Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gorun

gorun

'Baswn.' 'Yma ylwch -' Cyffyrddodd a'i gorun.

Roedd wedi sglefrio ar draws y gell ar ei fatres nes bwrw'i gorun yn erbyn pibell drwchus yr ychydig wres.

Edrychodd Morfudd arno mewn dirmyg o'i gorun i'w sawdl.

Roedd ei frest binc bron a'n dallu, a'i gorun du a rhyw sglein arbennig arno.

Fe ymolchai o'i gorun i'w sawdl, fe wisgai ei grys newydd ac fe ai i gael cinio.

Hongiai ei wallt yn rhacs llwyd dros ei glustiau, ond roedd cylch moel ar dop ei ben, fel mynach, neu fel petai UFO wedi glanio yno rhywbryd ac wedi serio'r tyfiant ar ei gorun.

Doedd dim yn well ganddo na dychwelyd i'w balas yn fwd o'i gorun i'w sawdl ar ôl bod yn carlamu ar draws y wlad drwy'r dydd.

Edrychodd ar ei hŵyr o'i gorun i'w sawdl.

O'i gorun moel i bowlen ei bibell hir yr oedd Huw Huws yn pelydru heddwch ac ewyllys da.

Gan fod pinc y mynydd yn hoffi bod yng nghwmni'r ji-binc mae'n hawdd eu cymysgu, ond gellir adnabod y ji-binc yn hawdd gan fod ganddo gorun lliw llechen.