Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gorchymyn

gorchymyn

Os oes angen cadarnhad o ddiffyg apêl yr iaith Saesneg, mae i'w weld o'r trên wrth deithio ar ddydd Mawrth o Sha Tin i gyfeiriad Kowloon - baner fawr binc ar wal allanol ysgol uwchradd yn gorchymyn 'SPEAK

Ma' hi'n gofyn bae'.' 'Drw' Lanengan ac yn deirect i'r dre ydi'r gorchymyn 'dwi wedi gal.

Roedd y cyfreithiau Cymreig yn gorchymyn i weision y brenin godi naw tŷ, gan gynnwys neuadd, ystafell wely, cegin, capel, ysgubor, odyn, ystabl, bragdy a thŷ bach, ar gyfer eu harglwydd.

Un o'r cashiwaltis cymdeithasol ac un math o berson a ddylid gosod "gorchymyn gwarchod" arno yn yr oes sydd ohoni yw'r cymeriad rhyfeddol hwnnw - y dyn celwydd golau.

Y DEG GORCHYMYN MODERN gan May Griffiths

Cyn gadael Addis i ymweld ag Arsi, roedden ni wedi cael gorchymyn i ddychwelyd i'r brifddinas cyn iddi dywyllu.

Cafwyd gorchymyn i symud yr holl ferlod oddi ar y mynydd cyn canol Mehefin.

Cawsom y ffisig, rhoddasom ef fesul tropyn yn ôl y gorchymyn ac ymhen yr wythnos daeth newid ynddi.

Ein gorchymyn wedyn i ailafael yn ein gwaith.

Mae'n bosibl hefyd, a chofio y gall yr awdur fod yn fynach, fod awgrym ffurff o benyd cyhoeddus i'w ganfod yn y gorchymyn i adrodd yr hanes wrth bawb a ddêl i'r llys.

Un o rhesymau am y mordeithiau hir oedd gorchymyn Morlys Prydain i gapteiniaid llongau ddilyn y llwybr heibio Tenerife, Ynysoedd Cape Verde, i lawr i Rio de Janeiro ac yna i Cape Town.

Ers wythnos roedd Therosina wedi gorchymyn ei milwyr i fynd i mewn i wlad y Madriaid i adfer trefn yno _ meddai hi.

Ydw i'n helpu plant o ryw gefndir diwylliannol arall trwy ddweud mai fy Neg Gorchymyn i, fy mrechdan i, fy mhepsi-cola i, fy reis i yw'r rhai gorau?

Dyna oedd y waedd fel y rhedai rheilffyrddwyr yma a thraw gan ledaenu gorchymyn yr undebau.

Mae'n rhaid i Bwyll ddysgu sut i feddwl cyn gweithredu, rhaid iddo fod yn ofalus, a bod yn ddigon gostyngedig i ofyn yn lle gorchymyn; ond, er hynny, mae'n ddyn da, mae'n gyfaill ac yn briod ffyddlon, gŵr cyfiawn na ellir ei siglo gan farn ei foneddigion.

Mae llawer o'r farn fod cyflwyno caniatâd Gorchymyn Datblygu Interim yn bwysig o ran gwarchod natur a'r tirwedd.

Fflachiodd golau oren i'w gorchymyn i godi ar eu traed.

Fe ddaw cyn hir." "Ac er mwyn ceisio gwneud y Nadolig ychydig yn hapusach i bawb," roedd y Maer yn siarad eto, "rydw i wedi rhoi gorchymyn i holl blant ysgol y dref yma fynd o gwmpas i ganu carolau.

Anghofia'i byth y teimlad ofnadwy o ofn oedd arnaf wrth weld yr anifeiliaid gwyllt, er eu bod mewn cewyll, a gweld dyn yn mynd i fewn at y llewod, a hwythau yn gwneud yn ol gorchymyn y "trainer", a chlywed y llew yn rhuo.

