Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gorfodi

gorfodi

Rhain, yn anffodus, yw'r dosbarth sy'n cael eu gorfodi i gael benthyciadau gan y siarcs yn y strydoedd cefn.

Mae swyddogion Caerdydd wedi bod mâs yn Nulyn ers ddoe a bu son y bydden nhw'n mynd i'r llys i geisio gwaharddiad yn erbyn yr ERC a'u gorfodi nhw i newid eu penderfyniad a chaniatau i Peter Rogers chwarae yn erbyn y Saracens yfory.

Bu'r helynt yn destun cyffro cenedlaethol oherwydd gorfodi'r wyth i sefyll eu prawf yn Llundain...

Mae'r manylion am y cymdogion hyn yn troi i ffyrdd mor wrthgyferbyniol yn gorfodi haneswyr i holi a yw hi'n iawn tybio fod y Diwygiad Methodistaidd yn codi o achosion cymdeithasol?

Dylid gorfodi Awdurdodau Addysg, Cynllunio, Tai, Hamdden Gwasanaethau Cymdeithasol i ymgynghori â'r Fforymau Ieuenctid ar faterion perthnasol i anghenion pobl ifanc.

Yn achlysurol, bydd wardeiniaid y parciau cenedlaethol yn rhai o wledydd Affrica yn cael eu gorfodi i ladd cannoedd o eliffantod er mwyn rheoli'r twf, a sicrhau bod digon o fwyd i gynnal y rheiny sy'n weddill.

WL Oherwydd nad yw CCC yn fodlon mabwysiadu polisi o ariannu hir dymor rydan ni'n cael ein gorfodi i wneud cynlluniau'r cunud olaf.

'Roedd yn orfodol gweithredu prosesau gorfodi yn erbyn datblygu nas awdurdodwyd yn effeithiol ac ar fyrder er mwyn i reolaeth cynllunio fod yn effeithiol.

Mae ei gyfaill yn cadw llygad barcut ar dy gydgarcharorion sydd wedi eu gorfodi i sefyll yn erbyn y wal ar ochr bella'r gell.

Bydd hyn yn golygu na fydd y dosbarth derbyn yn llai na 30 o ddisgyblion ac yn gorfodi i ddau ddosbarth uno'n un gan ddadwneud yr hyn oedd amcanion arian y Cynulliad.

Gorfodi pob Iddew yn Yr Almaen i wisgo Seren Dafydd felen.

Cawsom berfformiad da y tro hwn hefyd, er i'r cantorion gael eu tarfu yn yr act gyntaf drwy i'r golau trydan ddiffodd ddwy neu dair gwaith, a'u gorfodi hwy a'r gerddorfa i roi'r gorau iddi.

Ni welai hon fod eisiau newid dim ar yr Eglwys - dim ond gorfodi pawb i gydymffurfio.

Dylai'r Cynulliad ddileu Tai Cymru fel Quango a chryfhau darpariaethau Cymdeithasau Tai Lleol yn y sector rhentu gan eu galluogi i brynu mwy o dai o'r stoc dai presennol yn hytrach na'u gorfodi i godi tai newydd.

Wel mi gan nhw eu gorfodi dwi'n credu, gan amgylchiadau, i ddod i delerau efo'r sefyllfa oherwydd faswn i'n meddwl, er na allaf siarad o brofiad, ymhlith yr hen oedd y styfnigrwydd yma, yr hen bobl yn ei chael hi'n anodd i symud a newid enwad, neu newid adeilad, addoldy, ond tydi bobl ifanc yn malio fawr ddim am bethau fel hyn, a 'dwn i ddim beth fydd dyfodol yr Eglwys neu'r Capeli os ydi'r bobl ifainc yn troi i fod yn Gapelwyr neu Eglwyswyr unwaith eto.

Y rhain oedd yn codi tafarnau a diotai, yn cyflogi asiantiaid rheglyd a meddw, ac yn gorfodi gweithwyr i dorri'r Saboth.

Yr oeddem yma i gael ein cosbi, ac ni buom yn yn hir cyn sylweddoli y byddai'n rhaid inni fagu penderfyniad cryf os oeddem am ddod allan o'r lle hwn yn fyw Un ffordd i'n cosbi oedd rhoi llai o reis inni a'n gorfodi i fyw ar ddau bryd y dydd.

Nid oes angen dweud mai'r cam cyntaf tuag at sylweddoli'r amcanion hyn, yn nhyb Sinn Fe/ in, yw gorfodi'r llywodraeth Brydeinig i derfynu ei hymyrraeth ym mywyd Iwerddon.

