Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

groegwyr

groegwyr

Ofn yr anwybod, ofn y duwiau - yr hyn a alwai'r Groegwyr gynt deisidaimonia; yr hen ofn hwnnw a fu'n llechu yn y galon ddynol erioed ac a fydd eto, bid siwr: ofn newyn, tlodi a dioddefaint; ofn poen, afiechyd a marwolaeth.

Dathliad pwysig arall yw Dydd Oxi (sy'n golygu Na) ar Hydref 28 i gofio'r dydd y penderfynodd y Prif Weinidog ddweud Na a gwrthod mynediad i'r Eidalwyr i'r wlad yn 1940 - y weithred a sicrhaodd fod y Groegwyr yn ymuno â'r Ail Ryfel Byd.

Er yn Roegwr o'r Groegwyr ei hunan, y mae'n mynegi yn ei gerddi ddyhead dwfn am weld heddwch rhwng gwlad a gwlad a brawdgarwch rhwng dyn a dyn.