Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwaetha

gwaetha

Ond, gwaetha'r modd, tenau dros ben yw'r wybodaeth amdano yn ystod y blynyddoedd hyn.

Gwaetha'r modd mae anafiadau wedi tarfu ar eu trefniadau nhw, hefyd.

Nid oherwydd un dim, ond er gwaetha pob peth.

Abertawe, yn isa ond un yn yr Ail Adran, sydd a'r problemau gwaetha.

Gwaetha'r modd, ni roddid ystyriaeth ofalus i fesurau diogelwch ar y llongau, ac roeddent yn cael eu gorlwytho'n ddychrynllyd yn aml.

Roedd Katherine Harris, Ysgrifennydd Gwladol Florida, yn cefnogi cais Mr Bush ac, er gwaetha'r dyfarniad, cyhoeddodd na fyddai'n derbyn canlyniad yr ailgyfri.

roedd hwn yn gyfle da i gymru ennill ei gêm gyntaf yn y bencampwriaeth gan gofio y gweir a gafodd yr alban gan y crysau duon ond gwaetha'r modd nid wyf yn gweld y tîm hwn yn eu trechu hyd yn oed ar y maes cenedlaethol ac nid yw'n rhoi bodlonrwydd o gwbl imi fod yn dweud hynny ar ddechrau blwyddyn.

Roedd hi'n weithgar iawn yn ei chapel, sef Bethania, ac mi gadwodd fflam ei ffydd Gristnogol tan ddiwedd ei hoes, er gwaetha'r cyfnodau mynych o afiechyd.

Fe gafodd y gêm rhwng Lloegr a'r Alban ei chwarae er gwaetha clwy'r traed a'r genau.

Rywsut, mae Michael Bay a Jerry Bruckheimer wrth greu Americaniaid eofn a Siapaneaid anrhydeddus yn llwyddo i gadw'r ddesgil honno yn wastad ond, gwaetha'r modd, yn cyfrannu trwy wneud hynny at ddifetha ffilm a oedd eisoes yn gwegian.

Gwaetha'r modd, nid yw'n bosibl cael ateb i bob cwestiwn diddorol o?r fath !

Er gwaetha'r ansicrwydd oherwydd clwy'r taed a genau mae gêm fawr y penwythnos ymlaen - Cymru yn erbyn Ffrainc yng Nghystadleuaeth y Chwe Gwlad.

Gwaetha'r modd nid oedd eu mapiau yn dangos y bobl oedd yn rhan o'r tir na'u teimlad o berthyn i'w bro enedigol, na'u hatgofion yn ymestyn yn ôl dros y cenedlaethau at eu hen, hen hanes.

Aur yn sgîl yr arian - y Gemau Olympaidd Fe wnes i fwynhaur Gemau Olympaidd, a hynny er gwaetha clochdar y cyfryngau am lwyddiannau Prydain.

MAE CWPAN Y Byd ar gychwyn, ac mae'r un hen gyffro ama'i eto er gwaetha pob dim.

Mae'r ddau achos yma unwaith eto yn tanlinellu'r ffaith nad yw'r Gymraeg yn gyfartal â'r Saesneg yng Nghymru, a hynny er gwaetha'r ffaith bod y Ddeddf Iaith wedi'i phasio ers dwy flynedd.

Er gwaetha'r holl ganrifoedd o garcharu mae'r ddadl ynglyn â phwrpas carchar yn un sy'n dal i gael ei gwyntyllu.

Gwaetha'r modd, roedd Caradog yn rhy lluddedig i gerdded yr un cam arall a bu'n rhaid i Carwyn a Henedd ei gario bob yn ail.

Er gwaetha'r tywydd bydd y gêm ar Barc Ninian rhwng Caerdydd a Lincoln yn Nhrydedd Adran Cynghrair y Nationwide yn mynd rhagddi.

Er gwaetha'r pell- ter, mae'n werth mynd o leiaf unwaith.

Doedd yna ddim gwaed ar y stryd y tu allan i adeilad y Cynulliad Cenedlaethol pan oeddwn yn pasio bnawn Sul - er gwaetha'r hyn a ddigwyddodd i'r Fonesig Gwyther ar ei ffordd i'r Roial Welsh.

