Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gorfoledd

gorfoledd

Byd yw hwn sy'n cymysgu dagrau un oes â gorfoledd oes arall.

Oherwydd hyn mae'r ymateb a godir ganddynt - arswyd,gorfoledd, rhyfeddod, dirgelwch, ymgolliant - yn wahanol hollol i'r ymateb sy'n digwydd wrth ddarllen ac ystyried ehediadau dychymyg barddonol.

A phan gyhoeddwyd hynny, ac yntau'n eistedd rhwng dau swyddog carchar, neidiodd Silyn ar ei draed mewn gorfoledd a brysio ar draws at Rhian i'w chofleidio'n dynn.

Nid yw gorfoledd bellach yn un o brif nodweddion yr addoli yn yr eglwysi.

Cyffyrdded dy Ysbryd Sanctaidd â'n calonnau nes bod gorfoledd yn dygyfor ynddynt a gwefr yr iachawdwriaeth yn troi'n gân ar ein gwefusau.

â gorfoledd ac anhunedd.

Ac o'r profiad hwn, o'r uno ysbrydol â Christ, yr oedd gorfoledd ac egni'n tarddu.

A wnei di gymryd rhan ynddo, rhag ofn iddo fynd yn fethiant, ac i'r gelyn gael testun gorfoledd?'

Ailddarganfod rhyfeddod trugaredd Duw yn ei waith achubol yng Nghrist sy'n creu gorfoledd yr iachawdwriaeth.

Mae'r stori'n creu gwahanol emosiynau - o gyffro cael mynd am bicnic i bryder wrth i Tedi fynd ar goll a gorfoledd pan fo'n dychwelyd yn ddiogel.

Dyma destun yr ydym yn edrych yn ôl dros ugain mlynedd ato, a hynny gyda gorfoledd yn ein henaid, a hiraeth dwfn am weld eto yn fuan gyffelyb amser i hwnnw.