Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gormes

gormes

a ydych am ddweud wrthynt eu bod i fynnu cael gan y gelyn y mesur iawn o gyfiawnder i'w gwlad, a bod cael mymryn yn rhagor na hynny yn eu gwneud, o fod yn weinidogion cyfiawnder, yn weithredwyr gormes a chamwri ?...

Anfonodd Duw ei Fab Iesu i'r byd yn gyflawn o'r bywyd perffaith i'n dysgu amdano ac i'n gwahodd bawb, gwerinoedd yr holl ddaear ,i mewn i'w Deyrnas ei Hun." Oblegid ei fod yn gweld "Gormes gyfalafol-imperialaidd yn caethiwo plant y Tad yng Nghymru ac yn eu difreinio%, meddai Gerallt Jones, "Y mae'n genedlaetholwr Cymraeg o Gristion".

y wawr yn codi ar Gymru, hualau'n cael eu lluchio ymaith, iau gormes canrifoedd yn cael ei thynnu, y mynyddoedd yn bloeddio canu, y coed yn curo dwylo, ac felly ymlaen.

Nid peth newydd oedd gormes yma ac, oherwydd hynny, roedd grym traddodiad yn gryf.

Nid wyf yn un o'r rhai hynny sy'n ymatal rhag protestio yn erbyn anghyfiawnder a gormes trwy ddadlau mai dyna sydd i'w ddisgwyl mewn trefn filwrol.

Nid problem gormes gwleidyddol ydyw.

Gormes ei nwydau yw hynny.

Yn y cyfnod hwnnw a basiodd yr oedd llawer anhwylustod bid siwr, swm o anghyfiawnder o gormes, gyda chyflwr cymdeithas yn llethol o anwastad.

Mae Kampuchea'n wlad brydferth a thoreithiog ac anodd oedd credu, pan es i yno, fod y wlad bymtheng mlynedd ynghynt wedi diodde' newyn mawr a'i phobl wedi byw drwy gyflafan erchyll a gormes mawr.

Gallesid bod wedi darlunio deffroad amgenach na deffroad unigolyddol enaid clwyfus, sef deffroad gwerin i frwydro yn erbyn gormes ac anghyfiawnder.

Lledaenodd fflam y Chwith adweithiol newydd drwy Ewrop, protestiai Americanwyr ifanc yn erbyn y rhyfel yn Fietnam, a phrotestiai'r duon yn erbyn gormes y gwynion.

Wrth i ni danysgrifio i'r is-normal a derbyn safonau dwbwl, wrth i ni ddweud celwydd a thwyllo'n agored, wrth i ni amddiffyn anghyfiawnder a gormes, yr ydym yn gwagio ein hysgolion, difrïo ein hysbytai, llenwi ein boliau â newyn a dewis cael ein gwneud yn gaethweision i rai sy'n arddel safonau uwch, sy'n geiswyr y gwirionedd, sy'n anrhydeddu cyfiawnder, rhyddid a gwaith caled.

Fel dyn yr oedd Watkin yn cael ei barchu gan bawb, oblegid yr oedd yn barod i wneud daioni i bawb; yn ddyn heddychol, yn bleidiwr gwresog i'r hyn oedd deg, ac yn wrthwynebydd dewr i bob trais a gormes.

Ar un llaw, fe fydden nhw'n deyrngedau i arwriaeth cenhedloedd bychain yn wyneb tlodi, gormes a thrais; ar y llall, fe allen nhw greu darlun comig o griw di-brofiad ond gobeithiol yn ceisio rhedeg gwlad.

Yn ei hanfod, cenedlaetholdeb diwylliannol yn hytrach nag annibyniaeth wleidyddol y dymunai ef i'r blaid newydd fabwysiadu - awgrymodd y gallai annibyniaeth wleidyddol awrain at drais a gormes.