Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

grymoedd

grymoedd

Ar ryw ystyr mae'r lluniau'n ein hatgoffa mai môr a mynydd a daear a grymoedd natur yw'r unig bethau cyson yn hyn o fyd.

Fodd bynnag, a chymryd bod y glud sy'n eu dal wrth ei gilydd yn hyblyg i ryw raddau, yna fe allai blygu tipyn dan ddylanwad grymoedd allanol.

Fe ddadleuwyd fod Senedd yr Alban yn haeddu grymoedd deddfwriaethol gan fod y wlad honno a'i chyfundrefn gyfreithiol ei hun.

Yn y ddeddfwriaeth hon rhoddir grymoedd newydd i lywodraethwyr ysgolion a chyfundrefn o ddatganoli cyllid, sef Rheoli Ysgolion yn Lleol (RHYLL), sydd yn symud y penderfyniadau cyllido oddi wrth yr awdurdodau addysg lleol i ysgolion unigol.

Cydfodolai'r ymchwil am wreiddiau dysg yn y traddodiad clasurol a grymoedd eraill: yr awydd am weld dysg debyg yn blodeuo yn eu hieithoedd eu hunain, a'r awydd hefyd am ledaenu dysg i'r cyffredin.

Tynnir pictiwr o gymuned a sbaddwyd, un ar drugaredd grymoedd dinistriol y farchnad rydd.

Trwy alw ei bobl ei hun at ei chenhadaeth arbennig ymhlith y bobloedd ceisiai ollwng yn achubol rydd ar yr holl ddaear nerthoedd y Deyrnas, y grymoedd yr oedd ef ei hun yn gyforiog ohonynt.

Yn y ddau waith, yr hyn y ceisir ei ennyn ynom yw'r argyhoeddiad fod y cylch canolog o gymeriadau'n 'iawn', mai ynddynt hwy y costrelwyd prif egwyddorion y traddodiad, a'u bod yn benderfynol o herio gydag angerdd cyfiawn y grymoedd hynny sydd ar fin rhuthro fel cenfaint o foch a sathru'r egwyddorion santaidd.

Mae'r ddeddfwriaeth yma'n datganoli grymoedd pellach i ysgolion a'u llywodraethwyr ac yn hwyluso ac annog ysgolion i ymeithrio oddi wrth y gyfundrefn addysg leol, gwelir eisoes effaith ar cydlynu a darparu gwasanaethau i blant ag anghenion arbennig.

Pryddest sy'n cyfateb yn thematig i awdl y Gadair, gyda'r orsaf rocedi yn Aber-porth yn symbol o allu dinistriol dyn, a'r 'hil' yn y bryddest, gwerin milltir sgwâr y bardd, yn cynrychioli grymoedd cynhaliol a chreadigol dyn ar hyd yr oesoedd ‚ dyn fel dinistriwr a dyn fel goroeswr a dyfeisiwr.

Mae ei grymoedd yn ehangach na phwerau ein Cynulliad ni, ac mae eu deddf iaith bresennol, sy'n dyddio o 1982, yn gryfach na Deddf yr Iaith Gymraeg 1993.

Dywedodd Marx nad grymoedd y tu allan i ddynoliaeth oedd yn penderfynu ei thynged, ond yn hytrach yr oedd y benderfyniaeth honno wedi ei gwreiddio yng ngweithredoedd cymdeithasol pobl.