Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gostau

gostau

Roedd - - yn teimlo y dylai'r cynhyrchydd yn y fath amgylchiadau hawlio unrhyw gostau banc a llog yn ôl.

Ysgytwol yw eu cyhoeddi'n blaen fel hyn: erlynwyd dros 1,100 o unigolion mewn llysoedd barn yn Lloegr a Chymru am eu rhan mewn ymgyrchoedd; codwyd cyfanswm o £38,854 o ddirwyon a £26,283 o gostau llys a iawndal; a dedfrydwyd 170 o unigolion i gyfanswm o 41 mlynedd a deufis o garchar.

Gan fod y cyfan o gostau staff arbenigol ynghlwm wrth gynhyrchu adnoddau arbennig, megis llyfr neu gyfres o lyfrau, disgwylir i'r costau ar gyfer un project penodol gael ei seilio ar natur y cynnyrch (e.e.

Heddiw, roedden nhw wedi cael sbri go iawn ar gostau Sam ac yn barod iawn i'w helpu.

Gyda dyfodol nifer o'r sefydliadau addysgol sy'n cynnal y canolfannau dan fygythiad, bydd angen i'r cyllid a ddyrennir ar gyfer project gydnabod yr holl gostau sydd ynghlwm wrth ei gyflawni, er mwyn sicrhau parhad y ddarpariaeth o adnoddau i'r dyfodol.

Rhoddwyd, hefyd, ddarpariaeth ar gyfer ei gostau teithio a chanpunt y flwyddyn i dalu i was am wneud y gwaith ar y tyddyn na fedrai ef ei hun ei wneud oherwydd pwysau ei ddyletswyddau.

at gostau teithio ar rai ymweliadau y tu allan i'r Coleg a phrynu eich disg cyfrifiadur eich hun.

Dengys profiad y blynyddoedd diwethaf, fodd bynnag, ei bod yn fwy anodd byth gwtogi ar wario cyfredol y llywodraeth oherwydd y gyfran uchel o gostau llafur yn y gwario hwn.

Ond fe welir nad ydyw'n bosibl dod o hyd i Gostau Tasg drwy gyfrwng y cyfrifon ariannol.

I gyflawni'r gamp yr oedd Mr Wolff wedi hawlio tâl o $71ar ei ffurflen gostau am ddwy ddol vodoo a set o hoelion arch o sefydliad yn dwyn yr enw Dr Zombie's House of Voodoo yn New Orleans.

Cafwyd pryd da o fwyd yn y Springfield Hotel, Pentre Halkyn ar y ffordd adref ac y mae Pwyllgor yr Henoed yn dymuno diolch yn ddiffuant iawn i Gyngor Cymuned Y Felinheli am gyfarfod y cyfan o gostau'r wibdaith.

Mewn diwydiant mae'r swm a werir ar yswiriant iechyd o'r fath yn gyfran mor sylweddol o gostau cynhyrchu, bellach, nes bod pris y cynnyrch yn aml yn mynd yn amhosibl ac yn afrealistig o uchel.

Nid yw maint y grant a roddir ar gyfer pob cyhoeddiad yn adlewyrchu'n llawn yr holl gostau sydd ynglwm wrth gynhyrchu'r adnawdd.

"Tal Cyfleusterau% Holl gostau argraffu dyblygu prosesu ac unrhyw gost labordy arall a ddaw i ran yr Archif wrth ddarparu'r Deunydd gan gynnwys heb gyfyngiad unrhyw gostau cludo llwytho ac yswiriant a ddaw i ran yr Archif wrth gludo'r Gwaith a'r Deunydd i'r labordy ac oddi yno.

I fod yn hollol gywir, cyfyngir y defnydd o'r term hwn i gostau anuniongyrchol o gynhyrchu ond siaredir yn aml, hefyd, am argostau gweinyddol ac argostau marchnata.

'Cronfa gyhoeddi', sef cymorth tuag at gostau argraffu a gwerthu holl gynnyrch yr Uned ar y sail bod yr adnoddau yn cael eu gwerthu i'r ysgolion, nid yn cael eu dosbarthu am ddim.

Y mae'r un peth yn wir am Gostau Adrannol ac, yn dibynnu ar natur y gwaith, am Gostau Proses.

Dylid rhoi blaenoriaeth i gynlluniau sydd yn cwrdd anghenion lleol am waith, yn cyfrannu at amcanion parc cenedlaethol a helpu i ychwanegu at werth cynhyrchion lleol; ii) Datblygwyr ddylai fod yn gyfrifol am gostau ychwanegol dylunio neu ddefnyddiau adeiladu er mwyn cyrraedd y safonau amgylcheddol uwch sydd yn angenrheidiol mewn parciau cenedlaethol; iii) Dylai asiantaethau datblygu gwledig ac awdurdodau lleol gydweithio gyda'r parciau cenedlaethol i hybu cynlluniau datblygu economaidd sydd yn cydweddu ag amcanion parciau cenedlaethol; iv) Dylid edrych yn ffafriol ar arall gyfeirio fferm sydd yn cyfrannu at gynnal busnesau fferm heb beryglu amcanion parciau cenedlaethol.

Yr heddlu i gyd yn gyfeillgar iawn ac yn holi llawer am gostau astudio ym Mhrydain er mwyn eu plant.

Dylai pob cais am gostau gael ei anfon i Aberystwyth, nid i'r Rhanbarth.

"Tâl Danfon" Holl gostau postio cludo llwytho yswiriant a ddaw i ran yr Archif wrth ddanfon/ddarparu y Deunydd i'r Cynhyrchydd.

Cwtogodd yr ynadon ar yr iawndal i'r Coleg trwy orchymyn o'r diffynyddion dalu £300 yr un i'r Coleg a £25 yr un at gostau cyfreithiol (1/3 o'r swm a hawliwyd gan yr erlyniad). Gwnaeth y ddau ddiffynydd dorri'r rhyddhad amodol yn syth gan ymuno ag aelodau o Gymdeithas yr Iaith i dorri darn o dir i blannu coeden afal o flaen prif fynedfa'r C.C.T.A. ym Mhibwrlwyd fel symbol o'r angen am gychwyn newydd.

Mae'n debyg ein bod yn dechrau anobeithio tua'r adeg yma, ond er hynny, 'r oeddem yn sicr fod ein hachos yn un cyfiawn, ac na fyddai dadl addysgol na dadl am gostau yn peri i ni newid ein meddyliau bellach.