael ei ddwy ar y gangen fawr uwchben y dyfroedd gwyllt gwyllt paid a bod yn ffŵl ^ l, ffred, gwaeddodd wil arno arno mae 'r afon 'na 'n ddofn cofia !

Gollyngodd yr osgordd ag amnaid ei law.

Yna, pan welodd ei gyfaill yn chwerthin yn braf am ei ben, gollyngodd ei wn i'r llawr a dechreuodd daflu eira at y plant.

Gan na fedrai ymryddhau o afael Debbie gollyngodd y lleidr y bag arian.

Gollyngodd ei ddwylo'n llipa fel pe baent yn hollol ddiffrwyth.

Fe'i deliais hi o dan ei cheseiliau a gollyngodd ei choesau odani yn syth.

Llamodd calon Morfudd a gollyngodd ei gafael ar y llenni.

Ond baglodd ar draws pwcad ddŵr y fuwch a adawsai Malcym yn union lle y gollyngodd hi y tu allan i'r beudy.

Yr oedd yn fyrlymus a lliwgar ei barabl, ac yn un man gollyngodd y gair bugger o'i enau.

Cododd Vera ei dwylo i'w hamddiffyn ei hun a gollyngodd ei bag.

HELP!' Gollyngodd Mam y llwy de ar lawr yn ei dychryn a dechrau rhedeg i gyfeiriad y grisiau.

Gollyngodd yr handlen a rhedeg nerth ei draed i lawr un o'r strydoedd bach oedd yn arwain o'r Stryd Fawr.