Mi heriodd Mr Godfrey'r gorchymyn yn yr Uchel Lys yn Llundain ond yn aflwyddiannus.

iv) roi gwybod ar unwaith i'r Cyfarwyddwr neu Uwch Swyddog os yw Arolygydd Iechyd a Diogelwch yn rhoi Gorchymyn Gwahardd neu Orchymyn Gwella;

PENDERFYNWYD croesasu'r gorchymyn.

Wrth i bawb arall ddychwelyd i Ethiopia, roedd gweithwyr UNHCR ar eu ffordd allan am nad oedd neb wedi newid y gorchymyn swyddogol i adael.

Penderfynwyd fod yn rhaid saethu a rhoddwyd gorchymyn i bawb a weithiai yn y bonc islaw i adael eu bargeinion.

Fodd bynnag, mae'n rhaid darllen y canllawiau ar gyfer pob pwnc o fewn y Cwricwlwm Cenedlaethol yng nghyd-destun y Gorchymyn Cwricwlwm Cenedlaethol a gyhoeddwyd ar gyfer y pwnc hwnnw.

Bydd Ysgrifennydd y Sir yn trefnu i hysbysebu'r gorchymyn arfaethedig a byddai'n ddiolchgar o dderbyn sylwadau gan y Cyngor hwn.

Clywodd y llys ei fod wedi caniatau i fandiau roc ymarfer yno er fod Cyngor Conwy wedi cael gorchymyn llys yn Awst 1998 i'w atal rhag creu swn.

Dangosir y gorchymyn allweddell wrth ochr y gorchymyn ar y ddewislen, felly er enghraifft gellir cadw (Save) yn syth o'r allweddell trwy deipio , ac S gyda'i gilydd.

(c) Mesuriadau Rheoli Trafnidiaeth, Beddgelert CYFLWYNWYD adroddiad y Prif Swyddog Cynllunio ar lythyr a dderbyniwyd gan Gyfarwyddwr Priffyrdd y Cyngor Sir yn rhoddi manylion am fwriad y Cyngor Sir i gyflwyno gorchymyn traffig er gwella'r tagfeydd a rhwystrau a oedd yn bodoli ar rai strydoedd yn y pentref ac yn gofyn am sylwadau'r Cyngor hwn.

Os byddwch yn pwyso DELETE (neu BACKSPACE) bydd y testun yn symud yn ôl i fyny un llinell (oherwydd eich bod wedi dileu y gorchymyn RETURN).

Yr oedd yr Arglwydd Iesu, meddai'r pregethwr, wedi rhoddi gorchymyn i'r disgyblion fynd â'r llestr i Fethsaida i lan arall Môr Galilea.

Dim ots faint o fwyd wna i ei baratoi ar gyfer fy ngwesteion, hyd yn oed petawn i'n gorchymyn gwneud digon o fwyd am flwyddyn, os na fwytawn ni o i gyd y noson gyntaf, ni fydd yna'r un briwsionyn ar ôl fore trannaeth.

Dadleuodd Frank Smith, a sgrifennodd gofiant i Kay-Shuttleworth, fod y gorchymyn i'r Dirprwywyr i ymchwilio i 'foesau'r' Cymry yn dod o ymyrraeth rhywun anhysbys â'r cyfarwyddiadau gwreiddiol yr oedd Kay-Shuttleworth wedi eu paratoi yn ei fraslun.

Gwawriodd fore Llun, ac ar ol gosod y sgis cafwyd gorchymyn i fynd i fyny ar y lifft gadair - fesul un.

'Wel, Wel,' meddai Ioan, 'mae'n well i ti fynd yn ôl; wn i ddim be ddaw ohonom.' 'Mae y Meistr wedi gorchymyn i mi fynd i Fethsaida,' meddai Pedr, 'fe gaiff bow y llong fod ar Bethsaida.' Wrth gymhwyso'r neges i ddibenion ymgyrch y Drysorfa Genhadol, meddai'r Parch.

O fewn y mis yr oedd wedi cyhoeddi tair erthygl yn gorchymyn pob clerigwr i gydnabod uchafiaeth y Frenhines, i ddatgan nad oedd dim yn y Llyfr Gweddi'n groes i Air Duw ac i gymeradwyo'r cwbl o'r Deugan Erthygl namyn Un.

