Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gonest

gonest

'Na ddyn gonest i chi, yn dweud ar unwaith 'i fod e ddim yn deall.

Cadarnheir yr agweddau gonest at bortreadu pechod a fynegwyd yn 'Llythyr ynghylch Catholigiaeth' a Williams Pantycelyn, ond yn rhyfedd iawn, nid awgrymir o gwbl fod unrhyw beth gwenwynig yn perthyn i ramantiaeth.

Wedi byw am flynyddoedd fel chwarelwyr, arian bach, a gwaith peryg, bellach car yn ymddangos am y tro cyntaf mewn garej, a charped o wal i wal, a dyn yn cael cyflog teg am ddiwrnod gonest o waith.

Mae'n arwyddocaol, hefyd, mai'r bobl normal yw'r rhagrithwyr, ac mai Daz yw'r un gonest.

Nid oedd arno ofn troi ei nodiadau golygyddol yn brotest gyson yn erbyn rhyfel a thrais, crogi a charchar, yn enwedig pan garcherid bechgyn a merched oherwydd eu syniadau gonest.

Ond yr oeddech chi'n anfoesgar wrtha i.' Gonest, nid anfoesgar.' Brathodd ei gwefus a bwrw cipolwg ar y llythyrau oedd heb eu hagor, yna edrych arno eto.

Yn ei eiriau ei hun, 'y dyn glân a phur, ffyddlon a gonest, dyn o egwyddor'.

Ac roedd Tomos yn wr gonest hefyd.

Gwyddai'r gwrandawyr cyfarwydd i'r dim b'le i dorri ar draws ac i ba raddau.) "Roedd y fenyw yma'n wyllt ac awdurdodol iawn, a'i gwr, oedd yn ddyn tawel, gonest a swil iawn, yn methu â'i thrafod hi.

Roedd Tomos yn gymeriad hoffus, syml, ffyddlon, gonest a dewr.

Er iddo wadu'r cydraddoldeb sydd yn ymhlyg yn nysgeidiaeth Crist cam dybryd a gafodd y meddyliwr gonest hwn pan drodd y Natsiaid ei gred yn yr Uwchddyn i'w melin afiach eu hunain: yn y bon, ei orchfygu ei hun yw camp Uwchddyn Nietzsche a byw'n beryglus yn y meddwl, gan gefnu ar deganau gwael y dorf.

Gŵr cyffredin, gonest, dewr - gyda'r gallu anghyffredin wrth adrodd ei hanes trist i wneud inni sylweddoli fod gobaith i ddynoliaeth, nid drwy gasineb, ond drwy Gariad.

Gofyn am ysgrifennu gonest, di-dderbyn-wyneb a wnâi Saunders, ac am finiogrwydd a chaledwch yn lle'r meddalwch gwlanennaidd a hawddgar a geid fel arfer.

Os felly, yr oedd yn wahanol iawn yn hynny o beth i Mari Lewis, y cymeriad y dywedir ei fod wedi ei batrymu arni, fel yr oedd yn wahanol iawn i honno yn ei dewis o briod, oblegid priododd hi ŵr a oedd yn 'gymydog da, yn ddyn gonest ac yn Gristion cywir'.