Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gorthrymus

gorthrymus

Mae gennyf ryw deimlad fod y sawl a oedd am droi ei gefn ar galedwaith y pwll glo a chlawstroffobia'r ffas yn y cyfnod gorthrymus yma yn hanes y glofeydd yn mynd naill ai i'r weinidogaeth neu'n mynd yn dramp.

Er bod cyfran fechan o'r troseddwyr a alltudiwyd i Awstralia yn ddihirod arswydus, rhaid cyfaddef fod y mwyafrif ohonynt wedi eu cymell i droseddu gan gyflogau isel, gan ddeddfau gorthrymus, safonau byw gwael, diweithdra achlysurol a diffyg addysg.

Ers ugeiniau o flynyddoedd ni roes y drefn dreisgar fawr o gyfle iddynt ddatblygu dinasyddiaeth Gymreig; a thrwy eu blynyddoedd yn yr ysgol, ac wedyn yn y byd y tu allan fe'u gorfodwyd gan drais seicolegol gorthrymus i gredu mai Prydeinwyr oeddent yn gyntaf a Chymry yn ail sâl.

Trodd amryw yn chwerw, a bu'r orfodaeth a osodwyd arnynt i fyw cyhyd ar wahân i'w teuluoedd yn faich gorthrymus rhy drwm i'w gario.