Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwaethygodd

gwaethygodd

Gwaethygodd eu priodas yn arw wrth i Eileen helpu ei chwaer, Gina, ac ym mis Mai 1996 gwahanodd y ddau ar ôl i Denzil gael gwybod fod Eileen yn cael affêr gyda Jon, cyfreithiwr Gina.

Ond wrth iddo fynd yn ei flaen gwaethygodd y tir eto; âi'r ddaear yn llai ffrwythlon, a nifer y tai yn llai ac yn llai.

Yn ystod y gwyliau fe gymerwyd y famgu yn wael ac fe brynwyd aspirin iddi a moddion arall ond ni fuwyd at y doctor lleol o gwbl, ac yn sydyn rhyw noswaith gwaethygodd ei chyflwr yn ddisymwth, a bu farw.

Gwaethygodd y berthynas rhyngom a'r awdurdodau wedi i ni ddychwelyd i Tehran.

Tri thei o'r dror acw, wedi eu clymu yn ei gilydd oedd am ei gwddf" Gwaethygodd y briwiau bob awr ar garlam gwyllt.

Wedi'r fath golledion arteithiol, gwaethygodd ei iechyd a soniai fwyfwy yn y pulpud ac yn ei ysgrifau am dymhestloedd geirwon, blin gystuddiau, chwerwder marwolaeth, y dywarchen olaf, lleithder y bedd, ac angau a thragwyddoldeb.

Gwaethygodd y storm, ysgubodd moryn mawr drosti a golchi'r ddau gwch achub i'r môr a malu'r olwyn llywio.

Gwaethygodd y broblem pan ruthrodd plismyn ar geffylau at dorf o 300,000 yn Sgwâr Trafalgar.