Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gongl

gongl

Byddai 'storiau Wil Fach-wen' ar fynd yn y chwarel yd wastad, a hyd heddiw clywir rhai o'r hen chwarelwyr yn eu hadrodd a'u hailadrodd ar gongl y stryd neu yn eu cartrefi.

O flaen porth yr eglwys ac ar gongl yr hen fynwent y codwyd cofgolofn y milwyr, a chofir yr aberth drud hwnnw o hyd mewn cyfarfodydd crefyddol ar Sul y Cadoediad.

Dyma'r frawddeg sydd ganddo i gloi'r ysgrif: 'Yn ei farwolaeth collodd llenyddiaeth un o'i charedigion pennaf, er na chwanegodd nemawr ati, a theilynga gongl fach ganddi hithau i'w goffadwriaeth.'

Ond daliodd Dei ef fwy nag unwaith yn edrych arno o gongl ei lygaid.

Mae allor yn y gongl yna i offrymu rhai fel chwi." Torrais allan i chwerthin a dilynodd pawb arall.

Prin y medrai weld y gongl bellaf gan fwg sigaret a stêm.

Ystafell fechan, bur dlawd ac anhrefnus yr olwg, oedd hi, â silffoedd llyfrau wrth un mur, ac yn y gongl ddesg uchel, lydan i daro papur newydd arni, ac yn y canol fwrdd a rhai cadeiriau wrtho.

Ac mi roeddwn i wedi ypsetio cymaint, mi es at ryw blisman oedd yn cyfeirio traffig ar gongl Pendis yn y fan yna, a dyma fi'n deud wrtho fo: "Maddeuwch i mi," medda fi.