Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

grombil

grombil

Yr oedd yn debyg i amffitheatre enfawr, y gwaliau'n disgyn yn serth i grombil y mynydd, a'r llawr yn bentwr o gerrig, rhai ohonynt yn dwyn staen goch a melyn lle'r oedd nwyon cuddiedig Vesuvius wedi bod yn ffrwydro'n ddiweddar.

siopwr Gemp!' meddai, yn rhyddhau Morys y Gwynt o anadliad o'i grombil.

Finna'r adeg honno'n ddigon gwirion i goelio dy lol di, Morys, ac yn ddigon diniwed i gredu fod dagrau'r hen Ifan 'na'n dwad o grombil ei fol.

Toddai'r rheffyn pobl o'i flaen yn gyson fel y deuai car ar ol car i'w sugno i mewn i'w grombil.

Wedi dod yn rhydd o'r breichiau cryfion cafodd JR ei lusgo i'r gadair freichiau ger y tân a rhoddodd Laura Elin orchymyn siarp i'w mab Hywal, a eisteddai ar y stôl drithroed, yn pigo'i drwyn, i symud 'i hen betha oddi ar y bwrdd i'r gŵr bonheddig gal tamad yn 'i grombil.

Yn graddol glywed adlais o grombil ein gilydd yn mynd yn un gân gorfoleddus...Roedd hi'n crynu wrth feddwl am y peth rŵan...

Profiad ingol ar drothwy'r 'Dolig oedd mynd heibio a gweld dim ond pedair wal yn sefyll a pheirianna'n turio hyd yn oed i sylfeini un o'r rheini tra llosgai'r gweithwyr rai o blancia'r to yn ei grombil gwag, y gwreichion yn tasgu o'r fflama' a'u cochni yn cael ei adlewyrchu yn gysgodion grotesg ar blastar y muria' i oleuo mwrllwch bore oer o Ragfyr.