Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwael

gwael

Cracyr o nofel yw Noson yr Heliwr er bod angen rhybuddio nad yw'n llyfr i'w ddarllen os oes gynnych chi nerfau gwael neu galon wan.

Symons oedd y mwyaf chwyrn ei gondemniad ar y meistri haearn, gan roi disgrifiadau crafog o amodau gwael a ddaeth o orlenwi'r ardaloedd hynny â phobl, a'r diffyg cyfleusterau byw i'r gweithwyr yn sgil hynny:

Er bod cyfran fechan o'r troseddwyr a alltudiwyd i Awstralia yn ddihirod arswydus, rhaid cyfaddef fod y mwyafrif ohonynt wedi eu cymell i droseddu gan gyflogau isel, gan ddeddfau gorthrymus, safonau byw gwael, diweithdra achlysurol a diffyg addysg.

Etholiad gwael i'r Rhyddfrydwyr: o'r 475 o ymgeiswyr etholwyd 9 yn unig a 5 o'r rhain yng Nghymru.

Meddyliai am ei dad wedyn, wedi cael telerau gosod, rhai gwael yn aml, na wyddai yn y byd a gâi efe dâl am ei lafur ar ddiwedd mis.

'Roedd y ffermwr bellach yn gorfod wynebu toriadau, prisiau gwael, mynydd o ffurflenni, gwaharddiadau, a heintiau a grewyd drwy i ddyn ymyrryd â natur.

Mae'r amaethwr gwael yn dal i feddwl pa gae i'w ddefnyddio heb son am gael y taclau i weithio.

Cwynir yn fawr yn y Llyfrau Gleision am ansawdd gwael yr athrawon.

Ar yr union eiliad honno pwy ddaeth heibio iddynt ond un o r stiwardiaid a gofyn i'r dyn: "Be sy'n bod ar y ceffyl 'ma gin ti?" A'r llall yn ei ateb ar drawiad megis: "Newydd gal golwg ar 'y mhapur setlo i mae o!" Cyflog digon gwael a gai y rhai a fyddai'n canlyn ceffyl yn aml, a'r papur setlo' oedd yn dangos maint hwnnw ar ddiwedd pob mis o weithio.

Cafodd Morgannwg gychwyn gwael - Keith Newell allan cyn pen fawr o dro.

Glaw ar Galan Mai yn proffwydo cynhaeaf gwael.

Anaml y bydd disgyblion yn ysgrifennu; gall eu gwaith fod yn gyfyngedig ei amrediad, heb ei drefnu'n dda, yn anghyflawn, yn anniben neu'n fle/ r yn sgîl sillafu gwael a gwallau gramadeg; ychydig a wyddant am ddiben neu gynulleidfa a chyfyngedig yw eu gallu i wella ar eu hymdrechion cyntaf.

Yn sicr, yr oedd natur wedi ei dorri allan i ddal swydd athro mewn rhyw brifysgol, ac nid i ddal yr aradr; ffigiwr gwael a dorrodd hefo'r gwaith hwnnw.

Problemau teithio Y dadleuon sy'n cael eu gwyntyllu amlaf yw'r gost uwch o deithio i'r de neu'r gogledd, safon gwael y ffyrdd yma yng Nghymru (hyn yn ei dro yn gorfodi aros dros nos); hefyd safon isel y pêl-droed a ragwelir yn y cynghrair newydd.

Fel arfer, mae'r anifeiliaid hyn yn rhai caled a chadarn sydd yn medru ffynnu ar diroedd gwael a mynyddig y wlad.

Medrent chwerthin pan fâi dduaf arnynt, a gwneud sbort am ben cyflog gwael.

Braf iawn hefyd, gyda llaw, o%edd gwe%ld Ray Clemence, golwr Lloegr, yn ildio pedair gôl a dangos i bawb fod pob golwr yn gallu diodde pnawnie gwael!

Er iddo wadu'r cydraddoldeb sydd yn ymhlyg yn nysgeidiaeth Crist cam dybryd a gafodd y meddyliwr gonest hwn pan drodd y Natsiaid ei gred yn yr Uwchddyn i'w melin afiach eu hunain: yn y bon, ei orchfygu ei hun yw camp Uwchddyn Nietzsche a byw'n beryglus yn y meddwl, gan gefnu ar deganau gwael y dorf.

Fe welwyd eisioes fod Cymru ar y cyfan yn wlad fynyddig, gwlyb a chyda priddoedd gwael.

Tyddyn pymtheg erw o dir gwael mynyddig oedd y Ffridd Ucha, tyddyn rhy fach i gynnal teulu, hyd yn oed yn nechrau'r ganrif.

O ludw'r hen aelwydydd - tywynodd Tanau dros y gwledydd, O bennau'r bryniau beunydd - rhoi cyfrin Oleu fu gwerin y gwael fagwyrydd.

Un gwael fues i erioed am gadw ty.

Efallai mai'r trydydd pwynt sy'n denu sylw fu llwyddiant y farchnad gwartheg stor, a hyn unwaith yn rhagor er gwaethaf prisiau gwael cig eidion.

Dadlennai astudiaeth o hanes liaws o enghreifftiau o'r bywyd da ac hefyd o'r bywyd gwael a diffrwyth.

Ond dywedodd rhywun arall wrthyf waeth faint o sylw a roir i natur a'i arwyddion, y gwahaniaeth rhwng ffermwr da a ffermwr gwael yw ychydig ddyddiau.

Yn dilyn ymweliad personol ag ardal Rhosllannerchrugog, daeth Vaughan Johnson i'r casgliad bod cysylltiad rhwng amgylchiadau byw gwael a chyfathrach rywiol y tu allan i briodas.