Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwae

gwae

Y mae miloedd yno yn ddigartref au gwlad yn fôr o ofid a gwae.

Gwae fi o'm geni!

Gan sefyll o hirbell gan ofn ei gofid hi, a dywedyd, `Gwae, gwae, y ddinas fawr honno, Caethwasiaeth, y ddinas gadarn, oblegid mewn un awr y daeth dy farn di.' [ac ymlaen, ac ymlaen, ac ymlaen]

Gwae'r gymdeithas a ddirmygo ddyn.

i gefnfor gwae'.

Yn ddiweddarach fe drows Owa John yn llwyrymwrthodwr ac ymgolli mewn llenwi football pools, a gwae'r neb a fyddai'n siarad pan fyddai'r radio yn cyhoeddi canlyniadau'r meysydd pel-droed.

Ambell dro, digwyddai fod rhywun o wyr cyhoeddus y Rhos heb siarad mor barchus am yr Herald ag y teilyngai, ym marn y golygydd, a gwae y creadur hwnnw, yr oedd llach y golygydd arno.

Gwae a edid, o gudab, I boeni mwy heb un mab!

Cyhoeddai Cradoc fod gorthrymu'r tlodion yn un o'r pethau oedd yn cyffroi llid Duw yn union fel yr oedd Morgan Llwyd yn cyhoeddi barn ar eu gorthrymwyr, "Gwae chwi yr vchelwyr drwg ei siamplau, yn llusco y tlodion ar eich ôl i ddestryw.

Dduw: Gwae fugeiliaid Israel y rhai sydd yn eu porthi eu hunain; oni phortha y bugeiliaid y praidd?

Datododd y sgrôl o'm blaen, ac yr oedd ysgrifen ar ei hwyneb a'i chefn; yn ysgrifenedig arni yr oedd galarnadau, cwynfan a gwae.

"Perffeithrwydd yw nod yr eilradd" "Rhyw y Sais, drais a lladrad." "Mae awgrym yn creu; mae gosodiad yn lladd." "Y lleiafrif sydd wastad yn iawn." "Bydd yn ymarferol - mynna'r amhosibl." ac un arall, sy'n addas iawn siŵr o fod: "Gwae chwi pan ddywedo dyn yn dda amdanoch."

Mae digwyddiad ar ôl digwyddiad - ar hyn a ddaeth i'r fei yn dilyn trychineb yr wythnos diwethaf - yn profi nad mynd o flaen gofidiau yr oedd y rhai hynny a fun darogan gwae ynglyn â phreifateiddio.

Mor wahannol fu'r gaeaf eleni i syniadau Mr J Rhys Davies, Pontyberem am aeaf traddodiadol - Oriau maith yr oriau mân - y gwydr goed Yn y gwynt yn gwegian Briw a gwae sy lle bu'r gân Ac angau lle bu'r gyngan.

Rhoes gyfeiriad newydd i'r ymgyrch genedlaethol a gwae ni os barnwn y gellir cau'r adwy ar y cyfeiriad hwnnw yn y cyfnod cyfansoddiadol-gysurus hwn o Ddeddf Iaith newydd a Senedd i Gymru bosibl.

Yr oedd yn ymladdwr wrth reddf er na fu gwrolach heddychwr erioed; câi fwynhad wrth ganmol daioni dynion, eithr gwae y rheiny a fanteisiai ar y gwan ac a ormesai'r lleiafrifoedd.

Gwae'i dad o'i eni!

Ond gwae y ffermwyr hynny, oblegid bargen sâl a gawsant.