Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gronyn

gronyn

Dod i adnabod person arall pan oedd yr adnabod mor bwysig; ymhyfrydu ymhob darganfyddiad bach a ychwanegai'r gronyn lleia o ddiffiniad ar ddirgelwch annelwig cymeriad.

Gwêl lygoden yn dod ato ê gronyn o wenith a dyma hi'n mynd a dod seithwaith.

Dyma'r pedwerydd tro ar bymtheg i Gymdeithas y Gronyn Gwenith, Caernarfon gyflwyno pasiant.

Mi fentra i ddeud wrthat ti na chaiff 'nacw 'r un gronyn o gysur yn y nefoedd os na fydd yno vacuum-cleaner a dystar at 'i llaw hi.

Eto, fe fu'n ddigon dwl i sibrwd gronyn am y 'ffortiwn' yna wrth Dai Owen.

I ddathlu hanner canmlwyddiant cyhoeddi un o'r nofelau difyrraf i ymddangos yn Gymraeg ym marn llawer, y penderfynais addasu O Law i Law ar gyfer cynhyrchiad Cymdeithas y Gronyn Gwenith eleni.