Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gorffenedig

gorffenedig

Deuai o hyd i'r defnyddiau 'ail-law' hyn ar hyd y strydoedd o gwmpas Coleg Sant Martin, a gwelai'r broses o greu a'r gwrthrych gorffenedig fel perfformiad.

Y mae'n gallu gweld y cynnyrch gorffenedig wrth afael mewn coedyn amrwd ar lawr y fforest.

Mae fel pe byddai yn gadael argraff o fraslun gorffenedig yn aml iawn.

Pwrpas yr hormonau hybu tyfiant oedd llonyddu'r anifail, gan alluogi iddo ddod i fwy o bwysau fel anifail gorffenedig.

A'r olaf o'r ystyriaethau ydyw'r lleihad parhaol ym maint ein diwydiannau cynhyrchu nwyddau gorffenedig - hynny yw, ein sylfaen diwydiannol.

Tywysodd Lisa yr ymwelydd o gwmpas, gan symud o'r meinciau at y byrddau, o'r torwyr at y peirianwyr, o'r rhesi o esgidiau lliwgar ar eu hanner at y gwadnau yn disgwyl am sodlau, ac o'r diwedd at yr esgidiau gorffenedig yn cael eu gosod yn daclus mewn blychau gwynion.

Daw'r adran i ben yn hollol ffurfiol â brawddeg glo draddodiadol, a blwyddyn a dwy a thair y bu ef yn hynny onid oedd ei glod wedi ehedeg dros wyneb y deyrnas, ac y mae'r awdur wedi llwyddo i adrodd anturiaethau sy'n dechrau heb gyswllt â'i gilydd ond sy'n cad eu tynnu o wahanol gyfeiriadau yn un hanes cyflawn a gorffenedig.

Wrth olygu, bydd ychydig o'r deunydd sydd wedi ei ffilmio yn cael ei wrthod ond bydd y gweddill cael ei dorri'n llythrennol a'i lynu at ei gilydd mwyn gwneud y cynhyrchiad gorffenedig.

Yn ol cyfartaledd roedd y cynnydd mewn pwysau yn werth oddeutu hanner can punt i ffermr wrth werthu'r anifail gorffenedig, hanner can punt fyddai'n aml yn gwneud y gwahaniaeth rhwng elw a cholled.