Yn ôl Branwen Brian Evans, cyd-gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg mae'n warthus fod yr Archwilydd Dosbarth yn ceisio gorfodi polisi addysg arbennig ar y cyngor ac ar y sir.

I Kant y maent yn rhan o realiti er hynny oherwydd fod anghenion ein bywyd moesol yn ein gorfodi i gredu ynddynt.

Mae'n debyg ei fod wedi penderfynu gorfodi'r ddau lanc sy'n cynorthwyo gyda gwaith y cantîn i dalu am eu bwyd.

Lleoedd arswydus ble mae pobl dlawd, croenddu, yn cael eu gorfodi i fyw.

Mae'n union fel pe byddech chi yn gwrthod mynediad i rywun i'ch ty ond y dyn drws nesaf yn eich gorfodi i'w adael i mewn.

Nid hanes 'arwrol' a geir yma (er bod arwyr Dylan Phillips yn amlwg ddigon yn y naratif). Ymdriniaeth ddeallus a threiddgar ar ddatblygiad y Gymdeithas yw'r gyfrol hon, llyfr sy'n gorfodi'r darllenydd i fyfyrio'n ddwys uwchben y pwnc a gofyn cwestiynau anodd.

Maent hwythau, pan yw'r ffurfafen a'r ddaear fel petai'r ddwy yn eu cwsg olaf, ac yn llwydo, yn cael eu gorfodi i hofran neu stelcian ymhell o gyffiniau'r ynysoedd amddifad.

Er na ellir gorfodi neb sy'n medru'r Gymraeg i'w defnyddio, mae'n rhaid ceisio eu darbwyllo i deimlo perchnogaeth arni.

Arfer cynghorau sir Cymru yw gwrthod cydweithredu â'i gilydd heb eu gorfodi, a gwrthod hyd y gallant bob cais i newid eu cyfansoddiad a'u trefn.

"Doedden nhw ddim yn barod i ddatgelu'r cyfan o'u tystiolaeth a chawson nhw ddim o'u gorfodi i wneud hynny," meddai Michael Fisher, "Roedd thaid i'r rheithgor ymddiried ynddyn nhw - mae hynny'n rhoi grym anferth iddyn nhw, llawer gormod o rym."

Fe gymerodd y fordaith yn ôl o Portsmouth i'r Traeth Mawr yn agos i dair wythnos, gan i'r gwynt fod yn wrthwynebus a'i gorfodi i lanio ddwywaith cyn cyrraedd pen y daith.

T^y'r Cyffredin yn cymeradwyo gorfodi dynion sengl rhwng 18 a 41 oed i ymuno â'r Lluoedd Arfog.

Problemau teithio Y dadleuon sy'n cael eu gwyntyllu amlaf yw'r gost uwch o deithio i'r de neu'r gogledd, safon gwael y ffyrdd yma yng Nghymru (hyn yn ei dro yn gorfodi aros dros nos); hefyd safon isel y pêl-droed a ragwelir yn y cynghrair newydd.

Oherwydd problemau p^wer ac olew, y Llywodraeth yn gwahardd ceir rhag gyrru'n gyflymach na 50m yr awr, ac yn gorfodi sianeli teledu i ddiweddu eu gwasanaeth am 10.30 pm.

Mae hyn, yn amlwg, yn hybu cystadleuaeth rhwng colegau ac yn gorfodi'r colegau i gystadlu yn erbyn ei gilydd i gael myfyrwyr (sydd yn golygu arian) a llenwi eu cyrsiau, yn hytrach na chyd-weithio er mwyn darparu'r addysg orau bosib.

Erbyn heddiw mae'r oes wedi newid, does neb adref nac yn y capel wedi ein gorfodi i ddod yma.

Yn ail trwy reolaeth leol ysgolion y maent yn gorfodi mwy o arian i gael ei ddyranu i ysgolion yn ôl y pen y disgybl gan ddiystyru amgylchiadau cymdeithasol ysgolion a'r disgybion.

Trawsffurfiodd yr hen Gomisiwn Eglwysig a'i droi'n Llys yr Uchel Gomisiwn a hwnnw'n gwbl wynebgaled yn defnyddio ddulliau hen chwilys yr Oesoedd Canol, yn gorfodi pob cyhuddedig i gymryd y llw ex officio a oedd yn caniata/ u i esgob yn rhinwedd ei swydd ofyn unrhyw gwestiwn a fynnai i'r cyhuddedig a phe peidiai hwnnw ag ateb, gellid cymryd yn ganiataol ei fod yn euog, er nad oedd un ditment wedi ei chyhoeddi yn ei erbyn cyn hynny na thwrnai'n bresennol i'w gynorthwyo.

