Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

groeg

groeg

Yng Ngrwp A bydd Manchester United yn herio Panathinaikos o Wlad Groeg yn Old Trafford.

Bu'r blasuron Groeg a Lladin yn sylfaen i addysg yng Nghymru, fel yng ngweddill Ewrob, o'r Oesoedd Canol hyd y ganrif ddiwethaf.

Y mae'r Athro Koutroubas hefyd yn fardd, yn cyhoeddi cyfrolau o gerddi mewn Lladin a Groeg.

Mae'r rhelyw o seicotherapwyr a seicdreiddwyr yn tueddu i droi at chwedloniaeth Groeg, ac at chwedlau Grimm, Aesop a hyd yn oed La Fontaine, er mwyn cael cyffelybiaethau i'w galluogi i geisio trafod a chyflwyno'r ffyrdd dyrys sydd gan bobl o ymwneud â hwy eu hunain ac â'i gilydd.

Daw'r enw protein o'r gair Groeg proteios.

Mae'r darnau hynny o'r Fwlgat a adawyd allan gan Feibl Mathew am nas ceid yn yr Hebraeg a'r Groeg wedi eu hadfer, ond mewn teip mân a'r tu fewn i gromfachau.

Adnabyddiaeth lwyr o ddramâu Groeg yn unig oedd gan Aristotlys pan ymdriniodd â nodweddion drama drasig Efo 'ychydig o Ladin a llai o Roeg' treisiodd Shakespeare hwy i gyd bron.

Yn gyntaf, y maen'n ymddangos i Forgan fanteisio hyd yr eithaf ar y cyfle a oedd ar gael yn y Coleg a'r Brifysgol i feistroli Hebraeg wrth draed tiwtoriaid dawnus fel y Ffrancwyr Antoine Chevallier a Philip Bignon a'r Sais John Knewstub (efallai mai'r Ffrancwyr a ddysgodd Ffrangeg iddo'n ogystal); yr oedd hyn, wrth gwrs, yn ychwanegol at yr addysg yr oedd yn ei derbyn neu wedi'i derbyn yn y celfyddydau a'r gwyddorau, athroniaeth, Groeg a diwinyddiaeth.

Peth cyffredin iawn yn Lloegr, hyd yn oed ymysg gwŷr llengar, fu adweithio yn erbyn addysg glasurol, a diystyru llenyddiaeth Ladin a Groeg fel rhwybeth sych a phendantaidd na allai byth fod yn berthnasol i fywyd cyfoes.

Gwrthododd llawer o'r dysgedigion mwyaf blaengar y syniad bod hanes yn amlygiad o gynllun mawreddog, a throesant yn ôl at yr olwg hiwmanistaidd ar hanes a oedd gan haneswyr Groeg a Rhufain.

Wrth i ni edrych ar waith y rhan fwyaf o feirdd Cymraeg trwy'r oesoedd, ni fyddwn yn gweld mwy nag ychydig iawn o olion i ddangos iddynt gael addysg glasurol, ac iddynt fod yn ymwybodol o'r traddodiad Groeg a Rhufeinig mewn llynyddiaeth a barddoniaeth.

Cyflwynwyd y noson thema, Noson Ewrop, gan Siân Lloyd a Karin Oswald a chafwyd portreadau ffilm am bobl o Gymru yn Ewrop, ymweliadau â'r Ffindir, Gwlad Groeg, Portiwgal ac Iwerddon gan Aled Samuel a deunydd archif.

Yn ein haros heno mae Gaelle Mechaly o Ffrainc, Panajotis Iconomou o Wlad Groeg, Ekaterina Semenchuk o Rwsia, Markus Bruck o'r Almaen a Natalie Christie o Awstralia.

Gellid cyfeirio, fel y clywais fy nghydathro Trefor Evans yn gwneud, at yr enwau Macabeaidd ymhlith y Deuddeg Disgybl - y mae mwy nag un Simon a mwy nag un Jwdas - ac ychwanegu fod enwau Groeg hefyd yn eu plith (sef Andreas a Philip).

Gwelodd fod yr epigram Groeg yn ymddangos yn debyg i'r englyn Cymraeg mewn sawl ffordd - o ran ei arddull, ei fyrder a'i addasrwydd at wahanol destunau a swyddogaethau llenyddol a chymdeithasol, a hyd yn oed o ran mesur.

Doedd goliau Nicky Barmby a Stephen Gerrard ddim digon i Lerpwl sicrhau buddugoliaeth oddi cartre yn erbyn Olympiakos yng Ngwlad Groeg neithiwr.

