Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gorffwys

gorffwys

Wedi trech y daith genhadol, yr oedd angen gorffwys ar y disgyblion a chyfle i adolygu'r genhadaeth gyda Christ; ac wedi marwolaeth ysgytiol Ioan Fedyddiwr a'r elyniaeth gynyddol o du'r Phariseaid a'r Herodianiaid i Grist, ar ben ei brysurdeb mawr gyda'i ddamhegion a'i wyrthiau, yr oedd angen encil ar yr Arglwydd Iesu hefyd.

I Williams y mae trefn natur yn gorffwys y tu mewn i drefn gras.

Safai, a'r crwt bach yn gorffwys ar ei chlun, i wylio Dai Mandri'n gweithio ar ddarn o haearn, heb yngan gair ac heb wenu, fel pe bai Hadad yn greadur ar wahân.

Erbyn mis Medi bydd miloedd o adar yn dylifo i'r wlad hon a bydd rhai hefyd yn gorffwys cyn mynd ymhellach i wledydd fel Sbaen.

Cafwyd ar ddeall fod gan y llywodraeth dai gorffwys ym mhentref Sipi a bu raid ysgrifennu ar frys i sicrhau lle.

Bydd Awstralia yn gorffwys rhai o'u sêr ond dyw hynny ddim wedi gwanhau'r tîm fawr ddim.

Pe bai'r cyfnod gorffwys yn llai na deuddeng awr telir am bob awr y cyfyngir ar y cyfnod gorffwys fel pe bai'n or-amser.

Doedd y dyn yn ei gaban ddim yn gallu dod i'm helpu oherwydd bod fy nwy sgi wedi troi ar draws llwybr y lifft ac yn gorffwys ar ei ddrws fel nad agorai hwnnw!

Cyfnodau Gorffwys Rhwng Cyfnodau Gwaith

Ni fydd cyfnodau o orffwys rhwng dau gyfnod gwaith ar yr un ymrwymiad yn llai na deuddeng awr fel arfer, heblaw am achosion o argyfwng fyddai'n atal cwblhau'r gwaith a rhoddir ystyriaeth lawn i'r pwysau gormodol a allai fod ar yr Artist o ganlyniad i gwtogi ar y cyfnod gorffwys.

Y meddwl ddim yn gorffwys.'

Nid yw pawb yn gorffwys ar eu rhwyfau.

Chwi gofiwch mai 'Teyrnasoedd Daear' oedd y testun a osodwyd, ac i 'Pererin' ysgrifennu ar thema hunan-laddiad - trwy hyn yn unig y gallai'r bardd, a'i gymehriaid, gyrraedd y tŵr lle profir distawrwydd a gorffwys.

Yn wir, fei clywyd yn dweud yr wythnos diwethaf na fydd ef yn gorffwys nes y bydd y rheilffyrdd yn ddiogel.

Y mae sicrwydd y gwyddonydd yn gorffwys bellach nid ar unrhyw ddatguddiad dwyfol ond ar effeithiolrwydd y method gwyddonol.

Wedyn fe fydd pob un ohonoch chi'n cael gorffwys iawn yn y pnawn." A dyma'r dynion bach od yn edrych ar ei gilydd ac yn dechrau gwenu.

Yn nhîm Llanelli mae'r wythwr Scott Quinnell a'r clo Chris Wyatt yn cael gorffwys a'r maswr Stephen Jones fydd y capten.

Gyda threigl y canrifoedd dirywiodd yr adeiladau coed, sef tai'r bobl gyffredin a siopau a thai gorffwys y pererinion.

Asgwrn y gynnen oedd penderfynu Iasme, amser gorffwys, a'r amser noswyl.

Crafant y pridd o'r ddaear gan adael twneli gweigion a siamberi gorffwys, gyda'r twneli yn eu cysylltu ag ambell dwll dianc yma ac acw.

Ac meddai'r dynion bach od, "Dim ond un gadair sydd yn tŷ, a dydyn ni ddim yn cael gorffwys iawn ar _l gweithio'n galed." A dyma'r dyn trwsio sosbenni yn rhoi ei ben ar un ochr ac yn meddwl yn galed.

Reit, cariad?' 'Diolch i chi.' Erbyn i Ifan Ifans gyrraedd yn ôl at y bus lledorweddai morwyn Tyndir ar un o'r seti croesion a'i chyntafanedig yn gorffwys ar ei dwyfron.

Wedi wyth awr a deugain o gellwair â'r syniad difyr i ni gael ein symud i wersyll gorffwys, cafodd Mac a minnau ein gwysio'n sydyn o flaen swyddog yn y Gott Wing.

Ond doedd dim digon o le iddyn nhw i gyd ar un gadair, ac mi fyddai pob un ohonyn nhw yn gweiddi, un ar _l y llall, "O, rydw i bron _ syrthio!" "Rydw innau bron _ syrthio!" "Does gen innau ddim digon o le!" "A rydw i'n cael fy ngwasgu yn y canol!" Felly doedd yr un o'r dynion bach od yn cael gorffwys iawn, ac mi fydden nhw bob amser wedi blino.

Mae llawer o'r rhydyddion a'r hwyaid yn gorffwys yn y wlad hon cyn mynd ymlaen i Dde Ewrob a hyd yn oed i Affrica, e.e.

'Roedd popeth wedi mynd yn iawn, ond wedi dweud hynny gall y Stadiwm ddim gorffwys ar eu rhwyfau.

Yr orsaf ei hun yn llawn o filwyr Americanaidd ar eu ffordd o faes y gad i wersyll gorffwys.

'Roedd gennym ddwy awr i sbario, felly dyma geisio gorffwys - 'roedd gennym noson hir o'n blaen.

Yma y gorffwys gweddillion yr hen a'r ifanc o bob rhyw, meistr a gwas, y medrus a'r anfedrus.

Roedd y corachod wedi llwyddo i ddod allan o'r ogof ac wedi bod yn gorffwys yn lluoedd ar fin y coed, yn aros, fel y lleill, i'r wawr dorri.

Mae o eisiau gorffwys mewn lle cynnes a braf.