Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

greddfol

greddfol

Yn gwbl groes i duedd Graham Henry gyda'r prif dîm, mae'r Tîm A yn debyg o gynnwys set o olwyr llawn cyflymdra, dychymyg a doniau greddfol.

Yr oedd adwaith greddfol, naturiol pob un i gyfeiriad niwtraliaeth, beth bynnag oedd eu bam am iawnderau polisi%au'r gwahanol wledydd, er i nifer ohonynt fethu cadw eu niwtraliaeth heb ei threisio.

Yr oedd hi'n ddigon o artist greddfol i amrywio ychydig ar y stori bob tro.

Goleuddydd oedd yn llewyrchu yng ngolau'r haul, yn echblyg a greddfol ei natur.

Y drefn ym Mhrydain yw ceisio rhyw le canol rhwng y ddau safbwynt - cyfuno'r awydd naturiol i gosbi a dial a'r duedd llai greddfol i ddiwygio.

Mae'n wir i amryw un, o Saunders Lewis i Hywel Gwynfryn (yn Melltith ar y Nyth), ailgyflwyno'r chwedlau yn y Mabinogi mewn modd sy'n denu chwilfrydedd meddylwyr Freudaidd neu Jungaidd, gyda'u diddordeb yn y wedd rywiol i bethau, a'r amwysedd a'r diffyd rhesymolder sydd yn y chwedlau ym mherthynas pobl neu greaduriaid â'i gilydd, a'r symud sydd rhwng y byd greddfol, anifeilaidd, a byd dynion a'u defodau a'u hawydd i roi trefn ar bethau.

Hi ydyw'r un a roes fod i Culhwch; oddi wrthi hi y cafodd yntau ei natur greddfol.

Sut felly mae egluro'r ymlyniad greddfol bron wrth blaid sy'n gymharol newydd?

Ond i Layard y mae hi'n elfen gadarnhaol ac angenrheidiol, fel y 'fam' sy'n mynnu cychwyn y broses neu'r ddefod o urddo'r mab a'i ddiwyllio i fod yn berson dynol cyflawn, yn ogystal â bod yn wryw ac yn anifail greddfol.

Cafodd y geiriau eu hysgrifennu fel ymateb greddfol pedwar cyfaill i hunanladdiad Kurt Cobain o'r grwp Nirvana.

Ceir anallu greddfol o'r bron i ddyrchafu.