Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gorchuddio

gorchuddio

'Roedd llwch y ddinas yn gorchuddio'r cyfan.

Ta waeth, roedd y profiad o ymdrochi mewn dwr cynnes iawn a gorchuddio pob modfedd o'm corff mewn mwd folcanig, meddal, du, tua throedfedd o drwch yn brofiad bythgofiadwy.

Nid adeiladwyd porthladdoedd mor sylweddol a chadarn â rhai heddiw ers talwm, ac erbyn hyn mae llawer ohonynt hwythau wedi eu dinistro neu wedi'u gorchuddio â thywod a llaid.

Cadwai yr ardd yn hynod o dlws, blodau o bob lliw ymhobman, y rhosys yn gorchuddio'r wal oedd yn dal y tir yn ei le, a choed acacia a blodau gwyn a phinc.

Yn yr un modd, yn Gaeaf yn Nrws y Coed, a'r eira yn blanced wen yn gorchuddio'r byd, gwelir ambell i ddafad yn crafu am welltyn glas ac yn llwyddo i gyfleu y ddelwedd gydnabyddedig o'r ddelfryd o'r gaeaf.

Er nad yw'r machlud mor ysblennydd a hynny mewn ardaloedd o ddiffeithwch mae'n aml yn gorchuddio'r tir dan glogyn coch wrth i belydrau'r haul ddal y gronynnau o dywod sy'n chwythu yn yr awel.Trwy gydol yr oesoedd bu'r haul a'i ddylanwad enfawr ar fywyd yn destun diddordeb mawr i ddyn.

Credir yn gryf erbyn hyn gan liaws o arbenigwyr seryddol y gall fod y blaned Mawrth fod wedi ei gorchuddio ar un cyfnod yn ei hanes â gorchudd cefnforol oedd yn gorchuddio o leiaf dair rhan o'i harwynebedd.

'Roedd o fodfedd i fodfedd a hanner o egin arnynt eisoes, hwy nag arfer oherwydd y gaeaf cynnes, yna gorchuddio'r cyfan nes bod yr egin deiliog hefyd o dan bridd, a'u gadael yn y tū gwydr.

Mae llawer eglurhad wedi ei gynnig yn enwedig yr awgrym bod y dagell wedi ei gorchuddio a haen o fwcws sy'n gweithredu fel hidlydd, neu fod y cirysau eu hunain yn ludiog.

Darpariaeth gan Dduw ei hun oedd yr aberth er mwyn symud, 'gorchuddio' neu 'sychu ymaith', pechod (Lef.

Byddai'r fraich wedi ei gorchuddio a'i chadw mewn cadachau o formalin ac wedi'r cam cyntaf hwn aem ati wedyn i'w gwaredu o'r saim a'r bloneg nes dod at y croen sy'n dal y cyhyrau yn eu lle a dysgu wedyn am fan tarddiad a phwrpas pob un.

Wrth ymyl y twll mae eisiau rhoi'r badell fwyaf y medri di gael hyd iddi, ei llenwi hi gyda medd ac yna ei gorchuddio gyda sidan." A dyna'n union wnaeth Lludd.

Fel llawer o afonydd y mae Afon Conwy weithiau yn llifo dros ei glannau ac yn gorchuddio'r tir o'i hamgylch.

b Tarddu o'r ferf 'gorchuddio' neu 'sychu ymaith' a wna kpr (a'r ffurfiau yn deillio ohono: kippêr, kophêr, kaphâr etc.) a chyfeiriai at ddefod aberthu er mwyn symud ymaith bechod: 'Offryma bob dydd fustach yn aberth dros bechod, i wneud cymod' (Ex.

Mae'r dryw yn aml yn adeiladu'i nyth mewn wal gerrig wedi'i gorchuddio ag iorwg, ac mewn llwyni trwchus.

Canfu'r bardd y dyluniad beiddgar hwn 'yn fap o Gymru a ymddangosai fel petai wedi hoelio at ei gilydd ddarnau o ddefnydd amrywiol, darnau o bren haenog wedi'u peintio neu ddarnau o fwrdd wedi'u gorchuddio gan frethyn.