Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gormodol

gormodol

Ni fydd cyfnodau o orffwys rhwng dau gyfnod gwaith ar yr un ymrwymiad yn llai na deuddeng awr fel arfer, heblaw am achosion o argyfwng fyddai'n atal cwblhau'r gwaith a rhoddir ystyriaeth lawn i'r pwysau gormodol a allai fod ar yr Artist o ganlyniad i gwtogi ar y cyfnod gorffwys.

Mae ymarfer corff yn rheolaidd yn eich helpu gyda diet dda ac mae o gymorth arbennig gan ei fod yn annog i fraster gormodol gael ei losgi, yn hytrach na meinwe cyhyrau.

Mynegwn ein pryder bod Papur Ymgynghorol y Grwp Ymgynghorol wedi dewis canoli grym mewn modd gormodol, yn ein tŷb ni, gyda'r Prif Ysgrifennydd, sydd wedyn yn treiglo grym i lawr trwy'r Pwyllgor Gweithredol a'r Ysgrifenyddion at y Pwyllgor Pwnc a, dim ond wedyn, at y cyhoedd a chyrff allanol a hynny mewn modd a dybiwn ni sy'n arwynebol iawn.