Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

grib

grib

Mae'r Diamwnt yn ymgais i gyflwyno'r ffordd y cymethir yr Ego â'r Hunan, y byd tadol â'r un famol, a'r symbolau o ymosodiaeth, atalnwydau a greddfau a gynrychiolir gan y cŵn, y ceffylau, yr ysgithr, y gweill a'r grib.

Eto, prin fod lle i ddau ohonom sefyll ochr yn ochr ar gopa Piz Kesch - prin fod lle i ddau yn unman ar hyd ei grib dri chanllath, ychwaith.

Ni allent ddianc i unman am eu bod ar grib bryn isel.

Ar y grib nefolaidd cawsom hufen iâ, gwin a gwledd o olygfa i lawr dros y pîn i'r smotiau tai a'r twr eglwys a oedd fel rhithlun yn nhes haul y dyffryn.

Treth ar y corff oedd ymgripian dros y grib olaf, weithiau ar fy mhenliniau, a'r haul yn ei anterth yn llosgi fy wyneb bob cam o'r esgyniad trafferthus.

Craith ar grib 'y moch dde a thrwyn cam 'da fi i ddangos hyd heddiw; i gofio...

Er bod Thomas Young wedi dod yn ganghellor yr esgobaeth, yr oedd yr esgob yn barod iawn i dorri ei grib, fel.

Ac fe gefais gyfarwyddiadau - manwl; pwy ffordd i'w dilyn allan o Langolwyn, troi i'r chwith wrth eglwys y Santes Fair, a dilyn y ffordd fawr am ryw ddwy filltir, troi oddi ar honno wedyn wrth westy'r Tarw Du, a dilyn y ffordd gulach i fyny'r llechwedd; troi heibio talcen capel Methodus a dilyn ffordd y chwarel garreg galch; yna, ar grib rhiw go serth, ac yng nghanol y wlad yr oedd Trem Arfon.

Meddyliodd fod angen ei dorri wrth roi'r grib yn ei hôl a sythu ychydig ar ei dei glas a gwyrdd.

Rhannodd y Kloteniaid eu cawl a'u tegell a mi a'm rhybuddio fod cymaint trwch anarferol o eira newydd ansefydlog ar grib uchaf Piz Lischana nes bod y ddau dad wedi gorfod troi yn eu holau y bore hwnnw cyn cyrraedd y copa: yn sicr nid oedd y mynydd mewn cyflwr priodol i alleinganger.

Yna daeth llef dyn o grib bryn cyfagos.

Gorweddai ei ben ar ei ysgwydd chwith, a gwaeddai ei dryblith o wallt claerwyn am grib.

Dyna i chwi lwybr ar ddannedd y graig sydd dros y Grib Goch, mae rhai yn rhedeg drosti, coeliwch neu beidio!

Wrth wylio un afalans llydan yn llithro ymaith yn union wrth draed dau ffigwr bach ym mhen arall y grib ac ofni'r gwaethaf am funud hir, daeth geiriau o 'Princess' Tennyson o'r newydd i'm cof: to walk With Death and Morning on the Silver Horns.

Tu hwnt i grib y mynydd - Mynydd Bach wrth gwrs - bu rhai o'm cyndadau'n ymrafael â bywyd, ac ni bu neb yn sôn amdanynt ar ôl iddynt ymadael â'r byd.

Rhythais ar grib ogledd-ddwyreiniol ddu, hirfain, ddidrugaredd Piz averstancla a chofio llinellau olaf y gerdd a ganodd Armon Planta o Sent, uwchlaw Scuol, ar ol ei dringo gydai fab: I lawr yn y cwm a chytgord yn anodd oni fyddwn ni'n troi at hyn mewn atgof (in algordanzas) Bardd, dringwr, hanesydd, radical, athro ac ymladdwr dros ei iaith oedd Armon Planta.

Os ewch chwi dros grib y mynydd yma i olwg Beddgelert mi ddowch o hyd i Ogof Owain Glyn Dþr, yn ôl traddodiad.

Adar fu'n gloddesta ar ffrwythau llwydlas yr eiddew ar grib y wal oeddent.

Edrychwch ychydig bach i'r chwith o Foel Hebog, wrth ichwi redeg eich golwg i lawr o'r Crib, cyn i Mynydd Y Tyddyn ddod i'r golwg a mi welwch, rhwng y ddau grib megis, Mynydd y Brithdir Mawr.

Estynnodd grib o'i boced a cheisio rhoi trefn ar ei wallt.

Er iddynt balfalu ymysg y brigau yn debycach i ditw nac i golomen, cwympo o'r grib i'r gwter oedd hanes sawl un, o flaen y cerbydau didostur ar y ffordd gyfagos.

Teimlaf serch hynny mai bod yn anniolchgar fyddai imi beidio â sôn am y bwyd a'n nerthodd i gerdded, rhagor na Syr John Hunt yn peidio â sôn am y boddhad a dderbyniodd goresgynwyr y grib dalfrig honno drwy fwyta eu hymborth.