Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwaeth

gwaeth

Er gwaeth!

O'r funud honno, fe newidiodd bywyd Philam er gwaeth.

Fe fydd yna andros o lanast, ond dyna ddiwedd y Coraniaid hefyd, a fyddi di a dy bobl ddim gwaeth." "Wyt ti'n siŵr?" "Yn berffaith siŵr.

Disgrifiodd ei hun fel 'meddwyn gwaeth nag erioed' erbyn hyn--câi ei gyflog gan y porthmon wedi cyrraedd pen y daith, a byddai'n meddwi, yn cadw cwmni drwg a bron bob tro byddai'n deffro a chanfod bod ei bres wedi'u dwyn.

Ond erbyn heno, newidiasai Enoc lawer o bethau, er gwaeth.

Mae'n siŵr mai'r gwaethaf iddi hi - gwaeth hyd yn oed na cholli ei harian - oedd y gwaradwydd fod pawb yn gwybod iddi gael ei gwneud.

Adeiladwyd y Stiwt mewn cyfnod di-am iawn, amser o ddiweithdra a thlodi, gwaeth o lawer na heddiw.

Does dim byd gwaeth na chariad sy wedi troi'n gasineb, ac fe wyddost ti gymaint roedd hi'n ein casau ni'n dau erbyn y diwedd.

Ond, arhoswch roedd gwaeth i ddod!

Ond wedi dweud hynny, cofiwch fod da a drwg ym mhawb a'u bod yn gyflyrau goddrychol iawn ac nad da lle gellir gwell ac nad drwg lle gellir gwaeth.

'Gwaeth na hynny, fe gafodd y ddau eu lladd gan Nofa.' Wrth glywed y geiriau, teimlodd Andrews ei ben yn troi.

A gwaeth na hynny yng ngolwg y llywodraeth oedd fod swyddogion y dref yn cymryd rhan yn y trafodaethau ac yr oedd y Frenhines yn bendant iawn na ddylid annog lleygwyr i fusnesu mewn materion eglwysig.

Saesneg, er gwaeth neu er gwell, ydi'm mamiaith i.

Yna, yn rhyfedd iawn, aeth y tafodau'n dawedog, a theimlodd pawb rhyw gywilydd o fod wedi chwerthin am ben un na wnâi ddim byd gwaeth na chadw iddi hi ei hun.

Wel, y mae hyn oll yn ddigon gwir ac yn ddigon trist, ond pan ddown at yr Eingl-Gymry, fel y'u gelwir, er mwyn hwylustod yn unig, cofiwch, y mae'r sefyllfa ganwaith gwaeth.

Yn aml roedd ffermwyr yn defnyddio ffon o'r fath a chredid na fyddai yr un anifail fymryn gwaeth o gael ei daro ganddi.

Roedd rhai pethau wedi newid, a hynny er gwaeth, er enghraifft, meddwdod a chyflwr tai, a chyfleusterau carthffosiaeth fel yr amlygwyd hwy yn ail adroddiad Dirprwywyr iechyd trefi gan Syr Henry De la Beche.

Gwaeth mewn llawer ffordd yw'r dirywiad ysbrydol.

Ond mae gwaeth i ddod, pan yw'r offeiriad lleol yn cyfaddef mai ef yw'r tad!

Doedd o fawr gwaeth, ond welodd neb yn Cranwell un yn cyrraedd yn llaid o'i ben i'w draed o'r blaen!

"Mae'n debyg ei fod yn rhyddhad ichi wybod nad oedd gen i ddim byd gwaeth mewn golwg," meddai'n ddirmygus.

'Dim byd gwaeth na welintons am godwm, nagoes.' ychwanegodd yn athronyddol wedyn.

Gwaeth fyth; yn aml iawn, mae perfformiad da ar ei ben ei hun yn ddigon i lawer o bobol.

Rydw i wedi derbyn dau yr un pryd, gwaetha'r modd.' Wrth sylwi ar ei hwyneb ychwanegodd yn gyflym, 'Dim byd gwaeth na mater bach o yrru'n ddiofal.

Carwn gredu hynny, ond rwy'n ei amau, oherwydd gall y nawddogaeth, a'r gwobrwyon lawer sydd at wasanaeth ei Gweinidogion arwain at ddibyniaeth, os nad gwaeth ar ran ein gwŷr a gwragedd cyhoeddus.

Y mae gwaeth na hynny i'w ddweud hefyd.

Fe laddodd Gwaeth foed dri-ar-ddeg o fleiddiaid hefyd ac mae'n siwr fod yna enw lle yn y cyffiniau yn coffa/ u'r orchest honno ar un adeg ond fe ddiflannodd pob cof amdano ysywaeth.

Y nodweddion olaf hyn sy wedi arwain rhai pobl i'w gyhuddo o anghysondeb, a gwaeth na hynny, anwadalrwydd a gwamalrwydd.

A gwelsant rywbeth gwaeth hefyd.

Ond, er gwell neu er gwaeth, ychydig iawn o dosturi a geir ym myd natur ac fe ŵyr y fam hynny gystal â neb; ymhen ychydig ddyddiau bydd yn chwalu'r tylwyth gan gario'r lefrod bychain i walau eraill yma ac acw, fel y bydd cath yn cario'i hepil yn ei cheg.

Fel yr âi newidiadau cymdeithasol yn eu blaen mor gyflym nes peri anhrefn cymdeithasol gwaeth na dim byd a gafwyd, yr oedd rhaid i'r Fictoriaid wybod beth oedd yn mynd ymlaen.

Cwta flwyddyn sy' ers pan ma' nhad druan wedi'n gadal ni a thydy i slipars o ddim blewyn gwaeth na newydd." Wedi cael un esgid yn rhydd rhwbiodd ei droed yn ysgafn â'i llaw.

Doedd o ddim blotyn gwaeth.

Gwelodd sawl newid yn ystod y cyfnod hwnnw: "Y rhan fwya' er gwaeth mae gen i ofn.