Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gryndod

gryndod

Mi yfodd ormod o ddŵr pan aeth hi allan am funud ddoe, ac mi ddaeth i mewn a'i blewyn hi yn syth gin gryndod.

Ymlaciodd Morfudd rhyw fymryn a theimlodd gryndod yn tindroi drosti.

Bu cudyll o hofrennydd uwch ein pennau drwy'r prynhawn a'i chysgod swnllyd, symudol, yn dychryn wyn y ffridd i bob cyfeiriad cyn glanio i lyncu criw o actorion a throi porfa'r ddôl yn gryndod o nerfau.

'Gwthiodd Iestyn ei ddwylo yn ddwfn i boced ei gôt ac aeth ias fach o gryndod trwyddo.