Er gwaetha'r ffaith ein bod yn elynion, a mi'n garcharor ac yntau'n warcheidwad, roedd ei grefydd newydd, ei Gristnogaeth, yn golygu parodrwydd i fentro'i fywyd dros ei gyd-ddyn, pwy bynnag ydoedd.

Ond gwaetha'r modd 'doedd yr un ohonom yn medru canu er ei fod e' yn well nag oeddwm i.

Gorfu i Manon edrych yn dosturiol arno, a hynny er gwaetha'r ffraeo a chodi cnecs.

Fe geir y teimlad mai'r amcan yw arddangos tebygrwydd y gorffennol i heddiw, er gwaetha'r gwahaniaethau arwyenbol, a hynny yn y pen draw er mwyn cyfleu'r syniad mai'r un yn ei hanfod yw'r natur ddynol ymhob cyfnod.

Wrth fynd yn hyn tri ohonom fyddai'n cystadlu yn erbyn ein gilydd sef Margaret Davies, Brynffynnon Terrace, Glenys Kirk (y ddiweddar, erbyn hyn, gwaetha'r modd) a minnau.

Nid oedd peiriannau heddiw gan y ffermwyr i hwyluso'u gwaith, ond roedd cyd- ymdrech gan y teulu cyfan a'r gymdogaeth yn rhoi boddhad iddynt er gwaetha'r gwaith caled.

o annwyd, a bod rhai yn colli pwysau er gwaetha'r siwgr sydd mewn betys.

NI welid mohono'n plymio'n acrobatig, yn bloeddio'n uchel ac yn mynd dros ben llestri er mwyn tynnu sylw ato'i hun (fel y gwneir heddiw, gwaetha'r modd).

Yn bersonol, oherwydd fy magwraeth yn Llundain, dydw i ddim yn parchu Saeson fwy nag y dylwn i.' ' Er gwaetha'r newidiadau a fu yn y Brifysgol ym Mangor dros y blynyddoedd dywed Gwyn Chambers y bydd yn colli'r ochr ddysgu yn arw.

Eto, er gwaetha'r anghytundeb sylfaenol hwn, 'roedd Waldo'n hoff ei wala o'i ewythr, ac yntau'n teimlo'r un fath tuag at Waldo.

Bu Edna'n dioddef yn ddewr a thawel, ac mi lwyddodd i gynnal ei sirioldeb er gwaetha'r amserau aml roedd yn rhaid iddi fod yn yr ysbyty.

Gwaetha'u modd nid oes llawer o orielau sy'n ddigon dewr i ddangos cylfyddyd fel hyn sy'n fwriadol Gymreig, yn hytrach na dangos sioeau diogel ac arddangosfeydd teithiol parod o'r South Bank.

Ond hwyrach mai'r hysbyseb gwaetha un dros roi grym yn nwylo'r werin yw'r portread ci%aidd a gawn o Wil James.

Er gwaetha'r llawenydd i Gasnewydd cafwyd un nodyn chwerw.

Efallai nad yw hon yn Lerpwl yn erbyn Arsenal - ond mae'n gêm bwysig er gwaetha hynny.

'Oes dim wedi digwydd iddi?" "Nac oes, was i, fel mae gwaetha'r modd.

Buom at y Maen Du bob dydd tra parodd y Storm ar ei gwaetha'; mynd gyda gofal a pharch mawr, heb ryfygu dim...

Oherwydd eu qallu i deithio'n rhwvdd o le i le, ac er gwaetha'r anhwylustod a'r costau, ânt hwy i weithio y tu allan i'w hardal a byw gartref ym Mro'r Eifl.

Er gwaetha'i harddull y mae hi'n llenor mawr, nid o'i herwydd.

Ychydig iawn, iawn o lyfrau Cymraeg a gafwyd ar ffiseg, cosmoleg ac astroffiseg a seryddiaeth, a dyna'r sefyllfa heddiw hefyd, gwaetha modd.

