Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwaedu

gwaedu

Mae'r Rhyfel yn gwaedu yn y cof o hyd, a chenhedlaeth yn cofio cenhedlaeth.

"Canu carolau wir, a Ffrainc yn gwaedu." Wrth i'r ddau gerdded hyd strydoedd cefn culion yr hen dref, roedd haen denau o eira yn sefyll dros y cerrig crynion ar ganol y ffordd ac yn prysur orchuddio toeau'r tai.

Ysgrifennais adroddiad maith gan lunio stori am hen wraig oedrannus a oedd eisiau bod ym Mhwllheli yn fuan i ddal rhyw drên neilltuol a dweud fel 'roedd fy nghalon yn gwaedu trosti - hyn ynghyd ag esgusodion eraill.

Un ffordd o wella llosg eira yw i chwipio'r traed â chelyn nes eu bod yn gwaedu.

Mae'n hanfodol eich bod yn gwiso'r @ menyg rwber a ddarparwyd cyn ceisio trin unrhyw un sy'n gwaedu a'u taflu wedyn.

Mewn rhai ardaloedd roedd ceffyl yn cael eu gwaedu, ond mewn rhai eraill arferai llanciau ifanc redeg ar ôl morynion neu ferched eraill o'r un dosbarth gan chwipio eu breichiau â chelyn nes eu bod yn gwaedu!

Mae'n rhaid i staff fod yn ymwybodol o'r posibilrwydd o ddal HIV a Hepatitis mewn achosion lle mae'r dioddefwr yn gwaedu.