Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gosb

gosb

Darfu'r tridiau yn y gell gosb.

'Hefyd, o'n i'n meddwl i sawl cic gosb fynd yn ein herbyn ni ac o'n i ddim yn deall pam.

Ufuddhaodd y bachgen a derbyniodd y gosb.

Cyn i un ohonynt gael cyfle i ddweud dim, meddai Delwyn, 'Mi ddylai'r gosb fod yn addas i'r camwedd eich mawrhydi ...

Aethai unwaith yn yr hanner cyntaf, ac ar ôl y gôl gosb a chael pas Moon o ryc, gwelodd ei gyfle a gwibio trwy'r bwlch i sgorio ar y chwith.

Bydd pwyllgor y gynghrair yn cyfarfod eto i benderfynu maint y gosb.

Roedd Chesterfield wedi penderfynu peidio apelio yn erbyn y gosb.

Paul Jones, Adrian Durston, Gareth Cooper, Steve Jones a Ceri Sweeney sgoriodd y ceisiau gyda Sweeney yn trosi dwy a chicio gôl gosb.

Dengys y ddedfryd a dderbyniodd David Phillips a John Smith anghysondeb parhaus y gosb a fu am gyflawni troseddau cyffelyb, gan fod rheithgorau a barnwyr fel ei gilydd yn ystyried y gyfraith yn rhy llym ac felly yn gyndyn i weithredu ei holl rym.

Yr oedd tri diwrnod mewn cell hanner-tywyll ar fara-a-dþr yn ormod o gosb am edrych ar wyneb merch.

Gyda'r newyn yn y gell gosb daeth yr hiraeth am sigaret; hiraeth am glywed ei haroglau, am osod y tân wrth ei blaen melyn, gollwng y mwg glas allan rhwng ei wefusau a'i weled yn ymdorchi i'r awyr.

O ie, y gosb am ein twyllo, fe ddylen ni sôn am hynny' 'Cosb am dwyllo?' 'Ie, os byddi di'n cymryd arnat dy fod wedi cyflawni tasg, ond heb neud hynny, mi fydd yna gosb.' 'A be fydd honno?' 'Sypreis, was.

Rwy'n cofio'r sgwlyn yn dweud wrthym eu bod yn rhoi sgwaryn o bren am wddf plant a glywid yn siarad Cymraeg yn rhai o ysgolion newydd yr ardal ond welais i neb yn cael y gosb honno, beth bynnag oedd hi.

Newidiodd patrwm y gêm yn llwyr yn yr ail hanner, gan ddechre gyda phedwaredd cic gosb Phil, cic o ddeg llath ar hugain.

Yr oedd yr hen gell yn olau, yn eang ac yn serchus o'i chymharu â'r gell gosb.

Yr oedd cael cwyro'r edafedd a phwytho'r cynfas yn dasg o lawenydd ar ôl segurdod cysglydd y gell gosb Pan oedd Myrddin Tomos ar gysgu un noson deffrowyd ef gan sþn gweiddi ac ysgrechian yn y gell uwch ei ben.

Ar ôl gorwedd am dridiau ar lawr caled y gell gosb, yr oedd cael gorwedd ar wely estyll yn orffwystra.

Troswyd y cais gan Gavin Henson a chiciodd ddwy gôl gosb.

'Os caf i awgrymu yn garedig, mi fyddai troi Anti Meg yn ganeri yn gosb gymwys iawn.'

Bydd hon yn gosb am beidio â gwisgo gwregys; gorlwytho cerbyd; defnyddio'r corn liw nos; anwybyddu arwyddion ffyrdd, ac ati.

Y mae uchafswm o ddwy fil o bunnau o gosb am bob anifail y ceir hormonau anghyfreithlon yn ei gyfansoddiad.

Mae'n bosibl mai rhan o ffurf gynharach ar yr hanes yw'r orfodaeth i adrodd ei stori wrth bob un sy'n dod i'r llys ac yna cynnig ei ddwyn ar ei chefn, neu, fel y dangosodd y Dr Brynley Roberts, fe all fod yn ffurf o gosb gynnar, cosb a ddarostyngai'r troseddwr yn boenus ac y gwyddai'r awdur amdani.

Y chwaraewr a wynebodd y gosb honno dan law'r dyfarnwr, Meirion Joseph, oedd asgellwr Pen-y-bont, Doug Schick, am iddo droseddu yn erbyn Andy Hill, a hynny pan oedd yr ymwelwyr yn ennill o dri phwynt i ddim.

Gwelwn ei fod am barhau i'm hamddiffyn, er gwaethaf y gosb a gawsai.

o'i gael yn euog ar gyhuddiad o ddwyn arian o anedd-dy, dderbyn y gosb eithaf, ond yn fwy tebygol, derbyniai bardwn am ei drosedd a châi ei anfon i Awstralia am ei oes.

Symbol yw'r Gors o'r elfen ym mhrofiad dyn na ellir ei hosgoi, a'r gosb a ddaw yn sgil anonestrwydd.

Pan oedd cysgod barn arnom, daeth y Gwaredwr a dioddef y gosb trosom ni.

Gwelai Myrddin Tomos yn y gell gosb y meysydd moethus, maethlawn ar lannau Tywi, y cnydau cyfoethog, y bencydd beichiog,,a'r gweunydd sa oedd mor esmwyth-lyfn â lawntiau.

Am gyfnod helaeth, dyna, yn wir, oedd y sefyllfa, ond yn ffodus, ni throsglwyddwyd meistrolaeth y cryse duon yn bwyntie, ac eithrio cic gosb gan John Poole.

Yn yr hanner cynta, roedd y sgrifen ar y mur o safbwynt tîm y ddinas, gan i Phil Bennett drosi tair cic gosb allan o dair, tra llwyddodd Caerdydd i ymateb gydag un gic adlam o droed Gareth Edwards.

Y blaenwyr Dyfarnwyd pedair cic gosb ar bymtheg gan Gareth Simmonds (yr oedd un o'r llumanwyr o Gaerloyw, sef John Roberts), deuddeg ohonynt i'r Cochion, llai nag arfer am droseddau yn y ryc er bod pob blaenwr â'i fryd ar ennill yr ail feddiant.

Ac er iddyn nhw dynnu'n agosach gyda gôl gosb arall, gyda rhediad athrylithgar gan Arwel Thomas - ailagorodd Cymru'r bwlch - y maswr yn ad-dalu ffydd Graham Henry ynddo mewn un symudiad.

Ond mi fydd yna gosb.

Cafodd gosb llys am roi dyrnod i Ioan Bebb, cefnwr Cross Keys, mewn gêm glwb flwyddyn yn ôl.

Dyna ichi gosb ofnadwy ar Frenhinwr pybyr, a gþr a fu'n gweiddi am roi cryman am wddw Cromwell.

Rhediad hir crymaidd o ganol y maes i'r asgell dde gan y maswr bach o Lanelli (a roddodd amser inni gofio am Cliff Morgan a Phil Bennett, a diolch yr un pryd y bydd gennym ni faswr o'r iawn ryw unwaith yn rhagor cyn bo hir), a dau gais, y naill ar ôl camgymeriad dybryd gan Thorburn a James Reynolds, yr asgellwr chwith ifanc, yn eu ceisfa, a'r llall, a'r olaf, pan ddaliodd Simon Davies y bêl o gic gosb Stephens wrth y postyn chwith.

'Rhaid i'r gosb ffitio'r drosedd, Jini.'