Hyd yn oed i rywun fel fi, sydd a'r nesa peth i ddim diddordeb mewn pêl-droed, roedd digon yn y rhaglen hon i gadw fy sylw, er gwaetha goslef llais soporiffig John Ogwen yn cyflwyno.

Ganed Richard Davies rywbryd yn ystod deng mlynedd cyntaf yr unfed ganrif ar bymtheg - ni allwn fod yn fwy pendant na hynny, gwaetha'r modd.

Ond dywedodd rheolwr Yr Alban, Craig Brown, mai dyma un o berfformiadau gwaetha ei dîm ers iddo fod wrth y llyw.

Derbyniodd argae Pergau gymorth oddi wrth Brydain o dan y llwyodraeth Dorïaidd, er gwaetha'r dadleuon am effaith amgylcheddol y cynllun oherwydd fod llywodraeth Malaysia yn prynu arfau Prydeinig.

Er gwaetha popeth, llwyddodd Ibn al Khatib i gyrraedd dinas o'r enw Fflorens ychydig ddyddia cyn y Pla .

Gwaetha'r modd, nid yw hyn yn wir am "CJ yn unig".

Ond dyna'r gwaetha o broblemau Cymru ddoe.

Gwaetha'r modd - iddo ef - roedd ei arweinyddiaeth yn drychinebus o'r dechrau.

A gwaetha'r modd, y mae Saeson yn rhai hawdd iawn i'w perswadio i edrych gyda dirmyg ar bawb nad ydynt yn Saeson.

Dydy'r anaf i'w bigwrn ddim yn gwella er gwaetha'r driniaeth.

Gwaetha'r modd, nid yw adnoddau prin y theatr Gymraeg yn cynnig mewnwelediad i awdur cyfoes o bwys.

Nid oes newid yno gwaetha'r modd.

Ni chafwyd yr un Rhoda Broughton, gwaetha'r modd, - yng Nghymru.

Er gwaetha'r holl ddioddefaint, nid mater hawdd yw ennyn diddordeb.

Er gwaetha'r hanesion erchyll, aeth amser yn drech na ni, ac roedd hi braidd yn hwyr arnom yn rhoi'r gorau i ffilmio.

"Y...nid chi 'dy'r dyn diarth sydd wedi prynu'r Nefoedd 'ma?" "Ia...gwaetha'r modd." "Falch ofnadwy o'ch cyfarfod chi," a gwthiodd Elis Robaitsh ei law fawr drwy ffenestr y car i J.R gael ei hysgwyd hi.

Brysiodd Idris hefyn yn ei flaen er gwaetha'r demtasiwn i godi'r teganau, yn gwbl benderfynol y byddai'n fwy gofalus o hyn ymlaen.

Anffawd ac anhawddfyd o'r math gwaetha', a doedd un dim wedi mynd o'u plaid er y noson honno.

Er mor boblogaidd y digwyddiad gyda gwylwyr gartref mae trefnwyr golff yr Alban wedi addo mai ar eu gwaetha nhw y digwydd yr un peth yr wythnos hon yn y Royal and Ancient yn St Andrews lle chwaraeir yr Open eleni.

Wnaed y nesa' peth i ddim i liniaru'r newyn yn Somalia, nes ei fod yn haeddu cael ei alw'n newyn gyda'r gwaetha' yn hanes dyn; doedd gan newyn a haeddai ei alw'r gwaetha' yn Nwyrain Affrica ddim o'r un dynfa, mae'n amlwg.

Gwaetha'r modd, y mae gennym bobl yng Nghymru sy'n credu mewn Cymraeg carbwl, ar yr egwyddor fod unrhyw Gymraeg yn well na dim.

Mae hwn hefyd, gwaetha'r moddwedi mynd yn adfeilion.

Erbyn hyn roedd y janglio wedi peidio a Miss Lloyd wedi ennill rhyw barchusrwydd newydd er gwaetha'r ffaith fod lori Lewsyn yn aml yn parhau i flocio'r pafin y tu allan i'r Tŷ Capel.

Sylweddolodd hyn, ac aeth yn ôl at 'i ffrindiau, y disgyblion, a dw i'n siwr fod Tomos, er gwaetha'r sioc ofnadwy o golli'r Iesu, 'i fod am glywed gan y disgyblion eu bod nhw wedi gweld yr Iesu atgyfodedig.

