Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

grisli

grisli

Ail lyfr yng nghyfres Byd o Beryglon gan Gary Paulsen ydi'r Arth Grisli ac mae'r stori wedi ei chyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg gan Esyllt Nest Roberts.

Fel mae'r teitl yn awgrymu, mae hon yn stori arswyd sydd yn sôn am arth grisli.

Mae Justin, bachgen 13 oed, wedi cael ei adael ar ei ben ei hun ar fferm ei ewythr Mac a phan fo'r arth grisli, sydd wedi lladd anifeiliaid ffermydd cyfagos, yn lladd anifail sydd yn annwyl iawn i Justin, mae o am ddial.

Ond, fel mae Justin yn darganfod, nid yw'r arth grisli yma yn arth arferol ac mae'n profi'n sialens iddo.

Yr Arth Grisli gan Gary Paulsen (addasiad Esyllt Nest Roberts). Gwasg Carreg Gwalch.