Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gorchmynnodd

gorchmynnodd

Gorchmynnodd y gard ni i ddidoli'r defnyddiau oedd yn yr hen domen: rhoi haearn ar un ochr y coed ar yr ochr arall, hen deiars ceir wedyn, a pharhau i'w gwahanu felly.

'Dewch i ni glywed unwaith eto y rhestr trosedde,' gorchmynnodd Martha Arabela.

Ei hystafell wely oedd hi a gorchmynnodd i mi eistedd ar ymyl ei gwely.

Nôl i'r lan!' gorchmynnodd y capten yn flin.

Drwy ddefnyddio arwyddion clir, gorchmynnodd y brodorion iddynt hwy aros lle'r oeddynt.

"Fe gaiff pawb ei gymryd o'n ei dro i gysgu yn y gwely ar y llawr," gorchmynnodd eu mam cyn iddynt fynd i gadw, "mae'r tŷ yma mor llawn - dyma'r unig ffordd y medrwn ni i gyd gysgu." "Yn llawn o Domosiaid!" chwarddodd Elen.

"Deued yn gynnar," gorchmynnodd, "iddo ga'l cwrdd â mamgu cyn iddi fynd i'r gwely." gyrfa'r gŵr o dregaron carey jones tud.

'Gad i mi eu gweld nhw,' gorchmynnodd y cipar.