Mae pobol wedi codi tipyn o firi am ddiffyg gofal yr Amgueddfa Brydeinig o'r cerrig Elgin a gipiwyd o Wlad Groeg yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Mae ymgais llenyddol felly nid yn unig yn peri i'r Groegiaid ymddangos yn fwy fel bodau dynol ac yn nes at fyd a diwylliant y darllenydd o Gymro, ond hefyd yn rhoi tras uchel ac urddasol, fel petai, i un o ffurfiau llenyddiaeth Gymraeg, trwy ddangos ei bod, os nad yn tarddu yn uniongyrchol o'r ffurf gyffelyb mewn Groeg neu Ladin, o leiaf yn ddigon tebyg iddi i haeddu parch cyfartal.

Cafodd ddalen o Destament Groeg ar ffordd Pen y Foel, a phenderfynodd ddysgu yr iaith honno, a gwnaeth hynny i raddau lled berffaith.

Beth arall a ysbrydolodd T Gwynn Jones i gyfieithu nifer o epigramau Groeg, ac ychydig o'r Lladin, a'u casglu dan y teitl Blodau o Hen Ardd?

Sonia'r Beibl am Dduw yn dewis Asyria neu Fabilon i wneud ei waith, ac y mae'n ddigon naturiol credu, fel y gwna rhai, ei fod wedi dewis Groeg a Rhufain hefyd, gyda'u diwylliant cyfoethog, i dasg arbennig.

Fel'na mae hi ar Ynysoedd Groeg.

Roedd pawb wedi clywed am rywle arall yng nghefn gwlad Groeg a ddioddefodd ar draul rhyw fyddin neu'i gilydd rywdro yn ei hanes.

Cyrhaeddodd lai na deuddydd cyn imi ymadael am Wlad Groeg, ac yma yn Athen a Mati Zeugly y darllenais hi.

Er na allai warantu gwirionedd ei sylw nesaf, soniodd Rhys am wr ar dro yng ngwlad Groeg , ac yn darllen ar hysbysfwrdd yno: ....

Er mor wahanol eu moddau yw dramâu Groeg, Dante, Shakespeare, y Gododdin, y Mabinogi, Rhys Lewis, Dafydd ap Gwilym, Rilke, Dostoevsky, y rhyfeddod mawr yw y gellir dadlau eu bod i gyd yn arwyddocaol am yr un rhesymau, fod yn gyffredin iddynt i gyd yr elfennau a'r nodweddion sy'n cyffroi dyn yn deimladol ac ymenyddiol.

Tuedd y rhan fwyaf o lenorion Lloegr, hyd at yr Oes Ramantaidd, fu ystyried fod popeth Groeg a Rhufeinig yn rhwym o fod yn well na'r dulliau brodorol; ond yr oedd y Cymry, mewn cyferbyniad, yn dueddol o edrych ar farddoniaeth Gymraeg fel traddodiad clasurol arall, a oedd yn llawn mor hynafol yn ei wreiddiau, yn llawn mor gaeth a ffurfiol, an yn llawn mor deilwng o barch ac astudiaeth â'r traddodiad Groeg a Rhufeinig.

'Naddo', ebe yntau, 'roeddynt yn mynd yn uchel', gan dywallt cynnwys y sach ar yr aelwyd - hen lyfrau Groeg, Lladin, Hebraeg, etc.

O'r Groeg krystallos, sy'n golygu iasoer, y daw'r gair crisial.

Y mae'r awydd hwn i chwilio am bwyntiau o debygrwydd rhwng Groeg a Chymru yn ymestyn i mewn i'r maes llenyddol.

Hefyd o Ewrop, cynrychiolir Ffrainc, Yr Almaen, Gwlad Groeg.

Tua diwedd y ganrif gyntaf bwriwyd gwr i garchar ar ynys fechan ym Môr Aegea rhwng gwledydd Groeg a Thwrci.

Gwelir rhyw gymaint o ddylanwad Lladin a Groeg yng ngwaith rhai o awduron rhyddiaith y Dadeni Dysg: meddylier, er enghraifft, am ragymadrodd Gruffudd Robert i'w Ramadeg Cymraeg, lle y mae'r awdur yn amlwg yn efelychu dulliau Plato a Cicero o ysgrifennu deialog.

Mae'n mynd ymlaen i gymharu'r Chwaraeon Olympaidd â'r Eisteddfod Genedlaethol, a chaiff y bardd Groeg Pindar ei osod ochr yn ochr â'r beirdd sydd yn cymryd rhan yn y Brifwyl Gymreig.