Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gostyngedig

gostyngedig

Amddiffynodd Hughes ei arddull cyn i'r cyhuddiad gael ei wneud ar bapur, beth bynnag: "...nerth ac anwadalwch, a dyfnder yr argyhoeddiad ar fy meddwl fy mod yn amddiffyn y gwirionedd, yn unig a bair i mi lefaru gydag eofndra a hyder, a lle y tybiaf bod genyf y gwir, yn y peth y mae y rhai a hoffaf wedi methu ei ganfod, cydnabyddaf y rhodd, a gostyngedig ddiolchgarwch a gau allan ymffrost", meddai.

Mae'n rhaid i Bwyll ddysgu sut i feddwl cyn gweithredu, rhaid iddo fod yn ofalus, a bod yn ddigon gostyngedig i ofyn yn lle gorchymyn; ond, er hynny, mae'n ddyn da, mae'n gyfaill ac yn briod ffyddlon, gŵr cyfiawn na ellir ei siglo gan farn ei foneddigion.

Fel y gwelsom gyda'r stori gyntaf, mae cadernid enwog y dderwen ar y naill law a gwendid gostyngedig y brwyn ar y llaw arall.

Hyder gostyngedig yw ei hyder ef, ac eto gŵyr fod gan Dduw gynllun ar gyfer ei fywyd, ac felly mae ei hyder yn sicr iawn.

Yn wir mae'r parodrwydd i fod yn ddigon gostyngedig i gydnabod ein camgymeriadau yn aml yn dystiolaeth gryfach na phan fyddwn yn llwyddo bob tro.

Ond, chwarae teg iddo, 'roedd y gwr addfwyn hwn yn ddigon gostyngedig i addo y deuai'n ôl i wasanaeth y Genhadaeth, pe byddai'r cynllun i weithio'n annibynnol yn methu.' Ymhlith y gweithwyr a oedd yn amlwg yn Sylhet bryd hyn yr oedd Suresh, a oedd bellach yn gofalu am Sunamganj, Jogesh, a oedd yn efrydu ar gyfer ei BA yn y coleg yn Sylhet (bu'n ffyddlon iawn yn gofalu am yr eglwys Bengali yn nhref Silchar am flynyddoedd wedyn tan ddiwedd y rhyfel, pan ddaeth amhariad ar ei gof) a Subodh Dutta, a oedd ar y pryd yn athro yn yr ysgol yn Sylhet ac yn compounder yn y dispensari yno; daeth yr olaf yn un o golofnau'r eglwys ar y Gwastadedd ac yn 'bregethwr Cyrddau Mawr'.

Dyma'r tro cyntaf i Isaac Williams, yr addfwynaf a'r mwyaf gostyngedig o ddynion, fentro i faes dadleuon diwinyddol, ac ar unwaith daeth ei enw dan gabl ymysg awdurdodau'r Brifysgol a'r Protestaniaid selog.