Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gro

gro

Darganfuwyd gwaddodion helaeth o olew, nwy a glo dan y môr; gellir cloddio mwynau gwerthfawr megis gro, tun, manganis, copr a hyd yn oed ddiamwntau o'r môr.

Am ddau hydref efallai cafodd gymar, a chyd-rychasant y gro i fwrw ei grifft.

Islaw'r dref ceir y pyllau hyn: Pwll Police Station, Pwll Gro, Pwll Wil Wmffra a Phwll Gorsbach.

Drwy'r ffenestr agored y noson honno, y peth olaf a glywai'r plant oedd sŵn yr afon yn llithro'n dawel dros y cerrig ar ei gwely gro yng ngwaelod y dyffryn, sŵn y tylluanod yn hwtian yn y coed ar ei glannau a chyfarthiad pell y llwynog coch o'i ffau ar lethr y mynydd.

Deffrowyd pawb yn y tŷ gan y sŵn a wnai Gwyll, a phan ddaeth y gweision yno gyda'u lampau gwelsant gorff Lowri Cadwaladr eu meistress yn gorwedd yn farw ar y gro o flaen y drws.

Tyfodd yma yn y dyfroedd croyw wedi i'w rieni ei gladdu yn un o filoedd o wyau yn y gro.

Eisteddodd disgynyddion William Davies, Fforest Uchaf, teuluoedd Nant y Gro, Culheol, Y Tyddyn Melyn, Maesgwilym, Tŷ Mawr a Phwllygod a Thŷ'r Gors a'r Waungrin a gwrando ar gatalog o weithredoedd eu tadau a'u teidiau, eu mamau a'u neiniau.

Fflachiodd ei ffaglen ar y gro nid nepell o'r stop lle'r eisteddai.

Bydd rhai bonciau creigiog, tir oedd yn wynebu'r haul a gro ambell afon yn hir iawn cyn adfer eu lliw gwyrddlas.

Nid oedd cymaint â hynny o enwau glowyr yno, nid oedd neb o deulu Nant y Gro, dim un o deulu'r Culheol ac Oakvilla a Thre'r Gât, ond roedd yna enwau dwbwl baril, enwau gyda Syr ac Arglwydd o'u blaen ac ni chollodd yr un o weision y Powell-Dyffryn, a'r Amalgamated Anthracite gyfle i fod yn aelod o'r Byrddau rheoli.