Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gras

gras

I Williams y mae trefn natur yn gorffwys y tu mewn i drefn gras.

Gras, o seren fach, dyna'r unig obaith am fyw gyda dyn ar dân.

Ac y mae Rhagluniaeth yn gwasanaethu gras.

Mae'n addas inni ein cyflwyno ein hunain, ein teulu, ein ffrindiau, ein hardal, a'n gwlad i'r Duw trugarog sy'n cofio mai llwch ydym ac yn ein cylchynu â'r gras a ddatguddiodd mor ysblennydd inni yn ei Fab, Iesu Grist, sydd yr un ddoe, heddiw ac am byth.

Dy fam, hi oedd yr un â'r gras mawr.

Mae Morgan Pelagiws, y mynach o'r bumed ganrif, wedi'n perswadio'n ddidrafferth y gallwn fyw heb addoli a heb ofidio am bechod na cheisio gras a maddeuant.

Yn wir, fe'i gosodwyd i fod yn dyst yn y byd i ddaioni a gras Duw.

'Y dasg gynta,' meddai, a'i lais yn gras, 'y dasg gynta fydd mygio rhywun.

Mor gras yw'r cywair yn y cwpled cyntaf, gyda'r canoli sylw ar y gair 'ymryson' (meddylier am gynodiadau tyrfus y gair) ac ar y tri ansoddair grymus 'ynfyd', 'chwerw' a 'blin'.

Un o nodweddion Dyneiddiaeth oedd dechrau tanseilio'r hen gred fod y bywydsawd yn gread i'w ddeall yn ôl dysgeidiaeth Tomos Acwin fel priodas rhwng Natur a Gras.

Nid oes ail iddo am fynegi mawredd, gogoniant, cariad, gras a dioddefaint y Gwaredwr.

'A sut ma' hi, Pyrs, wynab yn wynab â'i phrofedigath?' 'Fel cyw gog, 'ngwas i.' 'Y?' 'Mor sbriws ag erioed, ar wahân bod 'na dipyn o ffedoga o dan 'i ll'gada hi.' 'Mae'n dda gin i glywad 'i bod hi'n ca'l y gras i ymgynnal, ac ochneidio'n ddefosiynol.' 'Gwranda, Oba.

O Gymru, oddi wrth yr awdurdodau lleol ac oddi wrth eu swyddogion, y deuai'r gwrthwynebiad, yn gras, yn ddialgar, yn chwyrn.

I'r ddeuddyn hynny y cyfrennid iddynt ddawn Duw y rhoddwyd yn llawn y fraint o fwynhau ' oes winwydd mewn gras union'.Er cryfed ydoedd yr elfen dylwythol ac er mor anodd ydoedd ymwrthod ag awdurdod y tad dehonglid yr ystad briodasol yn bartneriaeth Gristnogol, a phywsleisid yr angen am undod o fewn y briodas honno a allai adlewyrchu undod y wladwriaeth dan y Goron.

'Mawr fu'ch gras a'ch urddas chwi', meddai ymhellach,' ....

Ni thâl ach ddiledryw heb ddoniau cynhenid i'w hanrhydeddu, na theulu heb urddas y bywyd gwâr grasusol i'w gynnal, sef y gras cynhenid (grazia) a amlygid gan Castiglione yn ei Il Cortegiano.

Yr oedd ganddir gras ataliol i beidio â chyfeirio at y ffaith ei fod hefyd heb ei ail ar gyfer glanhau stomp.

Y gwreiddyn materol ffisiolegol a ystyrid bennaf yn eu hathroniaeth ac ohono ef y deilliai hanfod pob gras a rhinwedd.

mewn ffyniant fel meddiant mawr, bo gras ag urddas ....' .

Mawrheid y ty ac iddo 'grwndwl â gras ....

ac arddel teg urddas' a'r fangre lle 'y rhed gryn anrhydedd; gras glân'; a dyrchafwyd y penteulu yntau'n ŵr o 'lendid a ffyddlondeb'.

Hynny yw, nid awgrymu pa mor fregus yw gorchudd gras y mae Cradoc, ond mor gryf ydyw - a chaniata/ u fod "gras" a "chariad" fel ei gilydd yn cynrychioli agwedd dosturiol Duw at ddyn yn ei ing.

Rhaid yn hytrach roi i mewn ym mywyd dyn flawd efengyl gras a maddeuant.

Sylw Mr Wynn Thomas arno yw, "Teg gwerthfawrogi cywirdeb Calfinaidd yr ebychiad hwn, ond sylwer hefyd pa mor fregus y mae'n peri i orchudd gras ymddangos".

Yr oedd yn diolch i Dduw am gyfle i droi ato ar orsedd gras ymhlith ei gyd-weithwyr, ac yn gofyn am i Dduw trwy ei Ysbryd ein cynorthwyo i wneud y gorau o'r cyfle hwn, rhag ofn y byddai'n gyfle olaf i rai ohonom oedd yno.

Ond nid yn llym y dywedir hynny: mae'r awdur fel petai'n cydnabod anghysonderau'n bywyd ni y tro hwn ac yn cael gras i'w croesawu a'u troi'n ddefnydd celfyddyd.

Ond da y gwn fod gras ar waith yr un pryd.

Enwodd ef Emrys Roberts yn hoff awdur Cymraeg a Dyddiau Gras yn hoff lyfr.

Y mae angen inni gael ein diddyfnu oddi wrth y siniciaeth sy'n peri inni ddiystyru gallu gras Duw i achub pechaduriaid.