Gormod, gwaetha'r modd.

ASIANTAETHAU A MENTRAU Cyngor y Llywodraeth Ganol Er gwaetha'r amgylchiadau hyn, mae'n amlwg y bydd rhaid i ddatblygu cyfleoedd gwaith newydd ddigwydd o fewn fframwaith polisiau presennol y llywodraeth.

Y mae'r glowr mewn llenyddiaeth yn enghraifft meddai, "o gymeriad a grebachwyd gan deyrngarwch." "O safbwynt llenyddiaeth y Gymraeg byddai mwy o 'anheyrngarwch' ...wedi gwneud mwy o les, wrth gwrs, na'r teyrngarwch rhigolus sydd yn ei hanfod yn wrthlenyddiaeth, ond yr oedd argyfwng y Gymraeg, gwaetha'r modd, wedi peri meddwl ers tro fod pob 'anheyrngarwch' o reidrwydd yn ddinistriol.

Rydw i wedi derbyn dau yr un pryd, gwaetha'r modd.' Wrth sylwi ar ei hwyneb ychwanegodd yn gyflym, 'Dim byd gwaeth na mater bach o yrru'n ddiofal.

Rwyn ffyddiog y bydd Llanelli yn ennill er gwaetha'r dechreuad simpil mae nhw wedi ei gael i'r tymor.

Mae'r gair gwaetha 'mlaena gydag e fynycha - ond mae e'n ddyn caredig iawn, ond deall 'i ffordd e.

Costiodd ailwneud y gegin dros dri chan punt o'n harian prin, ac i mi, y peth gwaetha oedd y teimlad 'mod i wedi gadael Myrddin i lawr, drwy fod mor esgeulus.

Dywedais ein bod ni yn byw yn agos i chile, am hynny, oedd llawer o'r bobol yma yn byw yn agos, a nid y rhai gorau, gwaetha'r modd.

Er gwaetha'r gwynt a'r glaw cafodd tîm rygbi'r gynghrair Cymru fuddugoliaeth ysgubol yn erbyn Ynysoedd Cook.

Er gwaetha'r glaw a'r gwynt, daeth dros hanner cant ynghyd yn nghanolfan yr awyrlu yn y Fali ar ddydd Sadwrn yr 11eg o Dachwedd.

Ond er gwaetha hynny, daeth swydd newydd Kath â hi'n agos iawn at galon nifer o'r pentrefwyr.

Er gwaetha'r gwlybaniaeth, roedd y croeso'n eithriadol o gynnes.

Gwaetha'r modd, ni chafodd y gweinidog arall ei "visa% yn ôl mewn pryd, gan fod yn rhaid i'w basport, lle gwelid ei enw fel "The Rev., gael ei ddanfon ymlaen i'r awdurdodau ym Mhrâg cyn cael ei brosesu.

Mae gwledydd eraill sydd yn cymryd normaleiddio eu hiaith o ddifrif bellach yn gweld twf yn y niferoedd sy'n medru'r iaith ar draws y sbectrwm oedran er gwaetha'r pwysau cynyddol oddi wrth ieithoedd dominyddol y byd.

Ond, er gwaetha'r cynlluniau datblygu, mae'r bobl hyn yn colli'r frwydr yn erbyn dirywiad y tir; does yna ddim digon o fuddsoddiad tramor.

Gallai fy nhad, Joseph Davies, siarad Cymraeg - 'Rhondda Welsh', fel y dywedai (heb falchder, gwaetha'r modd) - ond ni siaradai Gymraeg ar yr aelwyd gan mai di-Gymraeg oedd fy mam.

ond er gwaetha'r adnoddau 'roedd y ferfa yn dwad i siâp.

Gwaetha'r modd, nid yw cymanfa ganu yn rhoi darlun cywir o fywyd crefyddol ein cenedl.

Ond nid y tu draw i'r Mynydd Du yr oeddwn yn gwrando ar Esther Pugh yn canu emyn; er gwaetha sūn Cymreig ei henw nid Cymraes mohoni.