Adda ac Efa yng ngardd Eden a gafodd y gorchymyn.

Yn y traethodau sydd wedi eu casglu yn Llyfr Ancr Llanddewi Brefi byddai cyfle iddo ystyried sut y trosid i'r Gymraeg yn y Cyfnod Canol ddarnau fel y Deg Gorchymyn, y Gwynfydau, Prolog Efengyl Ioan ynghyd ag ugeiniau o adnodau unigol o'r Hen Destament a'r Newydd.

Fe ddaw ei eiriau am y rhan o wisg pen Rhiannon a ddylasai guddio'i hwyneb ag adlais o gynghorion Tertullian ar wisg gwragedd, a llenni'n arbennig, a hefyd o eiriau canon y chweched ganrif sy'n gorchymyn i wragedd clerigwyr wisgo llenni.

Ochr yn ochr â hyn roedd tuedd i gollfarnu'r dosbarth cyfalafol am fethu yn eu dyletswydd at y miloedd o bobl a oedd wedi eu crynhoi at ei gilydd, yn ôl eu gorchymyn, i leoedd afiach.

Yna daeth y gorchymyn terfynol.

Cwbl nodweddiadol o fyrbwylltra Pedr yw ei gais, yn yr Efengyl yn ôl Mathew: Arglwydd, os tydi yw, gorchymyn i mi ddod atat ar y tonnau, ac iddo, wedi cael caniatâd, ddechrau cerdded ar y tonnau nes iddo edrych ar rym y gwynt yn lle ar ras y Gwaredwr ac o ddechrau suddo, gweiddi: A Arglwydd, achub fi.

(b) Gorchymyn Pedestrianeiddio'r Cyngor Sir - Sgwâr y Farchnad, Pwllheli CYFLWYNWYD adroddiad y Prif Swyddog Cynllunio yn rhoddi manylion am gynllun ar y cyd â'r Cyngor Sir i bedestrianeiddio'r sgwâr uchod.

Himmler yn gorchymyn adeiladu Auschwitz.

Roedd hi wedi cael gorchymyn i archwilio Enlli.

Gwenodd ar y milwr urddasol a ymsythai wrth ei ochr, cyn ychwanegu, "Mae Herr Von Kleist wedi gorchymyn bod y ddogn fara i godi dros gyfnod y Nadolig.

Dan y ddeddf hon gall Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Fasnach roi gorchymyn i ddiogelu safle rhag unrhyw ymyrraeth gan bobl nad oes hawl ganddynt.

Cafodd Raewyn Henry o Heol Marshfield, Cas-bach, ddirwy o £150 a'i gorchymyn i dalu costau o £30.

'Neith i gnesu, er 'i fod o fel wermod.' 'Mi gofi'r nawfad gorchymyn, Pyrs?' Ond, hyd yn oed os cofiai'r coetsmon orchymyn yr Hen Destament i beidio â lladrata, ni chaniatâi ei syched iddo ufuddhau iddo.

Byddem yn cadw ei gorchymyn nes dod adref, ond yna byddain rhaid egluro i Mam beth oedd y cyfoeth annisgwyl oedd gennym.

Oedd Bilo wedi gorchymyn iddo ei wylio a cheisio penderfynu oedd yna ddigon o ddewrder a chaledwch ac ysbryd antur ynddo i ymuno â'r criw?

Wrth ichwi ddarllen y Beibl o'i gwr, fe welwch mai'r gorchymyn cyntaf un a roddodd Duw i ddyn oedd "darostyngwch y ddaear".

"Brysiwch." Roedd digon o arddeliad yn y gorchymyn i beri iddi ufuddhau.

Ers wythnos roedd Therosina wedi gorchymyn ei milwyr i fynd i mewn i wlad y Madriaid i adfer trefn yno - meddai hi.

Clywodd E. H. Jones y waedd a chyhuddodd y myfyrwyr o ledu digalondid bradwrus a'u gorchymyn i ddod i'w ystafell tra oedd yn galw'r heddlu.