Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gostus

gostus

Oherwydd eu safleoedd daearyddol gall teithio i'r gwledydd sy'n datblygu fod yn gostus, a gall byw ynddynt tra'n ffilmio a recordio'r deunydd fod yn rhyfeddol o gostus hefyd.

Roedd yr etifeddiaeth, fodd bynnag, yn cynnwys anghenfil y wladwriaeth gostus a oedd yn tagu'r wlad a'i phobl.

Ond 'roedd yn ei chael yr gostus i fyw yno ac 'roedd ei wraig yn wanllyd a chanddi dri o blant.

Y genhedlaeth ifanc yng Nghymru fel yn yr Unol Daleithiau sy'n gweithredu o ddifrif, mewn ffordd gostus iddyn nhw eu hunain, i orseddu gwerthoedd uwch yn nhrefn ein cymdeithas; cilwgu arnynt gydag ychydig eithriadau a wna'r canol oed parchus sy'n proffesu ymlyniad wrth yr un gwerthoedd.

Trwy ymuniaethu â dyn a chymryd arnoi'i hun holl etifeddiaeth ei bechod a'i gondemniad, cyflawnodd Crist waredigaeth gostus a barodd ei gymodi â Duw.

Byddai'r dirwyon yn y llysoedd yn drwm, ac o wrthod eu talu byddai'r canlyniadau'n gostus, er nad yn fwy costus nag ymladd etholiadau seneddol diamcan.

Datblygodd y ddameg hon eto gan ragweld rhywrai yn ei feirniadu, a 'thaflu'r ffefryn i'r pydew am iddo fentro rhoi côt gostus yn ôl iddo, eithr, 'pwy a ŵyr, fe all y "Joseff" hwn rywbryd dalu'n ôl ar ei ganfed pan fo dlawd arnom'.

Yr oedd cyhoeddi yr adeg honno yn fenter gostus gydag ymateb y bobl fel arfer yn llugoer a dweud y lleiaf.

Hoffasai hedfan, ond yr oedd hynny'n rhy gostus, ac yr oedd am i'w adnoddau ariannol ganiatau iddo dreulio cymaint o amser ag oedd yn bosibl ym Mharis.