Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

grwydro

grwydro

Y bore wedyn roedd Merêd yn awyddus i fynd i grwydro naill ai ar hyd yr arfordir i gyfeiriad An Spideal neu i fyny'r dyffryn i gyrion Loch Coirib er mwyn cael mwynhau'r golygfeydd a'r tawelwch digymar; ond mynnodd Dilys gysgu ymlaen ar ôl cyfeddach y noson cynt.

Yn gymdeithasol hefyd roedd pawb wedi mwynhau, ac er bod amser yn rhy brin i grwydro ymhell roedd hi'n braf cael gweld ychydig ar sir Benfro.

Pa neges oedd yn eu hysgogi i grwydro tros leoedd anhygyrch ym mhob tywydd i ledu'r newyddion da?

Roedd e'n hanner gwenu wrth weud hyn, achos ma' defed un o ffermwyr yr ardal yn hoff o grwydro ar gomin yr hen fyd ma, ac un tro fe aeth hwrdd i mewn i'r eglwys, gan fod rhywun wedi "anghofio% cau'r drws.

Ymadawai felly, am fis efallai, gan grwydro ar hyd a lled amryw ffermydd eraill cyn dychwelyd drachefn ato ef ac ail- ddechrau'r ffieidd-dra.

Wrth i Iolo grwydro y tu allan i'r llys, mae'n sylwi ar y berllan, y winllan a'r parciau ar gyfer ceirw a chwningod.

Ar ôl dangos carden busnes a dim arall, fe gafodd grwydro oddi yno ar ei ben ei hun.

awgrymwyd a ffwrdd a ni i grwydro rhwng y silffoedd a mwynhau sgwrs, coffi a myffin.

'Mae'r ficer wedi trefnu seremoni bwrw ysbrydion ymaith ar ôl y plygain yfory.' 'Os digwyddith hynny,' meddai Dafydd yn iasol, 'alltudion fyddwn ni, wedi'n condemnio i grwydro drwy'r holl fydysawd eang.

Fe/ ddaeth haul y gwanwyn â gwên i bob un o gefnogwyr brwd y Strade a holl aelode'r tîm fel ei gilydd, yn arbennig felly o gofio i bedwarawd o Glwb Llanelli grwydro oddi ar y llwybr cul, ac ymuno â Chlwb Caerdydd yn ystod diwedd y chwedege--Robert Morgan, D.

Am chwarter i chwech yn y bore cawsom orchymyn i godi, a dywedwyd wrthym y caem awr i grwydro'r dref.

Diwrnod diddorol iawn, poeth iawn, serch hynny, a chyfle i grwydro o gwmpas man strydoedd Agra ddiwedd y prynhawn, a'r tebygrwydd a rhai mannau yn y Caribi yn brigo eto, ond fod mwy o bobl hyd yn oed, llai o lawer o geir, a phob math o drafnidiaeth arall unwaith eto - beics, rickshaws, motor-beics, bysiau, ychydig iawn iawn o geir.

Tyfiant o'r Academi Bresbyteraidd oedd yr Academi Annibynnol ond gwelodd gryn dipyn o grwydro yn ystod y blynyddoedd.

Ond doedd dim rhaid iddi ddangos dim i brofi pwy oedd hi ac fe gafodd grwydro oddi yno ar ei phen ei hun.

Mae'n syndod faint y gall ambell un ei gyflawni heb grwydro byth o'i ardal ei hun.

Wrth sgrifennu nofel, mae amser i newid cywair a chyfeiriad, i grwydro ar hyd ambell lwybr cymharol ddiamcan oddi ar briffordd y stori, i hamddena a gwagswmera.

Am iddo grwydro cymaint i bregethu, a phregethu weithiau bedair-a phum gwaith y dydd, y rhwygwyd y wedd ar Harris onid oedd yn welw a rhychlyd ei wyneb yn ddeg ar hugain oed.

Mae rhai sy'n byw'n ryff yn derbyn y rôl honno ac yn ei chael yn anodd dod yn ôl i unrhyw fath o drefn, ac yn dewis rhyw grwydro ar fywyd.

Oswald Williams) gyfle iddo broffwydo y gallai'r astudiaeth 'godi to o feddylwyr yn ein plith a'n dwyn yn ôl o grwydro dibwrpas ein cyfnod'.

Cofia hwiangerddi'r fam 'Ymhabell wen fy mebyd' a gwres 'Aelwyd fach anwyliaid fu/ At un tân, gynt yn tynnu!' Dychwelyd o'i grwydro a chael yr hen le yn furddun ger y môr a' i gyrrodd, o'r diwedd, i'r wlad bell lle ailgyfannir yr aelwyd gynt gan atgofion a dychmygion.

Dechreuodd Jac grwydro a hel merched a bu Sab drwy gyfnod anhapus iawn yn ei bywyd.

Wrth grwydro'r wlad yn beirniadu gwyliau drama rwy'n gweld rhai gwendidau eglur yn y drefn bresennol.