Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gorsedd

gorsedd

Mae Gorsedd Lloegr yn sumbol o undod Prydain Fawr.

Edrychid ar Feirdd Ynys Prydain fel brawdoliaeth rydd o feirdd a ddaethai, trwy gael eu hurddo mewn gorsedd, i mewn i'r olyniaeth farddol oesol.

Yr oedd y Gymraeg yn ddiogel, ac Anghydffurfiaeth Gymraeg ar ei gorsedd, pan oedd Elfed yn ŵr ifanc a chanol oed.

Gan mai yn enw Cadair Morgannwg y cynhaliwyd yr orsedd gyntaf, sef gorsedd Llundain, priodol felly yw agor yr hanes trwy sôn yn gyntaf am orseddau cynnar y Gadair honno yn Llundain ac ym Morgannwg ei hunan.

Pe baech chi neu fi, neu'r Archdderwydd a Gorsedd y Beirdd gyda'i gilydd, yn gweld bwthyn uncorn a chwt mochyn ynghlwm wrth ei dalcen, ni chaem fyth mo'r fath Niagara o ysbrydiaeth a'n galluogai i'w ddisgrifio'n charming cottage with scope for a sideline in productive enterprise readily accessible outbuildings.

Gwedd ddryslyd a fyddai i hanes Gorsedd y Beirdd pe baem yn ceisio ei adrodd gan anwybyddu'r ffaith mai'n daleithiol neu'n 'gadeiriol' y gweithredai'r mudiad yn y dechrau ac yn ystod cyfran helaeth o'r ganrif ddiwethaf.

Uwchben y ffurfafen oedd dros eu pennau yr oedd rhywbeth tebyg i faen saffir ar ffurf gorsedd, ac yn uchel i fyny ar yr orsedd ffurf oedd yn debyg i ddyn.