Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gul

gul

Rhyw gul-de-sac oedd Troed y rhiw a rhaid oedd troi'n ol at y Red Cow, a chofiais mai hon oedd y dafarn a fynychid gan brodyr fy mam a lle y dysgodd ei brawd John sut i ddawnsio, camp yr ymffrostiai ynddi drwy ei oes.

Ond gwelir y pwyslais o hyd ac o hyd ar y ddadl fonetaraidd gul o 'Proffit, Proffit a mwy o Broffit.' Nid oes angen dweud nad yw'r cyfryngau hyn yn gweld gwastraff gwariant ar y lluoedd arfog.

Roedd gan yr hen Lloyd y ddawn ddiamheuol o hoelio sylw'i gynulleidfa gyda dywediadau a delweddau cofiadwy, megis "Mae'r diafol fel y clacwydd, pan fyddwch chi'n meddwl eich bod chi wedi ei goncro, mae e'n troi 'nol ac yn eich brathu chi." Ar un achlysur fe gyhuddodd ei braidd o fod "mor gul a whilen racer".

Bydd amrediad y gweithgareddau'n gul a detholiad cyfyngedig yn unig o destunau hawdd a gaiff y disgyblion.

Gobeithiai Jabas yn fawr na fyddai'n gwneud camgymeriad gan y byddai un gwyriad o'r sianel gul yn golygu rhwygo ochr y cwch yn grybibion.

Gwelais dair ffilm Gymraeg (un yn Gymraeg, Isalmaeneg a Saesneg, ac un yn Gymraeg, Rwseg a Saesneg - ac maen nhw'n dweud ein bod ni'n gul a phlwyofl), ffilm hir yn iaith Gaeleg yr Alban a ffilm Ddaneg.

A'i lais yn fflat a diemosiwn, canolbwyntiai ar geisio cadw'r car rhag gwyro oddi ar ffordd gul, droellog ar hyd yr arfordir a disgyn dros y clogwyn serth i'r môr.

Yn drystiog, trodd y fyddin i lawr y ffordd gul gyda pherthi uchel yn tyfu ar ben y cloddiau bob ochr iddi.

O'm blaen yn awr, Llwybr Afon Vallember tua'r dyffryn cul, mor gul nes bod hogiau'r hafod wedi medru hongian baner ddu hir hanner y ffordd rhwng ei ddau fur, tua mil o droedfeddi uwchben yr afon.

Cyfareddir dyn wrth wylio'r cerbydau coch neu wyrdd tywyll yn mynd i mewn ac allan o'r twneli, gan esgyn neu ddisgyn o lefel i lefel, ac o bont i bont, uwchben hafn gul Afon Alvra.

Roedd e'n sefyll ar silff gul o graig.

Darfu grwndi Martha Arabela; lledodd ei llygaid o fod yn ddwy hollt gul i fod yn soseri anferth.

Yr agwedd gonfensiynol at Oes Victoria yw ei bod yn oes hynod gul a fynnai anwybyddu'r profiad rhywiol mewn llenyddiaeth ac esgus nad oedd yn bod ym mywyd y dosbarth canol parchus.

Gallai hefyd fod yn ddigon beirniadol o ddiffygion awduron yr oedd eu clasuriaeth yn rhy gul, fel Goronwy Owen:

Un hwyr, pan oeddwn yn dychwelyd i'm cartref o Lyn Rhosyn, rhedodd y ferch allan 'o lôn gefn gul' yn syth o'm blaen.

Roedd yn rhaid cael offer gefail a gwyddent fod un yn weddol agos - dim ond ychydig ffordd i lawr yr heol fach gul a welent o'u blaenau.

Roedd y fen yn troi o'r ffordd gul a arweiniau heibio i'r hen eglwys a dyma galon Siân yn llamu wrth iddo weld car y polîs yn mynd heibio iddynt.

Ymddangosai'r hen safonau chwaeth yn gul a hen ffasiwn wedi hynny.

Mae yn edrych yn gul ar y copa, ond mae yno lecyn hollol wastad ar y pen; yn wir mi allasech wneud cae pêl- droed yno ond ichwi glirio ychydig o gerrig.

A'r gwely 'na'n gul a chaled...

Mae'n amlwg mai ceffyl a throl a ddefnyddid gan fod yr adwyon yn rhy gul o lawer i'n peiriannau modern.

Er i reilffordd, - boed honno'n llinell gul neu n llinell letach, - ddod i gludo cynnyrch y chwareli yn y man a dim galw mwy am y ceffyl ynglŷn â hynny o waith, roedd yna lawer o geffylau yn gweithio tu fewn i'r chwareli, yn llusgo wagenni a sledi - yn llwythog neu fel arall - ar y ffyrdd haearn a oedd yn gwau ac yn cyrraedd i bob twll a chongl mewn chwarel.

Cyn hir, gwelodd ei fod yn dynesu at y fynedfa - yr hollt gul yn y graig.

Pan ddeffrodd Jean Marcel y bore canlynol ac edrych allan drwy ffenestr gul ei stafell, gwelodd fyd distaw, gwyn a'r eira mân yn dal i syrthio.

Troes y car i lawr y ffordd drol gul tuag at y bwthyn.

Ar ôl mynd heibio i Lanafan Fawr mae'n werth oedi peth a throi i'r chwith ar hyd y ffordd gul wledig i ben uchaf Cwm Chwefri.