Yn gyntaf, oherwydd fod yr Wyddeleg wedi gorfodi i'r cyfryngau dderbyn datganoli. Er yn sianel genedlaethol nid yn y brifddinas ymhlith y crach - a'r tinlyfwyr - ond ym mhen draw'r byd yng Ngonnemara mae'r pencadlys.

Bu gwrthsafiad mawr yn erbyn y bwriad yno, a'r gweriniaethwyr a'r Blaid Seneddol Wyddelig yn uno â'i gilydd, ar y tir fod Iwerddon yn wlad wahanol i Loegr ac nad oedd yn iawn gorfodi un wlad i ymladd dros wlad arall.

Fe allai'r dewiswyr gael eu gorfodi i wneud mwy o newidiadau i'r tîm - mae'r canolwr Mark Taylor wedi anafu'i bigwrn yn ystod y paratoadau ar gyfer y gêm.

Maent hefyd yn gandryll ynglyn ag agwedd Cymdeithas Pêl-droed Cymru trwy geisio eu gorfodi i ymuno â'r cynghrair newydd.

Yr effaith yn gorfodi rhwystro 250,000 o ddefaid yng Ngogledd Cymru.

Felly, i'r rhai ohonoch oedd yn absennol o'r oedfa, a hefyd yn wir i atgoffa'r rhai oedd yno, dyma adgynhyrchu'r hyn a ddywedwyd ganddi: "Ys gwn i faint ohonoch chi yn y gynulleidfa a gafodd eich derbyn oherwydd fod eich rhieni wedi eich gorfodi i wneud hynny, neu efallai nad oeddech wedi meddwl rhyw lawer am y peth, ac mai dilyn traddodiad oedd yn bwysig.

Er bod dadleuon o'r fath yn ymddangos, ar brydiau, yn ffuantus, mae'r broses dadansoddi ieithyddol hwn wedi bod yn llesol i'r maes, trwy ein gorfodi i edrych yn fwy manwl ar beth yw hanfod y maes, pwy yn union yw'r plant a sut yn union mae darparu'n effeithiol ac yn deg ar eu cyfer.

Dynesodd y corachod o un i un a gorfodi'r milwyr i dynnu ar afwynau'r meirch, ond roedd gormod o elynion o'u cwmpas iddyn nhw feddwl am wneud dim.

Ar y sail yma bu H. W. Montefiore yn adeiladu damcaniaeth fod ymgais i godi gwrthryfel yn yr anialwch a gorfodi Iesu i ymgymryd â swyddogaeth meseia milwrol.

'Rhwbath hynod o frwnt, mae'n debyg, i'w gorfodi i fod yn gaethweision i chi.'

Fe gaent eu gorfodi i'r lefel isaf un, lle'r oedd y peiriannau mawrion a redai'r Ddinas.

Roedd y Khmer Rouge wedi ei gorfodi hi a'i gŵr i fyw ar wahân ond roedden nhw wedi parhau i weithio yn y caeau reis gyda'i gilydd.

Cyflwyno cynllun y 'Bevin Boys' a oedd yn gorfodi rhai i weithio mewn pyllau glo yn lle mynd i'r Fyddin.

Montefiore yn adeiladu damcaniaeth fod ymgais i godi gwrthryfel yn yr anialwch a gorfodi Iesu i ymgymryd â swyddogaeth meseia milwrol.

Comisiwn yn argymell na ddylid gorfodi plant i fyw mewn wyrcws.

Dywedodd Huw Lewis un o arweinwyr y cerddwyr, ' Hyd yn oed os yw'r prinder tanwydd yn golygu fod llai o bobl yn gallu teithio i Gaerdydd i ffarwelio â ni, ac hyd yn oed os collwn ni ein cerbyd wrth gefn, fyddai yn ein gorfodi i gario ein holl baciau ar ein cefnau, yr ydym yn benderfynol o fynd yr holl ffordd i Lundain.

Craffodd hithau tua'r awyr fel petai'n ceisio gorfodi'r awyren ddychmygol i ymddangos uwch ei phen.

Yr un pryd credai'n bendant nad ymatebai Llywodraeth Prydain i hawl gyfiawn y Cymry i'w rheoli eu hunain heb iddi gael ei gorfodi gan amrywiol amgylchiadau i wneud hynny, yn y pendraw.

Mae gweld yr holl gymeriadau hyn yn fyw yn y llyfr hwn yn gorfodi dyn i holi pam yr oedd cyrnaint o bobl debyg i'w gilydd yn troi yn elynion mor anghymodlon?

Trwy awgrym, cysylltwyd dilynwyr John Frost ag eithr nid Siartaeth fel y cyfryw ydoedd, ond y llygru a'r bwystfileiddio oedd wedi eu gorfodi ar y bobl.