Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

graddol

graddol

Yn hytrach, bu cadwyn o newidiadau graddol.

Mae cynnydd graddol wedi bod yn y nifer o ddisgyblion â datganiadau sy'n cael eu haddysgu mewn ysgolion prif ffrwd.

Chwythodd a thuchanodd y morwyr, ac oherwydd ei bod hi'n graddol dywyllu roedd traed neu freichiau yn mynnu bachu bob gafael mewn gwreiddiau coed neu ganghennau, a disgynnodd sawl un ar ei hyd.

Mae gen i rhyw dair gwaith yn fwy o fyfyrwyr yn y flwyddyn gyntaf eleni nag oedd gen i pan o'n i'n dechra' er enghraifft.' ' Sylwodd ar ddirywiad graddol yn safon addysg y myfyrwyr sy'n dod i mewn hefyd meddai.

Drwy wneud penderfyniad felly, am wn i, y mae pob gohebydd yn graddol ddiffinio'r berthynas rhwng gwrthrychedd ac ymateb personol.

Roeddwn i yn Somalia am yr un rheswm ac ar yr un perwyl â phob gohebydd arall - i chwilio am straeon da mewn gwlad a oedd fel pe bai hi'n graddol gyflawni hunanladdiad.

ganlyniad, gellir graddol lunio disgrifiad cydlynus o gefndir, cyrhaeddiad ac anawsterau'r plentyn.

Felly, un o brif nodweddion ein hanes diweddar yw twf graddol.

Yn graddol glywed adlais o grombil ein gilydd yn mynd yn un gân gorfoleddus...Roedd hi'n crynu wrth feddwl am y peth rŵan...

Gadawodd hyn Sheffield gyda llawer o dir diffaith, ardaloedd lle nad oedd gwaith a lle 'roedd natur yn graddol adennill ei thir.

Mae'n graddol dyfu'n ŵr anwleidyddol sy'n gyfystyr â chynnal y status quo.

galwasant a galwasant, a 'u pryder yn graddol droi 'n ddychryn, a 'u lleisiau 'n mynd yn sgrech, a 'r tri 'n rhedeg i fyny ac i lawr y lan gan chwilio yma a chwilio acw, ond yn gwybod yn dda y gallai llifeiriant gwyllt fel hwn daflu ffred a 'i gludo ymaith mewn chwinciad.

Gwrthwynebwn unrhyw awgrym y dylid cyflwyno dwyieithrwydd mewn dull graddol a chondemniwn unrhyw ymesgusodi rhag dwyieithrwydd cyflawn ar sail cymal 'rhesymoldeb' Deddf y laith Gymraeg 1993.

Y tu mewn i'w gylla'i hun daeth i deimlo nwydau'r gwir heliwr yn graddol gorddi.